Rheoliadau Prifysgol Eraill
Rheoliadau a Pholisïau Ychwanegol ar gyfer pob myfyriwr
Gwisg Academaidd
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd yn y Seremonïau Graddio ac mewn achlysuron eraill o eiddo'r Brifysgol lle nodir hynny.
Argymhellion Tywydd Garw
Yn ystod cyfnod o dywydd garw, rhoddir diweddariadau rheolaidd ar Hafan y Brifysgol - dyna'r lle i fynd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Egwyddorion Cyffredinol
Os bydd y Brifysgol ar agor o hyd, mae'n disgwyl i fyfyrwyr wneud pob ymdrech rhesymol, gan ystyried eu diogelwch personol, i ym bresenoli yn y Brifysgol yn ystod cyfnod o dywydd garw.
Cyfathrebu â Myfyrwyr
Bydd y Brifysgol yn cyfathrebu â myfyrwyr gan ddefnyddio ei gwefan. Gellir defnyddiau dulliau cyfathrebu eraill hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys e-bost a Canvas.
Teithio
Cynghorir myfyrwyr i adael digon o amser ar gyfer teithio. Cynghorir myfyrwyr sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wirio a yw gwasanaethau'n rhedeg trwy ofyn i'r darparwyr.
Arholiadau
Dylai myfyrwyr wirio eu hamserlen arholiadau'r Brifysgol i sicrhau eu bod yn gwybod dyddiadau, amseroedd a lleoliadau eu harholiadau er mwyn gallu asesu eu dewisiadau teithio.
Cynhelir arholiadau yn unol â'r amserlen. Gwneir unrhyw benderfyniad i ohirio arholiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg ar ôl iddo asesu'r wybodaeth sydd ar gael o ran y tywydd a mynediad at leoliadau. Ychwanegwyd dyddiau wrth gefn i gyfnod arholi mis Ionawr, a hysbysir myfyrwyr ymlaen llaw am y dyddiadau hyn. Disgwylir iddynt fod ar gael i sefyll arholiadau ar y dyddiadau hyn os bydd angen. Rhoddir manylion am unrhyw arholiadau a ohirir ar wefan y Brifysgol, a hysbysir myfyrwyr am unrhyw ohirio trwy eu cyfrifon e-bost yn y Brifysgol. Bydd gwybodaeth ar gael hefyd trwy Facebook, X (Twitter gynt), newyddion lleol a radio lleol, a Canvas.
Cyrraedd yn hwyr - Caniateir mynediad i'r lleoliad am hyd at 30 munud ar ôl i'r arholiad gychwyn.
Colli arholiad - Dylai myfyrwyr sy'n colli arholiad roi gwybod i'r Brifysgol yn unol â'r cyfarwyddyd yn y Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
Amserlen Addysgu
Oni bai fod y Brifysgol ar gau, bydd yr addysgu'n parhau'n unol â'r amserlen a gyhoeddwyd. Cynghorir myfyrwyr i fonitro eu cyfrif e-bost yn y Brifysgol am unrhyw gyhoeddiadau ychwanegol gan eu Cyfadran/Hysgol. Bydd raid i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu sesiynau cyswllt a amserlennwyd ddal i fyny lle bo modd.
Lleoliadau
Cynghorir myfyrwyr sydd ar leoliad i wneud pob ymdrech i ymbresenoli, a dylent wirio'r sefyllfa o ran agor mangreoedd gyda darparwr y lleoliad. Dylai myfyrwyr gysylltu â darparwr eu lleoliad a'u Cyfadran/Hysgol os na allant ymbresenoli oherwydd tywydd garw.
Dyddiadau cau ar gyfer gwaith cwrs a thraethodau hir
Bydd y dyddiadau cau presennol yn ddilys o hyd. Mewn rhai achosion, gallai fod modd i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith yn electronig (os bydd y Gyfadran/Ysgol wedi'u hysbysu ymlaen llaw).
Dylai myfyrwyr gysylltu â'u Cyfadran/Ysgol os na allant gyflwyno gwaith cwrs neu draethawd hir. Bydd y Gyfadran/Ysgol yn ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs neu asesiad yn ystod y flwyddyn yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Bydd y Cyfadrannau/Ysgolion y'n cyhoeddi canllawiau, gan gynnwys dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno amgylchiadau esgusodol a'r gweithdrefnau a'r amserlen ar gyfer ystyried unrhyw gyflwyniadau ac ar gyfer hysbysu'r myfyriwr am y canlyniad.
Diweddariadau am y tywydd
Mae diweddariadau ar y tywydd ar gael ar wefan y Swyddfa Dywydd (www.metoffice.gov.uk) ac ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd (http://www.environment-agency.gov.uk/).
Polisi Oedran
Mae pob aelod o staff a phob myfyriwr yr un mor bwysig i Brifysgol Abertawe, beth bynnag eu hoedran. Mae'r Brifysgol yn ymdrechu i greu amgylchedd lle mae’r holl aelodau staff a myfyrwyr, beth bynnag eu hoedran, yn teimlo bod y Brifysgol yn eu croesawu ac yn eu gwerthfawrogir i’r un graddau, a lle na oddefir unrhyw wahaniaethu ar sail oedran.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod i ba raddau y ceir gwahaniaethu ar sail oedran yn y gymdeithas sydd ohoni, ac yn ceisio sicrhau, trwy roi polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith, na cheir gwahaniaethu, boed yn fwriadol ai peidio. Mae'r Adran Adnoddau Dynol yn gwarantu y caiff unrhyw benderfyniad o ran recriwtio, dewis, neu gynnydd ei wneud ar sail y meini prawf perthnasol yn unig, na fydd yn cynnwys unrhyw faen prawf ar sail oedran neu'n ymwneud ag oedran. Ceir rhagor o gyfarwyddyd ar sut y caiff y polisi hwn ei weithredu yng Ngweithdrefn Oedran ac Ymddeol y Brifysgol.
Bydd hyn o fudd i staff a myfyrwyr unigol, ond bydd o fudd i'r Brifysgol hefyd, gan y bydd yn lleihau costau recriwtio a hyfforddi, yn gwella morâl y staff, ac yn gwella cynhyrchiant.
Polisi Alcohol
1. Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn rhan o ymagwedd ar ran y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr sy'n hyrwyddo awyrgylch diogel a chefnogol i astudio a gweithio ynddo. Y rhagosodiadau sylfaenol yw cymorth ac addysg, gan ganolbwyntio ar ffiniau ymddygiad derbyniol a chyfrifol.
Mae defnydd niweidiol o alcohol yng Nghymru yn llawer mwy eang na defnydd cyffuriau a sylweddau eraill. Mae hyd at 40% o oedolion yng Nghymru'n yfed mwy na'r uchafswm a argymhellir, ac mae 20% yn cyfaddef goryfed mewn pyliau (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2008, Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Cymru 2008-2018), gan ei wneud yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol, y tu mewn i'r brifysgol a'r tu allan iddi.
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymdrechu i alluogi myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ar ddefnyddio alcohol, a bydd gwybodaeth ar y cyfarwyddyd diweddaraf ar gael trwy Wasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr. Ar ben hynny, bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ystyried i ba raddau y gall alcohol fod yn rhwystr i gyfranogiad myfyrwyr, yn arbennig o ran crefydd a chred.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod na fydd camddefnyddio alcohol yn effeithio ar y rhan fwyaf o fyfyrwyr, ond os bydd myfyriwr yn datgelu bod ganddo broblem, caiff ei drin gyda chydymdeimlad ac mewn modd cyfrinachol.
Cynigir cymorth trwy Wasanaethau Myfyrwyr a thrwy Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr lle bo modd, a gellir atgyfeirio'r achos i asiantaethau cymorth allanol os oes angen cymorth sydd y tu hwnt i arbenigedd y gwasanaethau hynny.
Mae'n bwysig cydnabod y gall myfyriwr sydd â phroblem yn ymwneud ag alcohol, neu sy'n datblygu'r fath broblem, achosi niwed iddo ef ei hun ac i bobl eraill, ac ystyrir y risg hwn wrth benderfynu ar gamau gweithredu.
Yn aml, bydd camddefnyddio alcohol yn effeithio ar berfformiad ac ymddygiad y myfyriwr, ac ar ei berthynas â phobl eraill ar ei gwrs ac yn ei lety. Gall hefyd fod â goblygiadau o ran dewis gyrfa yn y dyfodol.
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal statudol i'w myfyrwyr, i'w staff, ac i'w hymwelwyr, ac mae'n ceisio darparu awyrgylch astudio a gweithio diogel ac iach o safon. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â'r risgiau a ddaw yn sgil camddefnyddio alcohol, hysbysu myfyrwyr o'u cyfrifoldebau a'r codau ymddygiad, a darparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd, a chymorth ar gais. Mae gan bob myfyriwr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o ran ei ddiogelwch ei hun a diogelwch pobl eraill.
Mewn amgylchiadau penodol, gellid gweithredu yn erbyn unigolion o dan brosesau disgyblu'r Brifysgol, neu ofyn iddynt adael, a/neu eu riportio i'r heddlu. Nid yw'r Brifysgol yn dymuno troseddoli ei myfyrwyr na'i hymwelwyr, ond mae ganddi fuddiant dilys o ran diogelu cymuned y Brifysgol a'i henw da ei hun o ganlyniadau posibl camddefnyddio alcohol.
2. Pwy Sydd o Fewn Cwmpas y Polisi?
Mae'r polisi yn berthnasol i fyfyrwyr os bydd risg iddyn nhw neu i bobl eraill, neu os bydd eu hymddygiad neu ansawdd eu gwaith yn effeithio ar bobl eraill neu ar enw da'r Brifysgol (megis myfyrwyr ar leoliadau gwaith a drefnir gan y Brifysgol, myfyrwyr yn gweithio mewn labordai ar brosiectau ymchwil, neu fyfyrwyr sy'n aelodau o dimau chwaraeon y Brifysgol). Mae'n berthnasol i fyfyrwyr boed ar dir y Brifysgol neu yn rhywle arall ar fusnes y brifysgol neu ar weithgarwch astudio, gan gynnwys eiddo a reolir ar ran y Brifysgol gan drydydd parti, megis preswylfeydd, neu dai Gwasanaethau Llety Myfyrwyr oddi ar y campws.
Mae'r polisi’n berthnasol hefyd i Undebau Myfyrwyr, cyrff annibynnol sy'n trafod a rheoli eu busnes eu hunain yn unol â'u cyfansoddiadau.
3. Amcanion y Polisi
Pwrpas y polisi yw:
- Hyrwyddo iechyd, diogelwch, a lles trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd, a chymorth.
- Hysbysu myfyrwyr o ganlyniadau posibl camddefnyddio alcohol.
- Darparu gwybodaeth ar opsiynau cymorth pan fo'n addas.
- Annog unigolion sydd â phroblem yn ymwneud ag alcohol i geisio cymorth.
- Cyfeirio myfyrwyr a staff at wybodaeth o ran cyfrifoldebau myfyrwyr a'r cod ymddygiad.
- Hysbysu myfyrwyr o sut y gall camddefnyddio alcohol a'r canlyniadau posibl arwain at gamau disgyblu a/neu weithredu cyfreithiol.
4. Beth yw Ystyr 'Cam-ddefnydd'?
Diffinnir camddefnyddio alcohol fel defnyddio alcohol, yn arferol neu'n ysbeidiol, mewn modd sy'n niweidiol i iechyd unigolyn, neu i'w weithredu cymdeithasol, neu i'w berfformiad o ran astudio neu waith. Gall amharu ar ddiogelwch yr unigolyn neu bobl eraill, a gall effeithio ar bresenoldeb, ar gadw amser, ar effeithlonrwydd, ac ar ymddygiad.
Dibyniaeth
Mae'r problemau a gysylltir ag alcoholiaeth, neu â dibyniaeth ar alcohol, mewn ystod eang a gallant fod yn gorfforol, yn seicolegol, neu'n gymdeithasol. I rywun sydd â phroblem yfed, mae yfed yn troi'n orfodaeth, ac yn cael y flaenoriaeth dros unrhyw weithgarwch arall.
Mae rhywun sy'n dibynnu ar alcohol:
- â dymuniad cryf i yfed alcohol
- yn cael anhawster rheoli ei ddefnydd o alcohol
- yn defnyddio alcohol yn gyson er ei fod yn ymwybodol o'r effeithiau niweidiol
- yn dangos goddefedd uwch i alcohol
- yn dangos symptomau diddyfnu pan fydd heb alcohol
Goryfed mewn Pyliau
Diffiniad goryfed mewn pyliau yw yfed wyth uned neu fwy o alcohol mewn sesiwn os yn ddyn, a mwy na chwe uned os yn fenyw. Mae astudiaethau'n dechrau dangos y gall yfed llawer o alcohol mewn amser byr fod yn sylweddol fwy niweidiol i'ch iechyd nag yfed ychydig yn aml. I leihau'r risg i iechyd, mae'r Adran Iechyd yn argymell na ddylai dynion mewn oed yfed mwy na thri i bedwar o unedau'r diwrnod, ac na ddylai menywod mewn oed yfed mwy na dau i dri o unedau'r diwrnod. Ceir rhestr islaw yn dangos sawl uned o alcohol sydd mewn rhai o'r diodydd poblogaidd.
- Mae gwydraid safonol o win (175ml) yn 2.1 uned os yw'r gwin yn 12% alcohol, ac mae gwydraid mawr (250ml) yn 3 uned.
- Mae mesur (35ml) o wirodydd (40% alcohol) yn 1.4 uned.
- Mae potelaid (275ml) o alcopop cryfder arferol (5% alcohol) yn 1.4 uned.
- Mae llymaid (35ml) o wirodydd, fel arfer rhwng 35% a 40% alcohol, yn 1.3 uned.
- Mae peint (568ml) o gwrw cryfder isel, neu lager, (3.4% i 4% alcohol) yn 2.3 uned.
- Mae mesur safonol o bort neu sieri (50ml) yn 1 uned.
