Amserlenni Addysgu, Calendr Canvas a'r Calendr Asesu

Sut i ddefnyddio’r Amserlenni Addysgu a Chalendr Canvas gyda’i gilydd er mwyn dy helpu i drefnu dy amserlen astudio a rheoli dy amser.

Open Timetable

Mae’r amserlen addysgu’n dangos y prif weithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer yr holl fodiwlau ym mhob rhaglen astudio.

Gelli di gyrchu dy amserlen addysgu ar Open Timetable.

Am ymholiadau cyffredinol ynghylch dy amserlen, cer i weld tîm derbynfa’r Gyfadran

Rhagor o wybodaeth

Er mwyn gweld yr amserlenni, dewiswch “GUEST” ac nid “Log in”. Sylwer oni bai bod y Gyfadran/Ysgol wedi rhoi gwybod i chi fod gennych amserlen bersonol, ni ddylid defnyddio'r ddolen “Log in” gan y gall ddangos gwybodaeth anghywir.

Yn yr amserlenni gelli di chwilio am dy amserlen drwy ddewis naill ai dy raglen astudio neu drwy ddewis Modiwlau. Bydd yr opsiynau hyn yn dangos trosolwg o’r holl weithgareddau dysgu a gynlluniwyd; fodd bynnag, mae’n bosib na fyddant yn dangos manylion dy grŵp am weithgareddau lle ailadroddir sesiynau nac yn cynnwys yr holl sesiynau opsiynol a drefnwyd ychwaith. Am gwestiynau am sesiynau grŵp a sesiynau opsiynol, cysyllta a’th Gydlynwyr Modiwl yn uniongyrchol.

Ar eich amserlen, o dan bob digwyddiad, byddwch yn gweld:

  • Côd Modiwl: Mae'r côd hwn (h.y. EG-163 neu CS-115_A) yn nodi pa fodiwl y mae'r sesiwn addysgu'n gysylltiedig ag ef. Pan fyddwch yn cofrestru, gofynnir i chi gadarnhau'r modiwlau a ddewisoch (gan gynnwys unrhyw fodiwlau dewisol) ac ar ôl i chi gofrestru, bydd gennych restr o'r modiwlau y bydd angen i chi eu mynychu o dan Proffil Myfyriwr/Manylion y Cwrs/Modiwlau 2023 ar fewnrwyd y Brifysgol
  • Math o Sesiwn: Caiff eich sesiynau addysgu eu cynnal ar ffurfiau gwahanol, sef Darlith, Dosbarth Enghreifftiol, Seminar, Gweithdy a Sesiwn Ymarferol (Labordai a Labordai Cyfrifiaduron), etc.
  • Wythnosau: Mae'r flwyddyn academaidd wedi'i rhannu'n wythnosau wedi'u rhifo. Mae'r adran hon ar yr amserlen yn dangos ym mha wythnosau y bydd sesiwn addysgu'n cael ei chynnal. Rhowch sylw gofalus i hyn, oherwydd na fydd pob sesiwn addysgu'n cael ei chynnal bob wythnos. Gweler y rhifau wythnosau addysgu ar y dudalen Dyddiadau Tymhorau 23-24.  Yr wythnos sy'n dechrau ar 25 Medi yw Wythnos Addysgu 1.

Calendr Canvas

Nid yw Calendr Canvas yn disodli dy Open Timetable. Bydd dy Galendr Canvas yn dangos digwyddiadau sydd ar ddod a dyddiadau cau asesu y mae dy Gydlynwyr Modiwl wedi’u hychwanegu at Canvas, ond ni fydd yn dangos yr amserlen gyflawn. Defnyddir Canvas o hyd i reoli dyraniadau mewn grwpiau bach/sesiynau hybrid a bydd yr holl Gydlynwyr Modiwl yn ceisio diweddaru Calendr Canvas i adlewyrchu gweithgareddau modiwlau. Fodd bynnag, gallai fod adegau pan na fydd Calendr Canvas wedi’i ddiweddaru’n llawn.

Dylet ti edrych ar Galendr Canvas ac Open Timetable i sicrhau bod gennyt ti’r fersiwn ddiweddaraf a mwyaf cyflawn o’r amserlen.

CWESTIYNAU CYFFREDIN AM AMSERLENNI