Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw'r Brifysgol i Radd Doethuriaeth Uwch.
3.1
Fel rheol, dim ond gwaith cyhoeddedig mewn cyfnodolion a llyfrau ysgolheigaidd a fydd yn gymwys i’w ystyried. Rhaid i’r holl waith fod wedi’i gyhoeddi mewn modd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyffredinol i’w ddarllen gan ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb ynddo.
3.2
Bydd y gwaith sydd i’w gyflwyno yn cynnwys:
a. Esboniad byr sy’n rhoi crynodeb o’r gwaith cyhoeddedig, gan gynnwys holl brif gysyniadau a chasgliadau’r gwaith cyhoeddedig;
b. Taflen grynhoi sy’n rhestru’r holl waith cyhoeddedig a gyflwynir, ynghyd â datganiad ynghylch maint cyfraniad yr ymgeisydd i waith sydd â mwy nag un awdur;
c. Copi o bob cyhoeddiad, wedi’u rhifo, yn unol â 3.2 b) uchod;
ch. Tystiolaeth am statws yr holl waith cyhoeddedig a gyflwynir;
d. Curriculum Vitae academaidd.
3.3
Bydd gofyn i ymgeiswyr am radd Doethuriaeth Uwch gyflwyno tri chopi o’r gwaith fel y disgrifir ym mharagraff 3.2, i Swyddfa Ymchwil Myfyrwyr Ôl-raddedig y Gwasanaethau Addysg i’w arholi.