Defnyddir lefel alcohol yn y gwaed i fesur meddwdod unigolyn. Mae'r mesur yn datgelu sawl miligram o alcohol sydd ym mhob 100 mililitr o waed. Yn y DU, mae'r gyfraith yn gwahardd unigolyn rhag gyrru os bydd ganddo fwy na 80mg ym mhob 100ml o waed (http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk).
Rhag-ddiota
Rhag-ddiota yw'r arfer o yfed alcohol gartref cyn mynd allan i farrau a chlybiau. Cafwyd bod dros hanner y myfyrwyr sy'n yfed alcohol wedi 'rhag-ddiota'. Yn gyffredinol, pan fydd pobl yn rhag-ddiota, maent bedair gwaith yn fwy tebygol o yfed dros 20 uned ar noson allan (o gynnwys y rhag-ddiota a'r yfed mewn barrau a chlybiau). Mae cysylltiad cryf rhwng y lefel hon o yfed a risg uwch i iechyd, yn ogystal â chysylltiad gyda phroblemau ymddygiad eraill megis trais bywyd nos ac ymddygiad rhywiol anniogel.
5. Y sefyllfa Gyfreithiol
Y mae chwe pheth, ymhlith eraill, yn anghyfreithlon:
(a) Gwerthu diodydd meddwol heb bryd os na fydd y drwydded ond yn caniatáu gwerthu diodydd gyda phryd;
(b) Gweini diod feddwol i gwsmer sydd, ym marn y sawl sy'n ei weini, eisoes yn feddw;
(c) Gweini diodydd meddwol i bobl dan 18 oed (gydag ambell i eithriad o ran prydau bwrdd);
(d) Caniatáu i unigolyn sy'n feddw aros yn y mangre heb reswm da (e.e. salwch);
(e) Caniatáu gamblo, gyda mân eithriadau;
(f) Caniatáu dadlau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'n ofynnol i bob deiliad trwydded fynychu cwrs hyfforddiant addas.
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 yn gosod dyletswydd gofal ar gyflogwr i sicrhau, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch, a lles yn y gweithle, i staff, myfyrwyr, a defnyddwyr eraill ei fangre.
Mae Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn dweud bod unigolyn yn troseddu os bydd yn gyrru, neu'n ceisio gyrru, cerbyd modur mewn man cyhoeddus tra ei fod yn anghymwys o ganlyniad i gymryd diodydd meddwol neu gyffuriau.
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg mangreoedd trwyddedig yn unol â thelerau Deddf Trwyddedu 2005.
6. Prisio a Hyrwyddo
Fel arfer, mae'r prisiau ym marrau Undeb y Myfyrwyr dipyn yn is na'r rhai yn y tafarndai sydd agosaf at y campws, ond yn aml maent yn debyg i'r prisiau mewn tafarndai nid nepell i ffwrdd. Credir bod y polisi prisio hwn yn gweithio er lles y myfyrwyr.
7. Cod Ymddygiad
Mae'r cod ymddygiad yn disgrifio'r dyletswyddau statudol o ran iechyd a diogelwch, a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan fyfyrwyr a staff. Disgwylir y bydd pob myfyriwr yn derbyn cyfrifoldeb personol am sicrhau nad yw camddefnyddio alcohol yn effeithio ar ei berfformiad gwaith neu astudio. Gall ymddygiad sy'n groes i'r cod arwain at gamau disgyblu.
Mae'r cod yn dweud:
- Na ddylai neb ymgymryd â busnes y brifysgol na chynrychioli'r brifysgol tra ei fod yn anghymwys oherwydd alcohol.
- Y gellid cymryd camau disgyblu yn erbyn unigolyn sy'n defnyddio alcohol mewn modd sy'n creu perygl iddo ef ei hun neu i bobl eraill. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys gwaith clinigol gyda chleifion, gyrru, chwaraeon, defnyddio offer neu sylweddau peryglus, neu unrhyw weithgarwch arall y mae asesiad risg wedi nodi ei fod yn beryglus.
- Bod methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion cofrestru statudol, codau moesegol proffesiynol, neu ddarpariaethau achredu, o ran camddefnyddio alcohol (e.e. mewn gwaith clinigol gyda chleifion, gwaith gydag ysgolion) yn debyg o arwain at gamau disgyblu.
- Na chaiff meddwdod ei dderbyn yn ffactor lliniarol yn achos myfyriwr sy'n torri rheoliadau'r brifysgol. Caiff myfyrwyr gyda phroblemau alcohol eu hannog yn gryf i siarad â'r rhai a all eu helpu a'u cefnogi, ond ni chânt eu heithrio o gamau disgyblu o ganlyniad i dorri rheoliadau'r Brifysgol.
- Bod myfyrwyr yn cael eu cynghori'n gryf i beidio â chyfaddawdu eu diogelwch eu hunain trwy weithio gyda rhywun, neu ddibynnu ar rywun (e.e. fel cyd-deithiwr mewn car neu fws), sydd wedi yfed mwy na'r uchafswm cyfreithiol o alcohol.
- Bod myfyrwyr yn cael eu cynghori'n gryf y bydd y Gyfadran/Ysgol berthnasol yn ymchwilio i unrhyw amharu ar waith academaidd o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol.
- Na ddylid rhoi pwysau ar neb i yfed alcohol. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy'n methu â pharchu eraill, neu sy'n eu heithrio, yn ogystal ag ychwanegu alcohol i ddiodydd pobl eraill.
8. Cyfrinachedd a Diogelu Data
Caiff pob achos ei drin yn gyfrinachol, a phrosesir unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Gall staff perthnasol ei defnyddio i ystyried pa gymorth sydd ei angen, ac i reoli'r berthynas astudio. Pan fo modd, perchir cyfrinachedd yr wybodaeth a ddarperir gan fyfyrwyr, oni bai fod risg difrifol o niwed i'r myfyriwr neu i rywun arall. Dylai staff ddweud yn glir o'r cychwyn cyntaf bod cyfrinachedd yn gyfyngedig, ac na chedwir gwybodaeth yn gyfrinachol os byddai peidio â datgelu'r wybodaeth honno'n creu risg i'r unigolyn neu i bobl eraill.
9. Ein hymrwymiad
Lles y myfyrwyr yn gyffredinol yw prif ysgogiad y polisi hwn, ac fel manwerthwr alcohol cyfrifol byddwn yn dilyn yr ymarfer gorau canlynol:
- Gosodir prisiau yn y barrau ar lefel fydd yn annog myfyrwyr i ddefnyddio'r cyfleusterau, ond na fydd mor isel ei bod yn annog goryfed.
- Bydd y ddiod ddi-alcohol ddrutach sydd ar werth bob amser yn rhatach na'r ddiod feddwol rataf sydd ar werth.
- Darperir dŵr yfed am ddim i bob cwsmer ar gais.
- Ni chaniateir seremonïau 'sefydlu' sy'n cynnwys goryfed alcohol, boed yn y mangreoedd neu oddi allan iddynt. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu grwpiau/cymdeithasau sy'n dymuno cynnal digwyddiadau nad ydynt yn canolbwyntio ar feddwi.
- Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod cyfleusterau/digwyddiadau'n hygyrch i fyfyrwyr nad ydynt yn dymuno yfed alcohol, naill ai ar sail dewis personol neu ynteu ar sail crefydd neu gred. Byddwn yn ystyried dewisiadau amgen di-alcohol sy'n denu myfyrwyr o bob grŵp crefyddol neu gred lle bo modd.
- Byddwn yn cymryd rhan yn y Cynllun 'Best Bar None', a byddwn yn cyrraedd y safon angenrheidiol er mwyn cael ein hachredu.
- Bydd addysg ac ymgyrchu ar alcohol yn rhan o'n hymrwymiad i les myfyrwyr, a bydd Undeb y Myfyrwyr a/neu Wasanaethau Myfyrwyr yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd i annog yfed cymedrol synhwyrol.
- Byddwn yn cydweithio â gwasanaethau lleol yn y gymuned, h.y. yr Heddlu, cymdeithasau trigolion ac yn y blaen, i greu perthynas dda ac i gynyddu ymwybyddiaeth o effeithiau cadarnhaol myfyrwyr yn eu cymunedau lleol, a byddwn yn ymateb mewn modd addas i unrhyw bryderon neu gwynion yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol, er enghraifft problemau sŵn.
Polisi Alcohol Atodiadau
Atodiad A
Cyfarwyddyd
Dylai Myfyrwyr:
- Fod yn ymwybodol o'r polisi hwn, a'r dogfennau ategol.
- Ceisio cymorth o'u gwirfodd os oes ganddynt bryderon am eu defnydd o alcohol. O fewn y brifysgol, mae cymorth ar gael gan diwtoriaid personol, Gwasanaethau Myfyrwyr, Wardeniaid Lles, ac Undeb y Myfyrwyr. Am gymorth yn y gymuned, ewch i'n gwefan: http://www.healthycitydirectory.co.uk/ neu cysylltwch â'r bobl a restrwyd uchod.
- Ceisio cyngor neu gymorth os gofynnir iddynt wneud hynny, gan gynnwys fel rhan o gosb ddisgyblaethol.
- Annog myfyrwyr eraill i geisio cymorth os bydd ganddynt broblem.
- Darllen gwybodaeth ar effeithiau posibl camddefnyddio alcohol ar eu cyllid, ar eu hiechyd, ac ar bobl eraill. Mae gwybodaeth ar gael trwy Wasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.
- Tynnu sylw aelod perthnasol o staff at unrhyw broblemau maent yn eu gweld yn datblygu yn y sefydliad, yn arbennig os oes pryderon am y sefyllfa gyfreithiol neu am iechyd a diogelwch.
- Bod yn ymwybodol o ymddygiad myfyrwyr o'u cwmpas, a gwneud eu gorau i sicrhau eu diogelwch a'u lles.
Dylai Staff:
- Fod yn ymwybodol o'r polisi, gweithdrefnau, gwasanaethau sydd ar gael, a gweithdrefnau atgyfeirio sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â myfyrwyr ac alcohol. Dylid cynnwys yr wybodaeth hon wrth sefydlu myfyrwyr. Annog myfyrwyr i geisio cymorth addas os oes pryder am eu lles o ran alcohol. Cyfrannu at ddatblygu a hwyluso gweithgarwch cynyddu ymwybyddiaeth.
- Cadw effeithiau posibl alcohol mewn cof wrth wneud asesiadau risg ar weithgareddau arfaethedig.
- Ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau am unrhyw awgrym o gamddefnyddio alcohol, a chydlynu â'r adrannau perthnasol.
- Sicrhau nad oes camddefnyddio alcohol, neu bwysau i'w gamddefnyddio, yn ystod digwyddiadau cymdeithasol y brifysgol. Rhaid sicrhau bod diodydd di-alcohol ar gael yn y fath ddigwyddiadau.
Dylai Undeb y Myfyrwyr:
- Gynnig gwybodaeth a chyngor am y gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n pryderu am eu defnydd o alcohol.
- Annog a hyrwyddo agwedd synhwyrol tuag at yfed alcohol.
- Cynnal a chefnogi digwyddiadau addysgol, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, a gweithgareddau sy'n hyrwyddo iechyd a lles ar y cyd ag adrannau eraill.
- Sicrhau bod polisïau sy'n ymwneud â myfyrwyr yn adlewyrchu agwedd tuag at alcohol sy'n hwyluso lles y myfyrwyr.
- Cefnogi cymdeithasau a chlybiau myfyrwyr sy'n cytuno contractau nawdd gyda busnesau sy'n gwerthu alcohol i sicrhau eu bod yn hyrwyddo lles myfyrwyr ac yn annog pobl i beidio â goryfed.
- Sicrhau nad yw digwyddiadau cymdeithasol yn seiliedig ar oryfed, ac nad yw'r cyhoeddusrwydd am y fath ddigwyddiadau'n canolbwyntio'n ormodol ar alcohol.
- Gweithredu'n unol â gofynion y ddeddf trwyddedu.
Dylai Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr:
- Weithredu fel man hunan-atgyfeirio cyfrinachol ar gyfer myfyrwyr.
- Darparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd, a chymorth i fyfyrwyr sy'n dod atynt gyda phroblem yn ymwneud ag alcohol.
- Cadw cyfrinachedd priodol, a defnyddio gweithdrefnau atgyfeirio priodol, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn y cymorth mwyaf addas.
- Llunio a chyhoeddi gwybodaeth i fyfyrwyr ar effeithiau posibl camddefnyddio alcohol.
- Glynu at ganllawiau cyfrinachedd a darpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data pan fydd myfyriwr yn dod atynt gyda phroblem yn ymwneud ag alcohol.
- Bod â systemau atgyfeirio i asiantaethau cymunedol sy'n cynnig cymorth gyda phroblemau alcohol.
- Tynnu sylw staff perthnasol y brifysgol at unrhyw broblem lles penodol yn ymwneud ag alcohol sy'n codi tro ar ôl tro.
- Gwneud popeth y mae angen ei wneud i sicrhau nad yw myfyrwyr sydd â phroblem yn ymwneud ag alcohol yn creu risg iddynt eu hunain nac i bobl eraill.
Dylai Staff Gwasanaethau Preswyl:
- Fod yn ymwybodol o wasanaethau cymorth o ran alcohol sydd ar gael yn y sefydliad a thynnu sylw myfyrwyr atynt mewn modd addas.
- Cydlynu a chyfathrebu â staff eraill yn y sefydliad o ran digwyddiadau'n ymwneud ag alcohol, e.e. Diogelwch, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr.
- Monitro a chofnodi digwyddiadau'n ymwneud ag alcohol yn y Preswylfeydd, a sicrhau bod yr adroddiadau hyn ar gael i staff perthnasol.
- Riportio a/neu ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud ag alcohol sy'n torri rheoliadau'r Brifysgol.
Atodiad B
Argymhellion am Ddelio â Digwyddiadau'n Ymwneud ag Alcohol
Y ddyletswydd gofal i fyfyrwyr sydd bwysicaf. Os bydd myfyriwr sy'n byw mewn preswylfa'r Brifysgol yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill oherwydd meddwi, dylid riportio hynny i staff Gwasanaethau Preswyl, neu, y tu allan i oriau swyddfa, i staff Diogelwch a fydd yn gweithredu fel bo angen. Argymhellir cadw myfyriwr meddw iawn dan oruchwyliaeth tan fod cymorth yn cyrraedd.
