1. Gwybodaeth gefndirol gyffredinol
Mae'r Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon (DAiSI) Hafan | DAiSI (daisi-project.eu) yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o sefydliadau ymchwil a sefydliadau anllywodraethol ym maes moeseg ac uniondeb chwaraeon. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth prif gorff rhyngwladol a phum Prifysgol:
KU Leuven, Gwlad Belg (y partner sy'n cydlynu) https://www.kuleuven.be/
Prifysgol Johannes Gutenberg (JGU) Mainz, yr Almaen https://homepage.uni-mainz.de/
Ysgol Gwyddorau Chwaraeon Norwy (NJH) (NSSS), Norwy https://www.nih.no/en/
Partneriaid Cysylltiedig:
Prifysgol Lausanne (UNIL), y Swistirhttps://www.unil.ch/central/en/home.html
Prifysgol Abertawe, https://www.swansea.ac.uk/.
2. Amodau Mynediad
Gofynion penodol ar gyfer rhaglenni PhD ar y cyd y Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon:
- Sylwer nad oes modd llofnodi contract rhwng sefydliadau partner/partneriaid cymeradwy ar gyfer ymgeisydd unigol nes bod yr ymgeisydd doethurol ar y cyd wedi cael ei dderbyn ar y rhaglen ddoethurol gan yr holl sefydliadau partner/bartneriaid cymeradwy.
- Gofynnir i fyfyrwyr yn NSSS gyflwyno cais, o fewn chwe mis ar ôl y dyddiad dechrau, i Bwyllgor Sicrhau Ansawdd NSSS sy'n cynnwys disgrifiad 10 dudalen o hyd o'r astudiaeth arfaethedig.
3. Cyfnod Ymgeisyddiaeth
Gofynion penodol ar gyfer rhaglenni PhD ar y cyd y Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon:
- Gofynnir i fyfyrwyr yn NSSS astudio 30 o gredydau a addysgir (ECTS) yn ystod cyfnod yr ymgeisyddiaeth. Caiff y credydau hyn eu cwblhau yn ystod eu harhosiad yn un o'r ysgolion hyfforddi yn NSSS.
4. Monitro Cynnydd
Gofynion penodol ar gyfer rhaglenni PhD ar y cyd y Rhwydwaith Hyfforddiant Doethurol mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon:
- Mae angen darparu adroddiad blynyddol i NSSS ar gynnydd y myfyriwr.”
5. Arholi Myfyrwyr Ymchwil
5.1
Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil (ceir esboniad yn y Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil - Prifysgol Abertawe).
- Bydd cyfansoddiad y Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio mewn partneriaeth ag NSSS yn cynnwys yr unigolion canlynol:
- Dau Arholwr Allanol (un o bob partner) a dau arholwr mewnol (un o bob partner).
- Cynhelir yr arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe naill ai ar y safle neu ar-lein. Gellir gwneud cywiriadau ar ôl yr arholiad llafar os bydd angen hynny.
- Darperir adroddiad ysgrifenedig (ar ôl gwneud cywiriadau os bydd eu hangen) i NSSS a chynhelir yr arholiad llafar/amddiffyniad cyhoeddus (naill ai ar y safle neu ar-lein).
5.2
Arholi Myfyrwyr Ymchwil sy'n astudio mewn partneriaeth â Phrifysgol Mainz (JGU)
I gydymffurfio â'r rheoliadau sydd ar waith ym mhob sefydliad ac er mwyn cael adroddiad ffafriol gan y pwyllgor arholi, mae'r ddau sefydliad yn mynd ati i ddyfarnu gradd ddoethurol ar y cyd i'r ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cael ei chydnabod gan y ddau sefydliad:
Doethur (teitl y radd) ar y cyd gan y sefydliad cartref
a
Doethur (teitl y radd) ar y cyd gan y sefydliad lletyol.
Bydd pob sefydliad yn cyhoeddi ei ddogfen ddiploma ei hun. Bydd y diploma a/neu'r atodiad i’r diploma yn nodi'n glir y bartneriaeth â'r sefydliad arall a'r oruchwyliaeth ar y cyd o'r traethawd estynedig, i gydymffurfio â'r rheoliadau sydd ar waith ym mhob un o'r ddau sefydliad.
5.3
Arholi Myfyrwyr Ymchwil sy'n astudio mewn partneriaeth â Phrifysgol Lausanne
Arholir myfyrwyr sy'n astudio mewn partneriaeth â Phrifysgol Lausaunne gan golocwiwm sy'n cynnwys rheithgor sy'n cynnwys aelodau o'r Bwrdd Arholi a goruchwylwyr (er gall y goruchwylwyr ddod i'r digwyddiad, ni allant gyfrannu at y colocwiwm).