Bydd y tîm goruchwylio llawn yn cwrdd yn rheolaidd trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth, naill ai wyneb yn wyneb neu ynteu trwy gyfrwng electronig, er mwyn trafod cynnydd yr ymgeisydd.
Ym Mhrifysgol Abertawe:
Rhaid i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel y nodir yn y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
Caiff cynnydd ymgeisydd yn ystod cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ei fonitro yn rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu er mwyn penderfynu a ellir caniatáu i ymgeisydd symud ymlaen ai peidio. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau Prifysgol Abertawe ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
Os bernir bod cynnydd ymgeisydd yn anfoddhaol, efallai y caiff yr ymgeisydd ei orfodi i drosglwyddo rhaglen, neu ei orfodi i dynnu’n ôl o’r rhaglen.
Asesu Gradd
Arholir bob ymgeisydd ar gyfer doethuriaeth ar y cyd mewn dwy ran:
- Bydd y rhan gyntaf ar ffurf traethawd ymchwil sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil.
- Bydd yr ail ran ar ffurf arholiad llafar (viva voce).
Cynhelir y broses arholi mewn un o'r sefydliadau partner, ond bydd bob un o'r sefydliadau partner yn cymeradwyo'r broses.
Iaith y Traethawd Ymchwil a'r Arholiad Llafar
Fel arfer, ysgrifennir y traethawd ymchwil mewn iaith genedlaethol un o'r sefydliadau partner. Fel arfer, cynhalir yr arholiad llafar mewn iaith genedlaethol un o'r sefydliadau partner.
Ym Mhrifysgol Abertawe:
Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil, neu waith arall, yn Saesneg neu yn Gymraeg.
Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Saesneg/Cymraeg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd ymchwil mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu’n Saesneg.