Os bydd myfyriwr sy'n byw mewn llety preifat yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill oherwydd meddwi, argymhellir gweithredu, os oes modd, i sicrhau ei fod yn ddiogel tan nad yw bellach wedi meddwi. Mewn amgylchiadau eithafol, gallai hyn olygu galw'r Heddlu. Os bydd y myfyriwr yn colli ymwybyddiaeth, dylid mynd ag e i Uned Damwain ac Argyfwng yr ysbyty agosaf, neu dylid cysylltu â Galw Iechyd Cymru am gyngor.
Os mae'n hysbys bod myfyriwr yn camddefnyddio alcohol dro ar ôl tro, i'r fath raddau ei fod yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill, dylid ei gynghori i geisio cyngor gan Wasanaethau Cymorth Myfyrwyr neu gan asiantaeth gymunedol sy'n rhoi cymorth gyda phroblemau alcohol. Os nad yw'n fodlon gwneud hynny, caiff y rhai sy'n pryderu am ei ymddygiad gysylltu â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr i drafod yr achos yn ddienw.
Os bydd digwyddiadau aml yn ymwneud â'r un myfyriwr, neu os bydd problemau o ran perfformiad neu ymddygiad, ac mae'n hysbys, neu amheuir, ei fod yn camddefnyddio alcohol, dylid rhoi cyfle i'r myfyriwr drafod y mater gyda'r gwasanaethau cymorth priodol. Mae'n bosibl y bydd angen monitro'r sefyllfa'n barhaus, a dylid rhoi pob cyfle i'r myfyriwr drafod y sefyllfa gyda'r gwasanaethau perthnasol.
Newid Cyfeiriad/Cyfathrebu Electronig
1.1
Rhaid i fyfyrwyr gofnodi ar eu cofnod mewnrwyd a rhoi gwybod i'w Cyfadran/Ysgol(au) ar unwaith am unrhyw newid yn eu cyfeiriad cartref neu eu cyfeiriad yn Abertawe.
1.2
Anfonir gohebiaeth electronig ffurfiol gan y brifysgol at gyfeiriadau e-bost myfyrwyr. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn gwirio eu cyfrifon e-bost prifysgol yn gyson, yn enwedig cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnodau arholiadau.
Diogelu Data
Prifysgol Abertawe yw'r rheolwr data ac mae wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau myfyrwyr yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf
Diogelu Data 2018.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth a bod yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth sydd ganddi. Mae gan y Brifysgol ystod o bolisïau a gweithdrefnau
diogelu data ar waith i brosesu eich data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r Brifysgol anfon gwybodaeth benodol i'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Gweler gwefan HESA am ragor o wybodaeth.
Cofiwch mai eich cyfrifoldeb chi fel myfyriwr, yw sicrhau bod yr holl ddata personol y mae'n ofynnol i chi eu darparu i'r Brifysgol, yn gywir ac yn gyfoes. Am wybodaeth bellach ynglyn â sut mae eich data personol yn cael ei drin gan Brifysgol Abertawe a'ch hawliau unigol, edrychwch ar y Datganiad Preifatrwydd Diogelu Data Myfyrwyr.
Cyflogaeth yn Ystod y Tymor - Israddedigion
Myfyrwyr Israddedig Llawn-Amser Sy’n Ymgymryd â Chyflogaeth Yn Ystod Y Tymor
Mae’r Brifysgol yn cydymdeimlo â’r rhwystrau ariannol a osodir ar fyfyrwyr ac yn sylweddoli bod sawl myfyriwr llawn-amser yn ymgymryd â gwaith rhan-amser er mwyn darparu cymorth ariannol ar gyfer eu hastudiaethau. Canllaw cyffredinol y brifysgol yw ni ddylai myfyrwyr israddedig llawn-amser dreulio mwy na 15 awr yr wythnos mewn cyflogaeth yn ystod y tymor. Er hynny, cyfrifoldeb y myfyriwr ydyw o hyd i sicrhau nad yw ymrwymiadau cyflogaeth yn gwrthdaro â gofynion academaidd eu hastudiaethau. Lle y rhagwelir y bydd gwrthdaro posib yn codi yng nghyswllt bodloni gofynion presenoldeb a/neu berfformiad rhaglen arbennig, neu lle bo gwrthdaro o’r fath yn codi yn ystod cyfnod o gyflogaeth, argymhellir myfyrwyr yn gryf i hysbysu’r Cydlynydd Rhaglen Gradd perthnasol, y Mentor Academaidd neu’r Deon Gweithredol (neu enwebai), fel sy’n addas.
Iechyd a Diogelwch
Gweller Iechyd a Diogelwch.
Polisi Cyffuriau Anghyfreithlon
CYFLWYNIAD
Lluniwyd y polisi hwn gan Weithgor ar y cyd rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Roedd y grŵp yn cynnwys Swyddogion Etholedig o Undeb y Myfyrwyr a'r Undeb Athletau, staff o far Undeb y Myfyrwyr ac o'r Ganolfan Gyngor, Staff y Brifysgol, yr Adran Diogelwch, y Gofrestra Academaidd, Gwasanaethau Preswyl, a Gwasanaethau Lles, a chynrychiolydd o'r GIG.
Fel man cychwyn, defnyddiodd y Gweithgor y ddogfen 'Polisi Enghreifftiol ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch Cymru, gan gynnwys Prifysgolion ac Undebau Myfyrwyr’.
Cylchredwyd y polisi drafft er mwyn ymgynghori ag ystod eang o staff, gan gynnwys y Dirprwy Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr), y Grŵp Prifysgol Iach, Tîm Rheoli Gwasanaethau Myfyrwyr, a holl swyddogion llawn amser Undeb y Myfyrwyr.
DATGANIAD POLISI CYFFURIAU
Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i hyrwyddo awyrgylch diogel a chefnogol i astudio a gweithio ynddo.
Er mwyn cyflawni hynny, byddwn yn:
- Annog a chefnogi cyd-barch ar draws cymuned gyfan y brifysgol
- Gweithio i greu dealltwriaeth o ymddygiad derbyniol, a chytuno i ddefnyddio camau disgyblu mewn modd cyfrifol pan fo'n addas
- Cynyddu ymwybyddiaeth o'r goblygiadau cyfreithiol a'r problemau sy'n deillio o ddefnyddio cyffuriau
- Cymryd o ddifrif ein dyletswydd gofal statudol i'n myfyrwyr, ein staff, a'n hymwelwyr, gan geisio darparu awyrgylch gwaith ac astudio diogel, iach, o safon uchel
- Cydnabod bod gan staff ddyletswydd gofal i fod yn effro i arwyddion defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, ac i weithredu mewn modd addas pan fo angen
- Darparu cyfarwyddyd a gwybodaeth i staff a myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu'r hyder i wybod beth i'w wneud os bydd ganddynt bryderon am ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, iechyd a diogelwch eu cyd-fyfyrwyr, staff, neu nhw eu hunain
- Darparu cymorth cyfrinachol trwy Wasanaethau Myfyrwyr neu Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr i fyfyrwyr sy'n ceisio cymorth neu sydd â phryderon am eu defnydd eu hunain, neu ddefnydd eu cyfeillion, o gyffuriau.
1. Cyflwyniad
Mae'r polisi hwn yn rhan o ymagwedd ar ran y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr sy'n hyrwyddo awyrgylch diogel a chefnogol i astudio a gweithio ynddo. Y rhagosodiadau sylfaenol yw cymorth ac addysg, gan ganolbwyntio ar ffiniau ymddygiad derbyniol a chyfrifol.
Nid yw Prifysgol Abertawe nac Undeb y Myfyrwyr yn cymeradwyo meddu ar, defnyddio, na gwerthu cyffuriau anghyfreithlon mewn unrhyw fangre sydd dan eu rheolaeth. Ein nod yw darparu awyrgylch diogel, iach, a chefnogol i'n myfyrwyr ac i'n staff.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod na fydd defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn effeithio ar y rhan fwyaf o fyfyrwyr, ond os bydd myfyriwr yn datgelu bod ganddo broblem, caiff ei drin gyda chydymdeimlad ac mewn modd cyfrinachol. Cynigir cymorth trwy Wasanaethau Myfyrwyr a thrwy Ganolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr lle bo modd, a gellir atgyfeirio'r achos i asiantaethau cymorth allanol os oes angen cymorth sydd y tu hwnt i arbenigedd y gwasanaethau hynny.
Mae'n bwysig cydnabod y gall myfyriwr sydd â phroblem yn ymwneud â chyffuriau, neu sy'n datblygu'r fath broblem, achosi niwed iddo ef ei hun ac i bobl eraill, ac ystyrir y risg hwn wrth benderfynu ar gamau gweithredu. Yn aml, bydd defnyddio cyffuriau anghyfreithlon yn effeithio ar berfformiad ac ymddygiad y myfyriwr, ac ar ei berthynas â phobl eraill ar ei gwrs ac yn ei lety. Gall hefyd fod â goblygiadau o ran dewis gyrfa yn y dyfodol.
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd gofal statudol i'w myfyrwyr, i'w staff, ac i'w hymwelwyr, ac mae'n ceisio darparu awyrgylch astudio a gweithio diogel ac iach o safon.
Mae'r Brifysgol yn ceisio lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, a chynorthwyo myfyrwyr a staff i gynyddu eu gwybodaeth, eu hymwybyddiaeth, a'u dealltwriaeth o broblemau'n ymwneud â chyffuriau.
Mae gan bob myfyriwr gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o ran ei ddiogelwch ei hun a diogelwch pobl eraill.
2. Pwy sydd o fewn cwmpas y polisi?
Mae'r polisi yn berthnasol i fyfyrwyr os bydd risg iddyn nhw neu i bobl eraill, neu os bydd eu hymddygiad neu ansawdd eu gwaith yn effeithio ar bobl eraill neu ar enw da'r Brifysgol (megis myfyrwyr ar leoliadau gwaith a drefnir gan y Brifysgol, myfyrwyr yn gweithio mewn labordai ar brosiectau ymchwil, neu fyfyrwyr sy'n aelodau o dimau chwaraeon y Brifysgol). Mae'n berthnasol i fyfyrwyr boed ar dir y Brifysgol neu yn rhywle arall ar fusnes y brifysgol neu ar weithgarwch astudio, gan gynnwys eiddo a reolir ar ran y Brifysgol gan drydydd parti, megis preswylfeydd, neu dai Gwasanaethau Llety Myfyrwyr oddi ar y campws.
Mae'r polisi’n berthnasol hefyd i Undebau Myfyrwyr, cyrff annibynnol sy'n trafod a rheoli eu busnes eu hunain yn unol â'u cyfansoddiadau.
Mewn amgylchiadau penodol, gellid gweithredu yn erbyn unigolion o dan brosesau disgyblu'r Brifysgol, neu ofyn iddynt adael, a/neu eu riportio i'r heddlu. Nid yw'r Brifysgol yn dymuno troseddoli ei myfyrwyr na'i hymwelwyr, ond trosedd yw defnyddio, neu feddu ar, gyffuriau anghyfreithlon.
3. Amcanion y Polisi
Pwrpas y polisi yw:
- Hyrwyddo iechyd, diogelwch, a lles trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd, a chymorth.
- Hysbysu myfyrwyr o ganlyniadau posibl defnyddio cyffuriau anghyfreithlon
- Hysbysu myfyrwyr o sut y gall defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a'r canlyniadau posibl arwain at gamau disgyblu a/neu weithredu cyfreithiol
- Darparu gwybodaeth ar opsiynau cymorth pan fo'n addas
- Annog unigolion sydd â phroblem yn ymwneud â chyffuriau i geisio cymorth
- Cynnig cyfarwyddyd i fyfyrwyr a staff o ran eu cyfrifoldebau a'r cod ymddygiad
4. Beth yw ystyr 'cyffuriau anghyfreithiol'
Ceir gwybodaeth ar gyffuriau rheoledig o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, y categorïau, a'r cosbau posibl am dorri'r gyfraith, ar wefan y Swyddfa Gartref. Mae'r tabl isod yn nodi'r sefyllfa ym mis Mai, 2012.
Meddu ar gyffuriau | Gwerthu Cyffuriau | ||
---|---|---|---|
Dosbarth A | Ecstasi, LSD, heroin, cocên, crac, madarch hudol, amffetaminau (wedi'u paratoi i'w chwistrellu). | Hyd at saith mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau | Hyd at oes o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau |
Dosbarth B | Amffetaminau, Canabis, Methylphenidate (Ritalin), Philcodyn. | Hyd at bum mlynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau | Hyd at bedair blynedd ar ddeg o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau |
Dosbarth C |
Tawelyddion, rhai cyffuriau lleddfu poen, Gamma hydroxybutyrate (GHB), Ketamine. |
Hyd at ddwy flynedd o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau | Hyd at bedair blynedd ar ddeg o garchar neu ddirwy heb derfyn, neu'r ddau |
5. Y sefyllfa gyfreithiol
Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 "Cyfyngu ar ddefnydd cyffuriau sy'n niweidiol i'r unigolyn neu i bobl eraill".
Mae'r Ddeddf yn ymwneud â:
- Meddu ar Gyffuriau
- Gwerthu Cyffuriau
- Meddu ar Gyffuriau gyda'r Bwriad o'u Gwerthu
- Cyffuriau Rheoledig mewn Mangreoedd
Yn achos Cyffuriau Dosbarth A, B, ac C.
Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 yn gosod dyletswydd gofal ar gyflogwr i sicrhau, cyn belled ag sy'n rhesymol ymarferol, iechyd, diogelwch, a lles yn y gweithle, i staff, myfyrwyr, a defnyddwyr eraill ei fangre.
Mae Deddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn dweud bod unigolyn yn troseddu os bydd yn gyrru, neu'n ceisio gyrru, cerbyd modur mewn man cyhoeddus tra ei fod yn anghymwys o ganlyniad i gymryd diodydd meddwol neu gyffuriau.
