Amserlenni Addysgu, Calendr Canvas a'r Calendr Asesu
Sut i ddefnyddio’r Amserlenni Addysgu a Chalendr Canvas gyda’i gilydd er mwyn dy helpu i drefnu dy amserlen astudio a rheoli dy amser.
Sut i ddefnyddio’r Amserlenni Addysgu a Chalendr Canvas gyda’i gilydd er mwyn dy helpu i drefnu dy amserlen astudio a rheoli dy amser.
Mae’r amserlen addysgu’n dangos y prif weithgareddau dysgu ac addysgu ar gyfer yr holl fodiwlau ym mhob rhaglen astudio.
Gelli di gyrchu dy amserlen addysgu ar Open Timetable. Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau fideo ynghylch sut i ddefnyddio Open Timetables, yma.
Am ymholiadau cyffredinol ynghylch dy amserlen, cer i weld tîm derbynfa’r Gyfadran.
Er mwyn gweld yr amserlenni, dewiswch “GUEST” ac nid “Log in”. Sylwer oni bai bod y Gyfadran/Ysgol wedi rhoi gwybod i chi fod gennych amserlen bersonol, ni ddylid defnyddio'r ddolen “Log in” gan y gall ddangos gwybodaeth anghywir.
Yn yr amserlenni gelli di chwilio am dy amserlen drwy ddewis naill ai dy raglen astudio neu drwy ddewis Modiwlau. Bydd yr opsiynau hyn yn dangos trosolwg o’r holl weithgareddau dysgu a gynlluniwyd; fodd bynnag, mae’n bosib na fyddant yn dangos manylion dy grŵp am weithgareddau lle ailadroddir sesiynau nac yn cynnwys yr holl sesiynau opsiynol a drefnwyd ychwaith. Am gwestiynau am sesiynau grŵp a sesiynau opsiynol, cysyllta a’th Gydlynwyr Modiwl yn uniongyrchol.
Ar eich amserlen, o dan bob digwyddiad, byddwch yn gweld:
Nid yw Calendr Canvas yn disodli dy Open Timetable. Bydd dy Galendr Canvas yn dangos digwyddiadau sydd ar ddod a dyddiadau cau asesu y mae dy Gydlynwyr Modiwl wedi’u hychwanegu at Canvas, ond ni fydd yn dangos yr amserlen gyflawn. Defnyddir Canvas o hyd i reoli dyraniadau mewn grwpiau bach/sesiynau hybrid a bydd yr holl Gydlynwyr Modiwl yn ceisio diweddaru Calendr Canvas i adlewyrchu gweithgareddau modiwlau. Fodd bynnag, gallai fod adegau pan na fydd Calendr Canvas wedi’i ddiweddaru’n llawn.
Dylet ti edrych ar Galendr Canvas ac Open Timetable i sicrhau bod gennyt ti’r fersiwn ddiweddaraf a mwyaf cyflawn o’r amserlen.