Camau Disgyblu
- Er y caiff pob achos ei asesu'n unigol, fel arfer cymerir camau disgyblu, yn unol â'r Rheoliadau Preswyl, yn erbyn unrhyw breswylydd a geir â sylweddau anghyfreithlon, neu sylweddau yr amheuir eu bod yn anghyfreithlon, yn ei feddiant, neu a geir i fod yn defnyddio neu'n gwerthu sylweddau anghyfreithlon mewn mangreoedd sydd yn eiddo i, neu a reolir gan, Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe. Mae meddu ar gyffuriau anghyfreithlon yn drosedd categori D, ac mae meddu ar, neu werthu, cyffuriau anghyfreithlon fwy nag unwaith yn drosedd categori E.
- Mae'r camau disgyblu ar gyfer troseddau categori D ac E yn cynnwys cyhoeddi rhybudd i adael y llety. Hefyd, gellir cyfeirio myfyrwyr i'r Gofrestrfa Academaidd o dan Weithdrefnau Disgyblaeth Ffurfiol y Brifysgol. Gall hyn fod â goblygiadau o ran dyfodol unigolyn yn y Brifysgol (yn arbennig o ran addasrwydd i ymarfer), ar ei gyflogaeth yn y dyfodol, ac ar gofrestru proffesiynol lle bo'n berthnasol.
- Gall unrhyw ddigwyddiad sy'n ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon arwain at erlyniad troseddol. Gall unrhyw erlyniad o'r fath arwain at gamau disgyblu gan y Brifysgol.
- Caiff unrhyw unigolyn a geir mewn mangreoedd a reolir gan Brifysgol Abertawe neu gan Undeb y Myfyrwyr, nad yw'n fyfyriwr, a cheir, neu drwgdybir, ei fod yn ymwneud a chyffuriau anghyfreithlon, ei wahardd o'r mangreoedd hynny ar unwaith ac am weddill ei oes.
- Mae'n bosibl y cymerir camau disgyblu hefyd yn erbyn unrhyw fyfyriwr sy'n gwahodd unigolyn y ceir ei fod yn ymwneud â chyffuriau anghyfreithlon i ddod i mewn i fangreoedd a reolir gan Brifysgol Abertawe neu gan Undeb y Myfyrwyr.
6. Cod Ymddygiad
Mae'r cod ymddygiad yn disgrifio'r dyletswyddau statudol o ran iechyd a diogelwch, a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan fyfyrwyr a staff. Disgwylir y bydd pob myfyriwr yn derbyn cyfrifoldeb personol am sicrhau nad yw defnyddio
cyffuriau anghyfreithlon yn effeithio ar ei berfformiad gwaith neu astudio. Gall ymddygiad sy'n groes i'r cod arwain at gamau disgyblu.
Mae'r cod yn dweud:
- Na ddylai neb ymgymryd â busnes y brifysgol na chynrychioli'r brifysgol tra ei fod yn anghymwys oherwydd defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
- Y gellid cymryd camau disgyblu yn erbyn unigolyn sy'n defnyddio cyffuriau anghyfreithlon mewn modd sy'n creu perygl iddo ef ei hun neu i bobl eraill. Gall enghreifftiau o hyn gynnwys gwaith clinigol gyda chleifion, gyrru, chwaraeon, defnyddio offer neu sylweddau peryglus, neu unrhyw weithgarwch arall y mae asesiad risg wedi nodi ei fod yn beryglus.
- Bod methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion cofrestru statudol, codau moesegol proffesiynol, neu ddarpariaethau achredu o ran defnyddio cyffuriau anghyfreithlon (e.e. mewn gwaith clinigol gyda chleifion, gwaith gydag ysgolion) yn debyg o arwain at gamau disgyblu.
- Bod myfyrwyr yn cael eu cynghori'n gryf i beidio â chyfaddawdu eu diogelwch eu hunain trwy weithio gyda rhywun, neu ddibynnu ar rywun (e.e. fel cyd-deithiwr mewn car neu fws), sydd dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau eraill.
- Bod myfyrwyr yn cael eu cynghori'n gryf y bydd y gyfadran/ysgol berthnasol yn ymchwilio i unrhyw amharu ar waith academaidd o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol.
- Na ddylid rhoi pwysau ar neb i gymryd cyffuriau anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad sy'n methu â pharchu eraill, neu sy'n eu heithrio, yn ogystal ag ychwanegu sylweddau i ddiodydd pobl eraill.
7. Cyfrinachedd a diogelu data
Caiff pob achos ei drin yn gyfrinachol, a phrosesir unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel yn unol â Deddf Diogelu Data 1998. Gall staff perthnasol ei defnyddio i ystyried pa gymorth sydd ei angen, ac i reoli'r berthynas astudio. Pan fo modd, perchir cyfrinachedd yr wybodaeth a ddarperir gan fyfyrwyr, oni bai fod risg difrifol o niwed i'r myfyriwr neu i rywun arall. Dylai staff ddweud yn glir o'r cychwyn cyntaf bod cyfrinachedd yn gyfyngedig, ac na chedwir gwybodaeth yn gyfrinachol os byddai peidio â datgelu'r wybodaeth honno'n creu risg i'r unigolyn neu i bobl eraill.
Atodiad A Cyfarwyddyd
Dylai pob myfyriwr allu:
- Bod yn ymwybodol o'r polisi hwn, a'r dogfennau ategol.
- Ceisio cymorth o'i wirfodd os oes ganddo bryderon am ei ddefnydd o gyffuriau. O fewn y Brifysgol, mae cymorth ar gael gan diwtoriaid personol, Gwasanaethau Myfyrwyr, ac Undeb y Myfyrwyr. Am ffynonellau cymorth yn y gymuned, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â'r bobl a enwyd uchod.
- Ceisio cyngor neu gymorth os gofynnir iddo wneud hynny, gan gynnwys fel rhan o gosb ddisgyblaethol.
- Annog myfyrwyr eraill i geisio cymorth os bydd ganddynt broblem.
- Darllen gwybodaeth ar effeithiau posibl defnyddio cyffuriau anghyfreithlon ar ei gyllid, ar ei iechyd, ac ar bobl eraill. Mae gwybodaeth ar gael trwy Wasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr.
- Tynnu sylw aelod perthnasol o staff at unrhyw broblemau mae'n eu gweld yn datblygu yn y sefydliad, yn arbennig os oes pryderon am y sefyllfa gyfreithiol neu am iechyd a diogelwch.
- Bod yn ymwybodol o ymddygiad myfyrwyr o'i gwmpas, a gwneud ei orau i sicrhau eu diogelwch a'u lles.
Dylai staff:
- Fod yn ymwybodol o'r polisi, gweithdrefnau, gwasanaethau sydd ar gael, a gweithdrefnau atgyfeirio sydd ar gael er mwyn mynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud â myfyrwyr a chyffuriau. Dylid cynnwys yr wybodaeth hon wrth sefydlu myfyrwyr.
- Annog myfyrwyr i geisio cymorth addas os oes pryder ynghylch eu lles o ran defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
- Cadw effeithiau posibl cyffuriau mewn cof wrth wneud asesiadau risg ar weithgareddau arfaethedig.
- Ymchwilio i ddamweiniau a digwyddiadau am unrhyw awgrym o ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, a chydlynu â'r adrannau perthnasol.
Dylai Undeb y Myfyrwyr:
- Weithredu fel man hunan-atgyfeirio cyfrinachol ar gyfer myfyrwyr.
- Glynu at ganllawiau cyfrinachedd a darpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data pan fydd myfyriwr yn dod atynt gyda phroblem yn ymwneud â chyffuriau.
- Gynnig gwybodaeth a chyngor am y gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n pryderu am eu defnydd o gyffuriau.
- Cynnal a chefnogi digwyddiadau addysgol, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, a gweithgareddau sy'n hyrwyddo iechyd a lles ar y cyd ag adrannau eraill.
- Sicrhau bod polisïau'n ymwneud â myfyrwyr yn adlewyrchu agwedd tuag at gyffuriau sy'n hyrwyddo lles myfyrwyr ac sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.
Dylai Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr:
- Weithredu fel man hunan-atgyfeirio cyfrinachol ar gyfer
- Darparu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd, a chymorth i fyfyrwyr sy'n dod atynt gyda phroblem yn ymwneud â
- Llunio a chyhoeddi gwybodaeth i fyfyrwyr ar effeithiau posibl defnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
- Glynu at ganllawiau cyfrinachedd a darpariaethau'r Ddeddf Diogelu Data pan fydd myfyriwr yn dod atynt gyda phroblem yn ymwneud â
- Bod â systemau atgyfeirio i asiantaethau cymunedol sy'n cynnig cymorth gyda phroblemau
- Tynnu sylw staff perthnasol y brifysgol at unrhyw broblem lles penodol yn ymwneud â chyffuriau sy'n codi tro ar ôl
- Gwneud popeth y mae angen ei wneud i sicrhau nad yw myfyrwyr sydd â phroblem yn ymwneud â chyffuriau yn creu risg iddynt eu hunain nag i bobl eraill.
Dylai staff Gwasanaethau Preswyl:
- Fod yn ymwybodol o wasanaethau cymorth o ran cyffuriau sydd ar gael yn y sefydliad a thynnu sylw myfyrwyr atynt mewn modd
- Cydlynu a chyfathrebu â staff eraill yn y sefydliad o ran digwyddiadau'n ymwneud â chyffuriau, e.e. Diogelwch, Gwasanaethau Cymorth
- Monitro a chofnodi digwyddiadau'n ymwneud â chyffuriau yn y Preswylfeydd, a sicrhau bod yr adroddiadau hyn ar gael i staff
- Riportio a/neu ymchwilio i unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyffuriau sy'n torri rheoliadau'r
- Sicrhau bod unrhyw unigolyn a geir mewn mangreoedd llety, sydd wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu a amheuir o fod wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, yn derbyn y gofal a'r sylw angenrheidiol o ran ei gyflwr
Atodiad B
Argymhellion ar gyfer digwyddiadau'n ymwneud â chyffuriau
Y ddyletswydd gofal i fyfyrwyr sydd bwysicaf. Os bydd myfyriwr sy'n byw mewn preswylfa'r Brifysgol yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill oherwydd defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, dylid riportio hynny i staff Gwasanaethau Preswyl, neu, y tu allan i oriau swyddfa, i staff Diogelwch a fydd yn gweithredu fel bo angen. Argymhellir cadw myfyriwr sydd dan ddylanwad cyffuriau dan oruchwyliaeth tan fod cymorth yn cyrraedd.
Os bydd myfyriwr sy'n byw mewn llety preifat yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill oherwydd ei fod yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, argymhellir gweithredu, os oes modd, i sicrhau ei fod yn ddiogel tan fod effaith y cyffuriau wedi gorffen. Gallai hynny gynnwys galw'r Gwasanaethau Brys neu gysylltu â Galw Iechyd Cymru am gyngor.
Os mae'n hysbys bod myfyriwr yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon dro ar ôl tro, i'r fath raddau ei fod yn peri risg iddo ef ei hun neu i bobl eraill, dylid ei gynghori i geisio cyngor gan Wasanaethau Cymorth Myfyrwyr neu gan asiantaeth gymunedol sy'n rhoi cymorth gyda phroblemau cyffuriau. Os nad yw'n fodlon gwneud hynny, caiff y rhai sy'n pryderu am ei ymddygiad gysylltu â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr i drafod yr achos yn ddi-enw.
Trefniadau Meddygol
Rydym yn disgwyl i chi gofrestru gyda Meddyg Teulu’r Brifysgol neu gyda meddygfa leol o fewn 2 wythnos ar ôl cyrraedd yn Abertawe.
Talu Ffioedd
Rheoliadau sy’n llywodraethu talu ffioedd: Am ragor o wybodaeth ar gyllid a ffioedd myfyrwyr, ewch i’r tudalennau canlynol ar y we:
https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/cyllid/talu-ffioedd-dysgu-a-gwybodaeth-arall/
Polisi ar Ddosbarthu Tystysgrifau Dyfarniad
Cyflwynir dyfarniad i'r holl fyfyrwyr sy'n gymwys i'w dderbyn, ac sydd heb rwymedigaethau yn ddyledus i'r Brifysgol, yn eu habsenoldeb a byddant yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo i ddathlu eu cyflawniadau.
1. Cynnwys Tystysgrifau
Bydd tystysgrif dyfarniad yn cynnwys enw'r corff sy'n ei ddyfarnu, neu, yn achos graddau cydweithredol, enwau'r partneriaid sy'n ei ddyfarnu, enw'r myfyriwr fel y'i cofnodir ar System Gwybodaeth Myfyrwyr y Brifysgol ar y diwrnod y'i derbyniwyd, enw'r dyfarniad a gyflwynir, ac, os yw'n berthnasol, pwnc a dosbarth y dyfarniad.
Fel arfer, bydd yr wybodaeth ar unrhyw dystysgrif dyfarniad yn cael ei hargraffu yn Gymraeg a Saesneg. Yn achos dyfarniadau rhyngwladol a graddau a gynigir ar sail gydweithredol, gellir argraffu enw unrhyw sefydliad partner ar y dystysgrif a chyfieithu manylion y dyfarniad i'r iaith berthnasol.
2. Dosbarthu Tystysgrifau Dyfarniad
Nod y Brifysgol yw sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn eu tystysgrifau o fewn 8 wythnos ar ôl i'w dyfarniadau gael eu rhoi. Darperir y rhan fwyaf o'r tystysgrifau mewn seremonïau; fodd bynnag, yn achos y myfyrwyr y mae eu dyfarniadau'n cael eu rhoi mwy nag 8 wythnos cyn cyfres o seremonïau, caiff y tystysgrifau eu hanfon i gartref y myfyriwr o fewn 8 wythnos fel y’i nodir ym mhroffil y myfyriwr ar y fewnrwyd. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod y manylion cyswllt cywir ar y fewnrwyd. Ni fydd y Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant i dderbyn tystysgrif oherwydd manylion cyswllt anghywir. Os caiff y dystysgrif ei dychwelyd oherwydd iddi gael ei hanfon i gyfeiriad anghywir, codir ffi am bostio'r dystysgrif unwaith eto i'r cyfeiriad cywir. Os na ddychwelir y dystysgrif, ac mae angen cyhoeddi un newydd yn ei lle, codir ffi am y dystysgrif newydd.
Caiff fersiwn electronig o'r dystysgrif ei lanlwytho i gyfrif Gradintel y myfyriwr hefyd a gellir ei rhannu'n ddiogel â chyflogwyr a/neu brifysgolion eraill o'r fan hon.
Os nad yw myfyriwr yn derbyn ei dystysgrif dyfarniad, bydd y Brifysgol yn ymchwilio i'r rheswm am hynny. Os mai gwall gweinyddol ar ran y Brifysgol yw'r rheswm pam nad yw myfyriwr wedi derbyn y dystysgrif, gwneir trefniadau i ailddosbarthu'r dystysgrif wreiddiol am ddim, cyhyd ag y derbynnir y cais am y dystysgrif o fewn 6 mis o'r dyddiad y cyflwynwyd y dyfarniad i'r myfyriwr. Prosesir ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau hwn fel petaent yn dystysgrifau newydd, a chodir ffi. (gweler isod). Rhaid i ymgeiswyr ganiatâu dau fis o amser anfon y dystygrif wreiddiol cyn gwneud cais am un newydd.
Os dychwelir tystysgrif i'r Brifysgol oherwydd cyfeiriad post anghywir, bydd y Brifysgol yn ceisio cysylltu â'r myfyriwr i roi gwybod bod y dystysgrif wedi'i dychwelyd ac i gael y cyfeiriad cywir. Ni chodir tâl am ail-anfon y dystysgrif.
3. Copïau Ardystiedig o Dystysgrifau
Er mwyn cael copi ardystiedig o dystysgrif, rhaid i fyfyriwr ddarparu llungopi o'r ddogfen wreiddiol a bydd y Brifysgol yn ardystio ei fod yn gopi cywir.
Codir ffi weinyddol o £10 am y gwasanaeth hwn (hyd at 5 copi ardystiedig). Mae'r ffi'n cynnwys cost cludiant dosbarth cyntaf neu gludiant awyr hefyd.
Caiff myfyriwr ofyn mewn ysgrifen neu wyneb yn wyneb am gopi ardystiedig trwy ddarparu llungopi o'r dystysgrif wreiddiol ynghyd â'i enw llawn adeg yr astudio, ei rif myfyriwr (os yw'n hysbys iddo), ei ddyddiad geni, a dyddiad y dyfarniad (mis a blwyddyn).
4. Tystysgrifau o'r Newydd
Oherwydd rhesymau diogelwch, ni ddarperir tystysgrifau dyblyg. Fodd bynnag, dan amgylchiadau cyfyngedig, gallai fod modd cyhoeddi tystysgrif newydd ar ôl i ni dderbyn cadarnhad mewn ysgrifen bod y dystysgrif wreiddiol wedi'i cholli'n llwyr neu ei dinistrio. Gall graddedigion wneud cais am dystysgrif newydd drwy gwblhau'r trwy gysylltu â MyUniHub. Dylai'r rhai hynny sy'n gwneud cais am dystysgrifau newydd gofio bod y cais hwn yn gyfystyr â datganiad bod y dystysgrif wreiddiol wedi'i cholli neu ei dinistrio. Codir ffi o £30 am dystysgrif newydd. Bydd y dystysgrif newydd yn nodi'n glir bod y ddogfen yn gopi dyblyg.
5. Tystysgrifau Dyfarniad wedi'u Difrodi
Os yw tystysgrif dyfarniad wedi'i difrodi, caiff un newydd ei dosbarthu am ddim cyhyd ag y dychwelir y dystysgrif sydd wedi'i difrodi i'r Brifysgol. Rhaid i raddedigion gwblhau'r ffurflen Cais am Dystysgrif Newydd a'i dychwelyd i'r Brifysgol gyda'r dystysgrif wreiddiol wedi'i difrodi.
6. Newid Enw
Fel arfer, ni fydd y Brifysgol yn newid unrhyw wybodaeth a argraffwyd ar dystysgrif dyfarnu, yn arbennig o ran newid yr enw. Ni ellir newid yr enw oni bai eich bod yn gallu profi yr oeddech chi'n defnyddio'r enw newydd yn gyfreithlon ar y dyddiad y dyfarnwyd y cymhwyster ac nad oeddech bellach yn defnyddio'ch hen enw. Fodd bynnag, yn achos ailbennu rhywedd, gellir dosbarthu tystysgrifau newydd gyda'r enw wedi'i newid. Rhaid cyflwyno cais o'r fath i'r degreecertificates@swansea.ac.uk mewn ysgrifen. Os cymeradwyir y cais, rhaid dychwelyd y dystysgrif wreiddiol i'r Brifysgol. Ni chodir tâl am ddiwygio'r dystysgrif.
7. Tystysgrifau Dyfarnu ac Apeliadau Academaidd heb eu Cwblhau
Os bydd myfyriwr yn cyflwyno apêl academaidd yn erbyn penderfyniad ar ddyfarniad a gymerwyd gan Fwrdd Arholi, ni chyhoeddir y dystysgrif tan i'r apêl academaidd gael ei chwblhau. Rhoddir caniatâd i fyfyriwr o'r fath fynychu seremoni dyfarnu a/neu dderbyn ei ddyfarniad ond caiff y dystysgrif ei hun ei chadw tan fod canlyniad yr apêl yn hysbys. Os yw tystysgrif wedi'i dosbarthu i fyfyriwr ac mae'r myfyriwr hwnnw'n apelio, a chanlyniad yr apêl yw newid y dyfarniad, neu ddisodli'r dyfarniad, ni chaiff tystysgrif ddiwygiedig ei dosbarthu tan fod y dystysgrif wreiddiol wedi'i dychwelyd.
8. Ymwadiad
Mae gan y Brifysgol hawl i wrthod ceisiadau am dystysgrifau newydd, yn enwedig mewn achosion lle y mae un dystysgrif newydd eisoes wedi'i dosbarthu.
9. Diogelwch
Mae tystysgrif dyfarniad Prifysgol Abertawe wedi’i diogelu rhag camddefnydd twyllodrus, drwy nifer o nodweddion diogelwch. Bydd unrhyw ymgais i ymyrryd â thystysgrif dyfarniad neu i gam-gyfleu eich hun gan ddefnyddio tystysgrif Abertawe yn arwain at gamau gweithredu gan y Brifysgol a all arwain at dynnu'r dyfarniad yn ôl.
Mae'r Brifysgol hefyd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth dilysu Gwiriad Data Graddau Addysg Uwch (HEDD) lle bydd cyflogwyr/prifysgolion yn cyflwyno ceisiadau i gadarnhau dilysrwydd manylion y dyfarniad.
Cysylltwch â degreecertificates@swansea.ac.uk os bydd gennych unrhyw ymholiad ynghylch tystysgrif neu dystysgrif newydd.
Hawl Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig i Wyliau Blynyddol
(Ar waith o 1 Gorffennaf 2023)
Gwyliau Blynyddol yw'r term a ddefnyddir ar gyfer nifer y diwrnodau o absenoldeb o'u hastudiaethau y gall myfyriwr ymchwil ôl-raddedig eu cymryd bob blwyddyn, e.e. ar gyfer gwyliau neu seibiant byr o'i ymchwil. Ni fydd myfyrwyr yn astudio yn ystod y cyfnod hwn, a gallant fod i ffwrdd o'r campws.
Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cymryd saib o'u hastudiaethau er mwyn cael cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith. Dyrennir hawl i wyliau blynyddol i raddau ymchwil, felly nid yw'n newid dyddiad diwedd rhaglenni ymchwil os bydd myfyriwr yn cymryd cyfnod o wyliau blynyddol.
- Mae hawl gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig amser llawn gymryd hyd at 31 o ddiwrnodau y flwyddyn, yn ogystal â gwyliau statudol. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, bydd hyn ar sail pro rata.
- Mae'r calendr gwyliau blynyddol yn gweithredu ar sail 12 mis o ddyddiad dechrau rhaglen y myfyriwr (h.y. 1 Hydref - 30 Medi; 1 Ionawr - 31 Rhagfyr; 1 Ebrill - 31 Mawrth; 1 Gorffennaf - 30 Mehefin) a dylid cymryd y gwyliau mewn cyfnod penodol o 12 mis.
- Disgwylir i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gytuno ar geisiadau am wyliau blynyddol gyda'u goruchwyliwr/goruchwylwyr a rhoi rhybudd rhesymol ymlaen llaw, e.e. o leiaf wythnos o rybudd ar gyfer gwyliau blynyddol a fydd yn para am wythnos neu fwy. Os bydd goruchwyliwr yn gwrthod cais am wyliau blynyddol ac nid yw'r myfyriwr yn gytûn, gellir uwchgyfeirio'r penderfyniad i Arweinydd Academaidd Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran (neu ei enwebai) i'w adolygu.
- Dylai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ystyried amseru unrhyw gyfnodau o absenoldeb er mwyn sicrhau nad ydynt yn effeithio'n sylweddol ar eu hastudiaethau, e.e. ar gyfer dilyniant neu ddyddiadau cau am adolygiadau blynyddol, dyddiadau cau cynadleddau neu bresenoldeb mewn cynadleddau. Dylai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sydd wedi'u cyflogi fel Cynorthwywyr Addysgu sicrhau nad yw gwyliau blynyddol yn ymyrryd â'u dyletswyddau addysgu.
- Ni ddylai unrhyw gyfnod o wyliau blynyddol fod yn hwy na phedair wythnos, ond bai bod y goruchwyliwr/goruchwylwyr yn cytuno ar hynny a bod cyfiawnhad wedi'i roi.
- Argymhellir bod goruchwylwyr yn cofnodi cyfnodau o wyliau blynyddol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar E-Vision (RMS - System Rheoli Ymchwil).
Bydd yr hawl hon ar waith o 1 Gorffennaf 2023 ac fe'i hadolygir yn flynyddol.
Os yw myfyriwr ymchwil ôl-raddedig wedi'i gefnogi gan fisa myfyriwr, rhaid iddo gysylltu â thîm Gwasanaeth Proffesiynol Ymchwil Ôl-raddedig ei Gyfadran a Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr drwy Tier4Attendance@abertawe.ac.uk cyn gofyn am gyfnod o wyliau blynyddol rhag ofn y bydd yn effeithio ar ei fisa.
Os yw myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn rhan o raglen ar y cyd, rhaglen ddwbl neu raglen gydweithredol â sefydliad arall, dylai sylwi y gallai fod rheolau gwahanol ar waith yn ystod ei amser yn y sefydliad partner.
Moeseg ac Uniondeb Ymchwil
Mae Fframwaith Gwybodaeth a Pholisi’r Brifysgol o ran moeseg ac uniondeb ymchwil ar gael ar wefan y Brifysgol yma: Moeseg ac Uniondeb Ymchwil
Cytundeb o’r Berthynas Rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
Cyflwyniad
Bwriad y Cytundeb Perthynas rhwng Prifysgol Abertawe ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yw ategu'r berthynas gwaith wych rhwng partneriaid y cytundeb hwn.
Cefndir
Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn ymroddedig i ddiddordebau addysgol a lles ei haelodau. Gosododd Deddf Addysg 1994 ofyniad cyfreithiol ar Gyngor y Brifysgol fel corff llywodraethu'r Brifysgol i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn gweithredu mewn modd teg a democrataidd yn unol â gofynion y Ddeddf. Cafwyd gwared ar statws cyfreithiol Undeb y Myfyrwyr fel elusen eithriedig drwy Ddeddf Elusennau 2006 ac yn hynny o beth, bu Undeb y Myfyrwyr yn adolygu ei Erthyglau Llywodraethu. Cymeradwywyd yr Erthyglau Llywodraethu diwygiedig gan Gyngor y Brifysgol yn 2008, a chymeradwywyd diwygiadau dilynol i’r Erthyglau Llywodraethu gan yr Undeb a’r Brifysgol yn unol â’r broses gymeradwyo benodol. Cymeradwywyd Memorandwm Ariannol hefyd sy’n nodi’r amodau a thelerau y mae’r Brifysgol yn gwneud taliadau i Undeb y Myfyrwyr ac yn sicrhau bod y cronfeydd a ddarperir yn cael eu defnyddio at y dibenion y rhoddwyd ar eu cyfer. Cytunodd y ddwy ochr hefyd ar Gôd Ymarfer yn unol â Deddf Addysg 1994 Rhan II: Undeb y Myfyrwyr.
Siarter Myfyrwyr
Mae Siarter Myfyrwyr Prifysgol Abertawe'n pennu’r berthynas rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr a chyfrifoldebau'r naill sefydliad. Mae'r Siarter Myfyrwyr yn nodi y bydd y Brifysgol yn:
- Rhoi cyllid i Undeb y Myfyrwyr bob blwyddyn i hyrwyddo’r digwyddiadau a nodir yn ei Erthyglau Llywodraethu.
- Sicrhau ei bod yn cynnal ei chyfrifoldebau yn unol â'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn y Memorandwm Ariannol a'r Cytundeb Perthynas rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
Hefyd, bydd y Brifysgol yn penodi aelod o Bwyllgor Archwilio Undeb y Myfyrwyr, a fydd yn gwasanaethu fel Cadeirydd y Pwyllgor.
Egwyddorion
Mae Prifysgol Abertawe ac Undeb y Myfyrwyr yn cytuno i Gytundeb Perthynas yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol yn unol â Phrosiect Llywodraethu Da Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a adnabyddir gan CCAUC fel rhywbeth sy'n ategu'r perthnasau gwaith gwych rhwng prifysgolion a'u hundebau myfyrwyr:
Partneriaeth Strategol
Ysbryd o bartneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr sy'n hysbysu cyfeiriad strategol y naill barti ac sy'n hysbysu cytundebau gwasanaeth.
Cysylltiad gwybodus â chynrychiolwyr Undeb y Myfyrwyr mewn prosesau gwneud penderfyniadau sefydliadol allweddol.
Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod:
- Swyddogion amser llawn Undeb y Myfyrwyr yn aelodau llawn o gyrff gwneud penderfyniadau allweddol y Brifysgol.
- Swyddogion amser llawn Undeb y Myfyrwyr ac ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr yn cael eu gwahodd i fynychu diwrnod hyfforddiant blynyddol y Brifysgol ar gyfer swyddogion amser llawn ac ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr i roi gwybodaeth ac arweiniad iddynt mewn perthynas â'u rolau penodol ac ymhellach i adnabod cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
- Swyddogion amser llawn Undeb y Myfyrwyr yn derbyn sesiwn benodol bob blwyddyn er mwyn cyflwyno rolau a chyfrifoldebau cyrff y Brifysgol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, gan gynnwys rôl y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd, cyfrifoldebau cydymffurfio, lefelau cyfrifoldeb personol, cyfrinachedd a gwrthdaro buddiannau.
- Llywydd Undeb y Myfyrwyr a'r Swyddog Chwaraeon yn parhau i fod yn aelodau myfyrwyr ar Gyngor y Brifysgol.
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni'r amcan y maent yn ei rannu, sef gwella'r system cynrychioli myfyrwyr ar bob lefel ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r Brifysgol ac i sicrhau system o gynrychioli myfyrwyr sy'n effeithiol.
Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn rhannu ymrwymiad i ddatblygu a gwella profiad myfyrwyr o'r byd academaidd ac agweddau allgyrsiol o'u bywydau.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i barhau i weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i roi'r cyfle i'r holl fyfyrwyr gynnig adborth ar eu rhaglen astudio a'u profiad fel myfyrwyr yn Abertawe.
Yn unol â’r Siarter Myfyrwyr, rhoddir yr awdurdod a’r adnoddau i Undeb y Myfyrwyr:
- Gefnogi myfyrwyr i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal a'u bod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau.
- Cynghori myfyrwyr o rôl Undeb y Myfyrwyr fel sefydliad sy'n eu cynrychioli fel aelodau.
- Darparu System Cynrychiolwyr Myfyrwyr i alluogi myfyrwyr i leisio'u barn.
- Cynrychioli sylwadau myfyrwyr drwy Swyddogion etholedig amser llawn Undeb y Myfyrwyr, ei Swyddogion rhan-amser a'u haelodaeth â chyrff y Brifysgol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau.
- Cynnig ymgynghorwyr annibynnol, proffesiynol ac sydd wedi’u hyfforddi i gynghori a chynorthwyo myfyrwyr, yn gyfrinachol, gyda materion sy’n ymwneud â lles, materion academaidd a materion eraill drwy Ganolfan Gyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr.
- Darparu ystod o glybiau chwaraeon a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr i wella datblygiad personol a phroffesiynol myfyrwyr.
- Gweithio mewn partneriaeth ag Academi Cyflogadwyedd Abertawe i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, a darparu profiad gwaith, lleoliadau gwaith a chyfleoedd myfyrwyr-staff â thâl drwy ei gweithrediadau lle bynnag y bo’n bosibl.
- Gweithredu mewn partneriaeth â Thîm Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr y Brifysgol i wella profiad y myfyrwyr.
- Cefnogi a hyrwyddo perthnasoedd da gyda'r gymuned.
- Cynrychioli diddordebau myfyrwyr ar lefel leol a chenedlaethol.
- Hyrwyddo a diogelu buddion a lles myfyrwyr, mewn partneriaeth â’r Brifysgol.
- Ysgrifennu’r Siarter Myfyrwyr ar y cyd â’r Brifysgol a’i hadolygu.
- Llunio datganiad myfyriwr blynyddol, i ffurfio sail i ddeialog gyda'r sefydliad, i adrodd i fyfyrwyr, ac i lywio’r gwaith o ddatblygu cyflwyniad y myfyrwyr ar gyfer yr Adolygiad Gwella Ansawdd yr ASA.
- Yn amodol ar ei phenderfyniadau democrataidd, annog y myfyrwyr i gymryd rhan mewn arolygon a ffyrdd eraill o roi adborth, gan gynnwys Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, fel y bo’n briodol.
- Nodi ystod briodol o weithgareddau masnachol a ffrydiau eraill o gyllid i gefnogi gweithgareddau Prifysgol Abertawe, a’u rhoi ar waith.
Parch a Dealltwriaeth
Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau eglurdeb ynghylch, a chyd-ddeall, rolau’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr a’r gwerth y mae’r ddau barti yn ei ychwanegu i’r cytundeb.
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth tuag at y nod a rennir o wella'r profiad i fyfyrwyr yn Abertawe. Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn parchu, yn deall ac yn gwerthfawrogi rolau arbennig y naill sefydliad ac yn sicrhau y darperir cyfleoedd rheolaidd ar gyfer ymgysylltu adeiladol i adnabod synergeddau, drwy strwythurau gwneud penderfyniadau amrywiol a'r cyfleoedd er mwyn gweithio mewn partneriaeth.
Tryloywder
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i gyfathrebu llawn, agored a rheolaidd ar faterion perthnasol, yn enwedig materion penodol sy'n debygol o gael effaith ar y parti arall, corff y myfyrwyr a/neu randdeiliaid ar y cyd.
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd rhwng yr Is-ganghellor, Uwch- dîm Rheoli'r Brifysgol, y Tîm Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol a swyddogion amser llawn Undeb y Myfyrwyr er mwyn meithrin cyfle i rannu datblygiadau strategol a materion perthnasol eraill i ganiatáu i'r naill sefydliad gyfrannu tuag at gyflawni’r amcanion a rennir ac i wella'r profiad i fyfyrwyr.
Cydgefnogaeth a Chyd Ymrwymiad
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i ryngweithio’n adeiladol, ac ymrwymiad dangosadwy i wneud i'r berthynas weithio trwy fuddsoddi amser ac adnoddau
Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau i gefnogi gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr a fynegir yn ei Herthyglau Llywodraethu. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod swyddogion llawn-amser Undeb y Myfyrwyr yn cael eu cyflwyno, yn y diwrnod hyfforddi blynyddol, i aelodau staff allweddol ar gyfer eu cyfnod yn y swydd a'u bod yn cael trosolwg o strwythurau'r Brifysgol a rôl Colegau, Gwasanaethau Proffesiynol ac unigolion a enwir o fewn yr unedau sefydliadol hyn.
Yn ogystal â darparu cyfarfodydd rheolaidd â'r Is-ganghellor ac Uwch-dîm Rheoli'r Brifysgol, bydd y Pwyllgor Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr yn darparu cyfle o leiaf chwe gwaith pob sesiwn academaidd i'r holl swyddogion amser llawn godi unrhyw fater gydag aelodau o'r Brifysgol ac aelodau lleyg o Gyngor y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr i gryfhau'r berthynas rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr ar draws pob Coleg a Gwasanaeth Proffesiynol.
Annibyniaeth
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i gydnabod gwerth Undeb Myfyrwyr cryf, a arweinir gan fyfyrwyr, sydd â'r pŵer i benderfynu a rheoli ei materion ei hun. Cydnabyddir yr angen i gydbwyso diddordebau ystod o randdeiliaid mewn cyd-destun allanol sy'n dod yn fwyfwy heriol
Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i barhau i weithio mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr a’i hymddiriedolwyr i adolygu ei Herthyglau Llywodraethu a’i Chôd Ymarfer o bryd i’w gilydd yn unol â chyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i'r saith egwyddor allweddol o lywodraethu da mewn cyd-destun Undebau Myfyrwyr yn unol â'r hyn a ddarperir yng 'Nghôd Ymarfer Llywodraethu Da' Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr mewn perthynas â:
- Democratiaeth
- Gonestrwydd ac Atebolrwydd
- Eglurdeb ynghylch rôl y Bwrdd
- Perfformiad Effeithiol gan Ymddiriedolwyr a'r Bwrdd
- Darparu Pwrpas Sefydliadol
- Rheoli
- Ymddwyn â Gonestrwydd
Atebolrwydd
Mae Undeb y Myfyrwyr yn atebol i'r Brifysgol fel goruchwyliwr (yn unol â Deddf Addysg 1994) a phrif ariannwr, o fewn fframwaith a gytunir gan y ddwy ochr sy'n gadarn, yn effeithiol, yn effeithlon ac yn gyson â gofynion adrodd awdurdodau rheoli eraill (lle bo'n berthnasol) megis y Comisiwn Elusennau a Thŷ'r Cwmnïau. Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod Undeb y Myfyrwyr yn brif randdeiliaid ac mai ef yw'r prif gorff sy'n cynrychioli llais y myfyrwyr.
Mae'r Brifysgol yn cydnabod bod Adran 22 Deddf Addysg 1994 yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Gyngor y Brifysgol i sicrhau bod Undeb y Myfyrwyr yn 'gweithredu mewn modd teg a democrataidd a'i fod yn atebol am ei gyllid'. Bydd y Brifysgol yn sicrhau:
- Bod Erthyglau Llywodraethu Undeb y Myfyrwyr, a gymeradwywyd gan y Cyngor yn 2017, yn cael eu hadolygu yn 2022 ac ar gyfnodau rheolaidd ar ôl hynny nad ydynt yn fwy na phum mlynedd ar wahân.
- Bod yr Erthyglau Llywodraethu'n parhau i ddarparu ar gyfer hawl myfyriwr i beidio ag ymuno ag Undeb y Myfyrwyr ac i beidio â Bod dan anfantais drwy ddewis gwneud hynny.
- Ei bod yn parhau i benodi Swyddog Canlyniadau o blith ei staff uwch i sicrhau y caiff y broses ethol i brif swyddi yn yr Undeb ei chynnal yn deg ac yn gywir yn unol ag adran briodol yr Erthyglau Llywodraethu.
- Cydymffurfio â darpariaethau’r Memorandwm Ariannol rhwng y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr.
- Ei bod yn derbyn ac yn adolygu'n flynyddol, restr bresennol o gysylltiadau Undeb y Myfyrwyr.
- Ei bod yn cynnal Gweithdrefn Gwyno Undeb y Myfyrwyr fel yr amlinellir yn yr Atodlen briodol i’r Erthyglau Llywodraethu.
- Ei bod yn cynnal ac yn adolygu'r Côd Ymarfer yn unol â Deddf Addysg 1994 Rhan II: Undebau Myfyrwyr yn unol â'r raddfa amser a gytunir ar gyfer adolygu Erthyglau Llywodraethu Undeb y Myfyrwyr.
- Ei bod yn rhoi gwybod i’w myfyrwyr fod y Côd Ymarfer ar gael, yr hawl i beidio â bod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr, a sicrhau ei bod yn rhoi gwybod am unrhyw ddarpariaeth berthnasol o wasanaethau a ddarperir fel arfer i fyfyrwyr gan Undeb y Myfyrwyr.
Amrywiaeth a Chydraddoldeb
Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn ymrwymedig i amrywiaeth a chydraddoldeb a thrin yr holl staff a myfyrwyr yn deg.
Mae Siarter Myfyrwyr Abertawe yn nodi y bydd y Brifysgol yn:
- Rhoi cyfle cyfartal waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, priodas neu bartneriaeth sifil neu gyfeiriadedd rhywiol, gan weithredu yn unol â gofynion ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol (2016-20) a Pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
- Hyrwyddo ac yn diogelu hawliau'r holl staff a myfyrwyr mewn perthynas ag urddas yn y gweithle ac wrth astudio ac yn meithrin amgylchedd dysgu heb ragfarn nac aflonyddu.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn ynghyd â'r Brifysgol.
Llais Myfyrwyr
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i gydnabod llais myfyrwyr drwy amrywiaeth o ddulliau, i sicrhau bod myfyrwyr yn bartneriaid ar bob lefel o'r sefydliad
Bydd y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau:
- Y caiff myfyrwyr eu cynrychioli'n effeithiol drwy Swyddogion amser llawn a Swyddogion rhan-amser Undeb y Myfyrwyr.
- Cyfleoedd i fyfyrwyr gynnig adborth ar raglenni astudio a'u Profiad fel Myfyrwyr yn Abertawe.
- Ein bod yn llwyddo i gael cynrychiolaeth gref gan fyfyrwyr o fewn cyrff sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau fel bod myfyrwyr yn cael eu hysbysu'n briodol, fel bod y Brifysgol yn gwrando arnynt ac yn rhoi adborth iddynt.
- Cymorth cadarn i gynrychiolwyr Colegau a Phynciau er mwyn darparu cynrychiolaeth gadarn gan fyfyrwyr ar gyfer pob rhaglen astudio.
- Ymrwymiad cyfartal i egwyddorion Menter Cymru ar gyfer Ymgysylltu â Myfyrwyr a rôl myfyrwyr fel partneriaid.
Cyllid ac Adnoddau
Bydd gan Undeb y Myfyrwyr ddigon o arian i’w alluogi i gyflawni ei amcanion presennol a hwyluso’r gwaith o gynllunio ar gyfer datblygu yn y dyfodol, yn amodol ar fforddiadwyedd. Bydd hyn yn cynnwys neilltuo digon o le a mynediad at gyfleusterau.
Dylid gwneud paratoadau i adolygu cyllid bob blwyddyn gan ystyried unrhyw bwysau chwyddiannol a allai effeithio ar allu Undeb y Myfyrwyr i ddarparu ei wasanaethau i fyfyrwyr. Gall Undeb y Myfyrwyr hefyd gyflwyno cynigion cyllid am adnoddau ychwanegol o bryd i'w gilydd er mwyn cefnogi ei nodau i gyflawni amcanion penodol sy'n gyson ag amcanion y Brifysgol.
Yn unol â Memorandwm Ariannol y Brifysgol, dylid defnyddio'r cyllid a ddarperir i Undeb y Myfyrwyr yn unol â'r diben y cafodd ei ddyfarnu a bydd yn gysylltiedig â Dangosyddion Perfformiad Allweddol lle cytunwyd hynny.
Adolygu
Caiff y Cytundeb Perthynas ei adolygu bob blwyddyn gan y Pwyllgor Partneriaeth ac Ymgysylltu â Myfyrwyr. Rhoddir adroddiad am y cytundeb diwygiedig yng nghyfarfod Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb y Myfyrwyr, yr Uwch-dîm Rheoli a’r swyddogion amser llawn, ac yng Nghyngor y Brifysgol yn dilyn hynny. Caiff y broses adolygu hon ei chynnal ar y cyd ag adolygu’r Siarter Myfyrwyr.
Diogelwch
Y Cyfarwyddwr Ystadau a Rheoli Cyfleusterau sy'n gyfrifol am ddiogelwch y Brifysgol. Mae'r Brifysgol yn defnyddio Teledu Cylch Cyfyng (TCC) er mwyn atal a datrys troseddu ac er mwyn dal ac erlyn troseddwyr. Rhoddwyd rhybudd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth bod TCC ar waith yn y Brifysgol, yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998. Hefyd, mae gan y Brifysgol Heddweision a leolir ar y campws.
Dylid codi unrhyw gwestiynau am ddiogelwch gyda'r Uwch-oruchwylydd Diogelwch yn y lle cyntaf (est 5240/4271) neu security@abertawe.ac.uk. Lleolir staff Diogelwch yn Nhŷ Fulton ar gampws Singleton, ac maent yn gweithredu 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.
Polisi ar Gyfeiriadedd Rhywiol
Mae Prifysgol Abertawe yn gwerthfawrogi pob un o’i staff a’i myfyrwyr beth bynnag eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu pennu rhywedd. Mae’r Brifysgol yn anelu at greu amgylchedd lle y mae pob aelod staff a phob myfyriwr, beth bynnag ei rywioldeb neu ei bennu rhyw, yn teimlo’n gwbl groeso a’i fod wedi’i werthfawrogi, ac ni fydd ymddygiad homoffobig yn cael ei oddef.
Mae’n adnabod hyd a lled y rhagdybiaethau heterorywiol yn y gymdeithas, a bodolaeth homoffobia a thrwy roi’r polisïau a’r gweithdrefnau priodol ar waith y mae’n ceisio sicrhau bod;
1. Recriwtio, cynnydd a dyrchafu wedi’u seilio yn gyfan gwbl ar feini prawf perthnasol nad ydynt yn cynnwys cyfeiriadedd rhywiol.
2. Pawb yn cael ei drin ag urddas a thegwch cyfartal beth bynnag ei gyfeiriadedd rhywiol.
3. Mae cam-drin, aflonyddu neu fwlio homoffobig (e.e. galw enwau/jociau bychanol, ymddygiad annerbyniol neu ddiangen, cwestiynau busneslyd) yn dramgwydd disgyblaethol difrifol, ac ymdrinnir ag ef o dan y weithdrefn berthnasol.
4. Ni chaniateir propaganda homoffobig, ar ffurf deunyddiau ysgrifenedig, graffiti, caneuon neu areithiau. Mae’r Brifysgol yn ymgymryd â dileu unrhyw bropaganda o’r fath lle bynnag y mae’n ymddangos ar ei heiddo a bydd yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol. Wrth weithio o fewn amgylchedd addysgol efallai y bydd adegau pan fydd angen i staff academaidd drafod deunydd sy’n hynod sarhaus â myfyrwyr. Yn yr achos hwn, mae’r Brifysgol yn cydnabod bod anghenion addysgol teg dros arddangos a thrafod materion o’r fath.
5. Bydd y Brifysgol yn darparu amgylchedd cefnogol i staff neu fyfyrwyr sydd am iddi fod yn hysbys eu bod yn Lesbiaidd, Hoyw neu’n Ddeurywiol. Fodd bynnag, mae gan yr unigolion yr hawl i ddewis a ydynt am fod yn agored am eu rhywioldeb yn y Brifysgol. Mae cyhoeddi rhywioldeb rhywun, boed yn aelod staff neu’n fyfyriwr, heb ei ganiatâd yn ffordd o aflonyddu, a chaiff ei thrin yn y ffordd honno.
6. Ni ragdybir bod partneriaid staff a myfyrwyr o’r rhyw arall. Lle bynnag y bo modd, bydd manteision y gweithle yr un mor berthnasol i’r partneriaid o’r un rhyw.
7. Mae’r Brifysgol yn croesawu a lle y bo’n briodol bydd yn darparu cyfleusterau perthnasol ar gyfer grwpiau myfyrwyr a staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (e.e. cyfleusterau cyfarfod ayyb).
8. Caiff materion Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol eu cynnwys mewn hyfforddiant cydraddoldeb, arolygon agweddol mewnol, monitro cwynion am aflonyddu ayyb.
9. Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod staff a myfyrwyr Lesbiaid, Hoyw a Deurywiol yn dod o gefndiroedd amrywiol, a bydd yn ymdrechu i sicrhau nad ydynt yn profi gwahaniaethu naill ai ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol neu ar sail eu hunaniaeth (e.e. hil, oedran, crefydd, anabledd).
Mae’r polisïau canlynol yn cefnogi ymrwymiad y Brifysgol i werthfawrogi pob aelod staff a phob myfyriwr yn gydradd â’i gilydd, beth bynnag ei gyfeiriadedd rhywiol neu ei bennu rhywedd;
- Cod Ymarfer Cyfleoedd Cyfartal
- Canllawiau ar gyfer Recriwtio a Dethol
- Polisi Urddas wrth Weithio ac Astudio
- Polisïau Disgyblu a Chwyno
Polisi Dim Ysmygu
Gweler IECHYD A DIOGELWCH.
Polisi Cyfryngau Cymdeithasol
1. Cyflwyniad
1.1 Mae Prifysgol Abertawe (y cyfeirir ati o hyn allan fel 'y Brifysgol') yn cydnabod y buddion a'r cyfleoedd amrywiol sy'n cael eu cynnig gan y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â myfyrwyr a'r cyhoedd, i rannu llwyddiannau, hybu'r Brifysgol a lledaenu newyddion ac ymchwil. Felly, mae'r Brifysgol hefyd yn annog myfyrwyr i ddefnyddio sianelau'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd effeithiol a phriodol ac i'w defnyddio i ymuno â sgyrsiau â chymuned y Brifysgol.
1.2 Er bod y cyfryngau cymdeithasol yn cynnig cyfleoedd helaeth, ceir risgiau niferus a sylweddol wrth eu defnyddio hefyd. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i unigolion gyfathrebu'n ddienw (neu ddim) â chynulleidfa a allai fod yn anferth ac weithiau gall ei natur anffurfiol ein hannog i fod yn llai gofalus nag y byddem wrth ddefnyddio dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu mwy traddodiadol. Gall defnydd amhriodol o'r cyfryngau cymdeithasol niweidio enw da'r Brifysgol a gall gael effaith niweidiol ar staff a myfyrwyr.
1.3 Mae'r polisi hwn ar gyfer myfyrwyr ac mae'n darparu gwybodaeth am ffyrdd priodol o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol pan wneir hyn mewn cysylltiad â'u statws fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cysylltiad ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, neu wrth gyfeirio, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, at y Brifysgol.
1.4 Mae’r polisi hwn yn gweithredu ochr yn ochr â’r polisïau a’r rheoliadau eraill sydd gan y Brifysgol fel a ganlyn (gan eu cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
- Safonau ac Ymddygiad Cyffredinol
- Polisi Defnydd Derbyniol o Dechnolegau Digidol
- Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio
- Gweithdrefnau Disgyblu
- Polisi Diogelu Grwpiau Agored i Niwed
- Polisi Dyletswydd Prevent
- Siarter Myfyrwyr
1.5 Mae egwyddorion rhyddid mynegiant a rhyddid academaidd yn berthnasol i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol; er hynny, mae’r Brifysgol yn gofyn am ddefnydd cyfrifol a chyfreithiol (gweler hefyd Côd Ymarfer y Brifysgol o ran Rhyddid i Lefaru)
1.6 Disgwylir i'r holl fyfyrwyr gydymffurfio â'r polisi hwn ac argymhellion pob polisi ar y cyfryngau cymdeithasol sy'n cael ei fabwysiadu gan eu Cyfadran/Hysgol penodol.
2. Cwmpas
2.1 At ddibenion y polisi hwn, defnyddir y term 'Cyfryngau Cymdeithasol' i ddisgrifio platfform gwybodaeth a chyfathrebu sy'n rhan o rwydwaith cymdeithasol rhyngweithiol, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: Facebook (a Messenger), Instagram, WhatsApp, Snapchat, Allo, WeChat, Unitu, QQ, Tumblr, Twitter, LinkedIn, Reddit, YouTube, Flickr, Pinterest, Tik Tok, Viber, Pinterest, Microsoft Teams, Yammer, Tinder, Hinge, Bumble, Discord a Google+.
2.2 Mae'r polisi hwn yn berthnasol i gyfathrebiadau yn y cyfryngau cymdeithasol a wneir gan fyfyrwyr ar fforymau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys y cyfathrebiadau hynny sy'n cyfeirio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at y Brifysgol. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i gyfathrebu yn y cyfryngau cymdeithasol o unrhyw leoliad, gan gynnwys oddi ar y campws ac ar ddyfeisiau personol, boed i unigolyn, grŵp neu i'r byd. Gall cyfathrebiadau a ychwanegir at fforymau cyhoeddus gael eu gweld gan unrhyw aelod o'r cyhoedd o'r dyddiad cyhoeddi, ond dylid sylwi hefyd y gall cyfathrebiadau a ychwanegir at fforymau preifat gael eu rhannu'n gyhoeddus gan eraill hefyd, yn ogystal ag awdur gwreiddiol y post. Gellir cymryd camau disgyblu yn erbyn myfyrwyr sydd wedi cyfathrebu mewn modd diofal neu esgeulus, hyd yn oed pan oeddent yn credu bod y fforwm yn breifat. Gwelwyd nifer o achosion proffil uchel yn y blynyddoedd diweddar lle mae myfyrwyr ledled y wlad wedi cael eu disgyblu ar ôl i sylwadau sarhaus, a wnaed ar wasanaethau negeseua preifat megis Messenger a WhatsApp, gael eu copïo a'u rhannu'n gyhoeddus. Mewn rhai achosion, mae myfyrwyr wedi cael eu heuogfarnu o droseddau yn sgîl gwneud sylwadau sarhaus yn y cyfryngau cymdeithasol. Dylai myfyrwyr gofio y gall y Brifysgol gymryd camau os nodir ymddygiad nad yw'n glynu wrth ganllawiau, boed hynny'n gyhoeddus neu'n breifat.
3.Cyfrifoldebau Myfyrwyr
3.1 Mae’n rhaid i bob myfyriwr ddarllen y canllawiau hyn a Chanllawiau Academaidd y Brifysgol a gweithredu’n unol â’u hegwyddorion.
3.2 Anogir myfyrwyr i adolygu'r cyfrifon sydd ganddynt yn y cyfryngau cymdeithasol a, lle bo hynny'n briodol, eu newid i wedd fwy proffesiynol. Rhoddir cyngor a chanllawiau yn Atodiad A.
3.3 Anogir myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sut mae eu hunaniaeth, eu barn a'u sylwadau yn ymddangos ar-lein ac fe'u hatgoffir bod darpar gyflogwyr a chysylltiadau proffesiynol yn edrych ar broffiliau yn y cyfryngau cymdeithasol wrth recriwtio er mwyn cael gwybodaeth am uniondeb, cymeriad neu gyflogadwyedd ymgeisydd. Felly, dylai myfyrwyr fod yn wyliadwrus rhag postio pethau a allai niweidio eu dyfodol neu eu cyflogadwyedd.
3.4 Yn ogystal, argymhellir bod myfyrwyr yn darllen ac yn gweithredu yn unol â'r canllawiau a ddarperir gan gwmnïau a darparwyr cyfryngau cymdeithasol penodol.
3.5 Dylai myfyrwyr wirio amodau a thelerau cyfrif yn y cyfryngau cymdeithasol a/neu wefan cyn lanlwytho deunydd. Trwy bostio deunydd i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol a/neu wefannau, gellid rhyddhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth o’r cynnwys.Am y rheswm hwn, mae'n bwysig bod yn ofalus wrth rannu pob math o wybodaeth, yn enwedig lle bo'r wybodaeth yn adnabod trydydd parti, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
3.6 Wrth bostio deunydd digidol ar-lein, gall gyrraedd cynulleidfa ehangach na'r un roeddech chi'n disgwyl neu'n bwriadu ei chyrraedd. Unwaith mae cynnwys digidol wedi cael ei greu a'i rannu, ychydig o reolaeth fydd gennych dros ei hirhoedledd neu ei gynulleidfa.
3.7 Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol o effaith a hirhoedledd posib unrhyw gynnwys sy'n cael ei gyhoeddi ar-lein.
Felly, dylai myfyrwyr osgoi cyhoeddi unrhyw beth:
- Nad ydynt am iddo fod ar gael i'r cyhoedd
- Sy'n diystyried y polisi hwn
4. Safonau ac Ymddygiad yn y Cyfryngau Cymdeithasol
4.1 Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb personol am unrhyw beth maent yn ei gyfleu yn y cyfryngau cymdeithasol neu drwyddynt a rhaid iddynt lynu wrth y safonau ymddygiad a nodir yn y polisi hwn a phob polisi cysylltiedig, megis y polisi ar Ddefnydd Derbyniol o Dechnolegau Digidol a'r polisi ar Safonau ac Ymddygiad Cyffredinol.
4.2 Fel defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol, gall myfyrwyr weld aelodau'r cyhoedd yn gwneud defnydd cynyddol o'r cyfryngau cymdeithasol i wneud cwynion. Fodd bynnag, os yw myfyrwyr am fynegi cwyn, rhoi gwybod am drosedd neu fater arall, dylent wneud hynny drwy'r sianelau sydd ar gael eisoes, e.e. rhoi gwybod i'r Heddlu; cysylltu â chanolfan Cyngor a Chymorth Undeb y Myfyrwyr neu ddefnyddio'r weithdrefn gwyno. Ni ddylai myfyrwyr fynegi cwynion neu achwyniad ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol. Dylai myfyrwyr gysylltu â'r Brifysgol a/neu'r Heddlu cyn gynted â phosib, gan gadw unrhyw dystiolaeth, e.e. sgrinluniau o'r cyfryngau cymdeithasol. Cofiwch, drwy fynegi achwyniad neu gŵyn yn gyhoeddus, gall hyn gyfyngu ar y camau gweithredu y gellir eu cymryd a gall arwain at weithredu sifil yn erbyn awdur y gŵyn os profir ei bod yn anwir.
4.3 Ni ddylai defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol amharu ar hawliau neu breifatrwydd myfyrwyr eraill neu staff, ac ni ddylai myfyrwyr wneud sylwadau neu fynegi barn anghyfrifol am fyfyrwyr eraill, staff na thrydydd partïon.
4.4 Rydym yn argymell gofyn am ganiatâd i rannu deunydd sy'n eiddo i drydydd parti, gan gynnwys pob math o ddelwedd, ffotograffau, testun a fideo, a chofnodi'r caniatâd hwnnw, cyn lanlwytho'r deunydd neu greu gysylltiad â’r deunydd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Lle bo'r trydydd parti'n rhoi caniatâd, rydym yn cynghori y dylid cydnabod deunyddiau o'r fath yn briodol.
4.5 Ystyrir bod y rhestr ganlynol o ddeunyddiau yn annerbyniol ac ni ddylid eu cyhoeddi byth:
- Gwybodaeth gyfrinachol (a all gynnwys ymchwil nad yw'n gyhoeddus eto, gwybodaeth am fyfyrwyr eraill neu staff neu faterion personol, dogfennau neu wybodaeth nad ydynt yn gyhoeddus neu wedi'u cymeradwyo eto).
- Manylion cwynion/cwynion posib a/neu weithrediadau cyfreithiol/gweithrediadau cyfreithiol posib sy'n cynnwys y Brifysgol.
- Gwybodaeth bersonol am unigolyn arall, gan gynnwys manylion cyswllt, heb ganiatâd uniongyrchol yr unigolyn.
- Sylwadau a gyhoeddir gan ddefnyddio cyfrifon ffug, ffugenwau neu gan ddefnyddio enw unigolyn arall heb gydsyniad yr unigolyn.
- Deunydd amhriodol, gan gynnwys - ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain – ddelweddau sydd, neu y gellir ystyried eu bod, yn hiliol, yn fygythiol, yn aflonyddu, yn wahaniaethol, yn anghyfreithlon, yn anllad, yn anweddus, yn ddifenwol neu'n elyniaethus tuag at unigolyn, grŵp neu endid, yn unol â Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol.
- Unrhyw bost arall y bernir ei fod, neu y gellir barnu ei fod, yn drosedd.
- Unrhyw beth a allai ddwyn anfri ar y Brifysgol neu beryglu diogelwch neu enw da cydweithwyr, cyn-gydweithwyr, myfyrwyr, staff neu drydydd partïon sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol.
4.6 Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol hefyd fod cyfathrebiadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth sydd â'r nod o atal ymyrraeth â gweithrediadau cyfreithiol, boed yn fwriadol neu'n anfwriadol.
4.7 Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gall datganiadau drwy'r cyfryngau cymdeithasol sy'n peri niwed i unigolyn, gan gynnwys i enw da'r unigolyn, neu sy'n ymyrryd â gweithdrefn ddisgyblu/gyfreithiol sydd ar y gweill greu honiad posib yn erbyn awdur y datganiad. Yn ogystal, gall hyn gynnwys rhannu datganiadau a wnaed gan eraill.
4.8 Gall unigolyn, gan gynnwys yr achwynydd, danseilio gweithrediadau neu brosesau drwy gyhoeddi gwybodaeth, gan gynnwys delweddau, sy'n ymwneud â chwynion a/neu weithrediadau cyfreithiol cyfredol neu bosib. Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol y gallent ddwyn anfri ar y Brifysgol drwy wneud hynny neu beryglu diogelwch cymuned y Brifysgol. Gellir ystyried bod yr ymddygiad hwn yn amhriodol, yn unol â pharagraff 4.5 uchod.
4.9 Rhaid i fyfyrwyr a grwpiau myfyrwyr, e.e. cymdeithasau Prifysgol Abertawe, fod yn arbennig o ofalus i beidio â dweud nac awgrymu bod eu barn yn cynrychioli barn y Brifysgol wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ac ni ddylent byth ddefnyddio logo'r Brifysgol.
5. Seiber-fwlio/bwlio ar-lein
5.1 Ni fydd y Brifysgol yn goddef unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu gan neu yn erbyn aelodau'r Brifysgol, myfyrwyr neu randdeiliaid neu ymwelwyr, e.e. Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mholisi'r Brifysgol ar Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio. Gellir gweld gwybodaeth bellach ar wefan MyUni.
5.2 Mae'r rhestr ganlynol o enghreifftiau'n dangos y mathau o ymddygiad a ddangosir yn y cyfryngau cymdeithasol ac sy'n cael eu hystyried gan y Brifysgol yn ffurfiau ar seiber-fwlio:
- Lledaenu sïon, celwyddau neu glecs yn faleisus, yn ddiofal neu'n anghyfrifol.
- Ymddygiad bygythiol neu ymosodol, yn nhyb y rhai sy'n gweld y cynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Sylwadau neu gynnwys sarhaus neu fygythiol, yn nhyb y rhai sy'n gweld y cynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Postio sylwadau/lluniau ayyb. yn fwriadol, gan wawdio unigolyn yn esgeulus neu'n ddi-hid â'r potensial i aflonyddu neu ddwyn cywilydd ar yr unigolyn yn nhyb y rhai sy'n gweld y cynnwys yn y cyfryngau cymdeithasol.
5.3 Gellir cyflawni seiber-fwlio drwy gyfryngau cyfathrebu electronig eraill hefyd megis e-bost, tecstio, negeseua gwib, fideo, sain neu ddelweddau - wedi'u golygu neu heb eu golygu.
6. Defnydd o Gyfrifon Swyddogol y Brifysgol gan Fyfyrwyr
6.1 Gall rhai myfyrwyr gyfrannu at weithgarwch swyddogol y Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol fel rhan o'u rôl. Er enghraifft, gall Myfyrwyr Llysgennad neu Gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe 'gymryd dros' y cyfrifon Facebook neu Instagram, flogio, ysgrifennu blogiau neu reoli cyfrif Twitter swyddogol. Dylai myfyrwyr gofio eu bod yn gweithredu fel cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe pan fyddant yn cyfrannu at weithgarwch y Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol.
6.2 Gall defnydd amhriodol o gyfrifon swyddogol y Brifysgol arwain at waharddiad dros dro, ac yn dilyn pwyllgor disgyblu, gall arwain at gael gwaharddiad. Ni fydd gan fyfyrwyr hawl i gael eu hail-dderbyn i’r Brifysgol yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu’r Brifysgol.
7. Gweithredu'n Groes i'r Polisi
7.1 Os bernir bod myfyriwr wedi gweithredu'n groes i'r polisi hwn, gellir ystyried cymryd camau disgyblu yn erbyn y myfyriwr, yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol a/neu'r Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
7.2 Gorchmynnir unigolyn yr amheuir ei fod wedi gweithredu'n groes i'r polisi hwn gydweithredu ag unrhyw ymchwiliad a gynhelir yn unol â'r weithdrefn ddisgyblu. Os nad yw'n cydymffurfio, gellir cymryd camau disgyblu pellach yn erbyn yr unigolyn yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu'r Brifysgol.
7.3 Os bydd y Brifysgol yn barnu bod cynnwys ar y rhyngrwyd neu yn y cyfryngau cymdeithasol yn groes i'w pholisi, gall y Brifysgol fynnu bod unigolyn yn dileu'r cynnwys hwnnw. Os nad yw'n cydymffurfio â chais o'r fath, gellir cymryd camau disgyblu pellach yn erbyn yr unigolyn.
7.4 Rhaid rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiad sy'n groes i'r polisi hwn yn unol â rheoliadau Safonau ac Ymddygiad Cyffredinol y Brifysgol. Yn y lle cyntaf, dylid rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath i Wasanaethau Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Academaidd.
8. Monitro
8.1 Bydd y Brifysgol yn:
- Sicrhau bod y polisi hwn a newidiadau iddo ar gael i staff a myfyrwyr.
- Darparu canllawiau, lle bo eu hangen, ar gyfer myfyrwyr am sut i aros yn ddiogel ar-lein wrth ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Gellir gweld canllawiau sylfaenol a ddarparwyd gan Wasanaethau Myfyrwyr yma.
- Monitro cyfeiriadau at y Brifysgol yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar y rhyngrwyd ac ymateb i gwynion ynghylch ymddygiad myfyrwyr yn y cyfryngau cymdeithasol.
- Cymryd camau disgyblu lle dangosir ymddygiad annerbyniol sy'n effeithio ar fyfyrwyr, staff, y Brifysgol neu aelodau'r cyhoedd, yn unol â rheoliadau Safonau ac Ymddygiad Cyffredinol y Brifysgol, ei Siarter Myfyrwyr a'i pholisi ar Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio.
- Gwerthuso a diweddaru'r polisi hwn yn flynyddol lle bo hynny'n briodol, ynghyd â'r holl bolisïau a chanllawiau cysylltiedig a chyhoeddi manylion am ddiwygiadau.
9. Canllawiau a Gwybodaeth Ychwanegol - Atodiad A
- Cofiwch, mae popeth rydych yn ei bostio ar-lein yn gyhoeddus. Unwaith mae wedi'i bostio, mae'r awdur yn colli rheolaeth ar sut mae eraill yn rhyngweithio â'r cynnwys. Gall unrhyw beth rydych yn ei bostio ar-lein (hyd yn oed ar broffiliau caeëdig neu wasanaethau negeseua preifat megis WhatsApp er enghraifft) ddod yn gyhoeddus, hyd yn oed heb eich gwybodaeth neu eich cydsyniad.
- Meddyliwch cyn postio. Fyddech chi'n hapus i'ch cyflogwr yn y dyfodol ei weld? Os na fyddech, mae'n debygol nad yw'n syniad da ei bostio. Gwelwyd nifer o achosion proffil uchel ledled y wlad lle mae myfyrwyr wedi cael eu disgyblu ar ôl i sylwadau sarhaus a wnaed ar wasanaethau negeseua preifat megis WhatsApp gael eu copïo a'u rhannu. Byddwch yn wyliadwrus ac yn ofalus.
- Ystyriwch sut gall cynnwys eich negeseuon ymddangos i eraill. Gallai deunyddiau sarhaus, gan gynnwys testun, delweddau a fideo achosi gofid difrifol a niwed sylweddol i'ch enw da proffesiynol a phersonol. Ystyriwch sut gall eich cynnwys ymddangos i eraill. Sut gallai ymddangos i ddarpar gyflogwr? Mae cyflogwyr yn gwirio ôl troed digidol darpar weithwyr yn fwyfwy. Mae hyn yn golygu edrych ar hen drydariadau, postiau a sylwadau ar fforymau. A allech fethu cyflawni safonau disgwyliedig yn y brifysgol ac yn ôl y gyfraith drwy rannu’r cynnwys? Os felly, gallai’r Brifysgol gymryd camau disgyblu. Cofiwch, gall fod yn anodd dileu rhywbeth pan fydd wedi'i rannu, ei gopïo neu ei ailddosbarthu.
- Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd. Diogelwch eich gwybodaeth bersonol a gwybodaeth pobl eraill rhag cael ei chamddefnyddio. Meddyliwch am bwy sy'n gallu gweld eich cyfeiriad, eich rhif ffôn, eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad e-bost. Ac, yn bendant, peidiwch â rhannu eich manylion bancio ar-lein. Cofiwch hefyd, er eich bod yn rhannu'r cynnwys yn breifat (ar eich proffil preifat neu ar fforwm preifat) gall eraill rannu'r cynnwys hwnnw'n gyhoeddus os yw ar gael iddynt.
- Defnyddiwch gyfrineiriau diogel. Cofiwch ddefnyddio cyfrinair diogel. Y cyngor cyfredol am hyn yw defnyddio ymadrodd cyfrinachol sy'n cynnwys tri gair neu fwy y gallwch ei weld yn eich meddwl. Peidiwch byth ag ailddefnyddio cyfrineiriau ar wefannau gwahanol. Efallai byddai'n syniad da defnyddio dilyswyr.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â disgwyliadau o ran proffesiynoliaeth a chyfrinachedd ar eich cwrs, yn enwedig os yw'ch cwrs wedi'i achredu gan gorff proffesiynol. Os torrwch gôd ymddygiad corff proffesiynol, mae'n debygol iawn y bydd hyn yn effeithio ar eich gallu i astudio a'ch gyrfa yn y dyfodol.
- Byddwch yn ofalus wrth rannu deunyddiau trydydd parti. Oes angen caniatâd arnoch i rannu'r deunyddiau neu a fyddai'n gwrtais cysylltu â'r parti beth bynnag? Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio cyn postio oherwydd y gallai dorri cyfreithiau hawlfraint a/neu eiddo deallusol.
- Cofiwch, nid yw popeth rydych yn ei ddarllen yn fanwl gywir. Pwy yw’r awdur? O ble daeth? Ydy'r delweddau o safon wael? Os ydych chi'n meddwl bod rhywbeth yn edrych neu'n swnio'n anghywir mae'n well ei osgoi. Gall ysgrifennu a dosbarthu datganiadau anghywir am bobl a sefydliadau fod yn anghyfreithlon a gall arwain at achos cyfreithiol.
Rheoliadau Ychwanegol
Mae’r wybodaeth hon wedi’i gadw ar wefan gwasanaethau gwybodaeth a systemau.
Mae’r wybodaeth hon wedi’i gadw ar wefan rheoli cofnodion.
Mae’r wybodaeth hon wedi’i gadw ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau.
I weld polisïau Cyfle Cyfartal Prifysgol Abertawe, ewch i adran Cyfle Cyfartal y wefan Adnoddau Dynol.