AR GYFER POB RHAGLEN A ADDYSGIR A PHOB RHAGLEN YMCHWIL

Gwybodaeth Bwysig 

Ni fwriedir i'r weithdrefn hon gael ei defnyddio i ystyried cwynion gan fyfyrwyr. Dylai myfyrwyr sydd am gwyno ddefnyddio Gweithdrefnau Cwynion y Brifysgol. Os yw ymgeiswyr am ofyn i farciau unigol gael eu gwirio, dylent  ddefnyddio'r weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd.

Mae’r gweithdrefnau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Fwrdd Arholi.

Gall myfyrwyr gyflwyno apêl academaidd yn unol â Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd y Brifysgol, yn seiliedig ar amgylchiadau iechyd neu amgylchiadau personol eithriadol eraill nad ydynt yn gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu. Nid yw apêl a gyflwynir ar sail sy'n gysylltiedig â'r boicot marcio ac asesu neu gymhwyso'r Rheoliadau Eithriadol yn unig yn debygol o fod yn llwyddiannus. Camau Gweithredu Diwydiannol - Prifysgol Abertawe

Os ydych yn teimlo eich bod yn gymwys, bod gennych reswm dros apelio, ac eich bod o fewn y terfynau amser, bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen apêl academaidd

Bydd angen cyflwyno’r Ffurflen Gais am Apêl, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cais trwy e-bostio studentcases@swansea.ac.uk. Gan fod staff yn gweithio o bell ar hyn o bryd, ni allwn dderbyn ffurflenni apêl neu unrhyw ddogfennaeth/ohebiaeth drwy’r post.

Cynghorir myfyrwyr hefyd i ddarllen y ddogfen Cwestiynau Cyffredin sy’n darparu rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau allweddol ar gyfer cyflwyno apeliadau a sut y penderfynir ar yr apeliadau.

Os oes gennych gwestiynau ar y weithdrefn neu’r rheoliadau, cysylltwch â’r Tîm Achosion Myfyrwyr, a fydd yn hapus i ateb ymholiadau sydd gennych, drwy e-bost: studentcases@abertawe.ac.uk

Yn ogystal â hyn, mae Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gael i gynorthwyo ac i gynghori myfyrwyr. I drefnu apwyntiad i weld rhywun yn Undeb y Myfyrwyr gallwch chi gysylltu â'r Ganolfan Gyngor drwy borth newydd i fyfyrwyr http://hello.swansea-union.co.uk/ lle gallwch godi tocyn a dewis y categori - Cyngor a Chymorth o'r gwymplen. Fel arall, gallwch e-bostio Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr: Hello@swansea-union.co.uk.

Dyddiadau Ystyriaethau Arbennig

Er bod gan fyfyrwyr 3 mis i gyflwyno apêl, os nad oes gennych eisoes benderfyniad o ymgais/ymgeisiau atodol ac rydych yn cyflwyno apêl am ymgais/ymgeisiau atodol i'w sefyll yn ystod cyfnod asesiadau atodol mis Awst 2025, bydd angen i chi gyflwyno eich apêl i'r Gwasanaethau Addysg erbyn y dyddiadau a nodir isod. Bydd hyn yn galluogi ystyriaeth, lle bo'n bosib, cyn i'r cyfnod asesu atodol ddechrau.

Math o fyfyriwr                                                                            Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl

 

Myfyrwyr Israddedig - Arholiadau Terfynol                                     Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025

Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir                                                   Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025

Myfyrwyr Israddedig nad ydynt yn eu blwyddyn olaf                      Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025

MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blynyddoedd 4                    Dydd Iau 10 Gorffennaf 2025

MBBCh (Meddygaeth i Raddedigion) blynyddoedd 1 i 3*              Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025

Ni fydd apeliadau sy'n gofyn am ymgais/ymgeisiau atodol ar asesiad a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau uchod fel arfer yn cael eu prosesu a'u hystyried mewn pryd ar gyfer y cyfnod asesu atodol sy'n dechrau ar 4 Awst 2025.

Yn ogystal, sylwer: dylai myfyrwyr sydd wedi cyflwyno apêl aflwyddiannus/nad ydynt wedi derbyn y canlyniad yr oeddent wedi gobeithio amdano wrth apelio, ac sy'n cyflwyno ceisiadau am adolygiad terfynol yn gofyn am ymgeisiau atodol fod yn ymwybodol na chaiff ceisiadau am adolygiad terfynol eu hystyried a'u prosesu mewn pryd ar gyfer/yn ystod y cyfnod asesu atodol (oherwydd y diffyg amser rhwng cyhoeddi canlyniadau a dechrau’r cyfnod arholi atodol). Mae felly'n hynod bwysig bod myfyrwyr yn cyflwyno'r holl dystiolaeth a gwybodaeth berthnasol wrth gyflwyno apêl.

*Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr MBBCh Meddygaeth i Raddedigion (blynyddoedd 1 i 3) yn unig.

Dylai myfyrwyr sy'n astudio ar y rhaglen MBBCh Meddygaeth i Raddedigion (blynyddoedd 1 i 3) sylwi mai 31 Gorffennaf 2025 yw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno apêl a bydd cyfnod yr asesiadau atodol ar gyfer myfyrwyr ar y rhaglenni hynny yn dechrau ar 5 Awst 2025. I sicrhau nad yw myfyrwyr ar y rhaglenni hyn sydd wedi cyflwyno apêl erbyn y dyddiad cau, sef dydd Iau 31 Gorffennaf 2025, ac sy'n cyflwyno cais am ail ymgais mewn asesiad(au) yn colli'r cyfle i gwblhau asesiad atodol (os yw eu hapêl yn llwyddiannus ar ôl hynny), penderfynwyd y caiff myfyrwyr sy'n astudio ar y rhaglenni hyn gyfle i gwblhau'r asesiad atodol cyn i'r apêl gael ei phrosesu. Fodd bynnag, bydd unrhyw fyfyriwr sy'n cael cynnig y cyfle hwn ac yn cwblhau'r asesiad atodol yn derbyn pob risg, oherwydd os bydd yr apêl yn aflwyddiannus wedi hynny, ni chaiff asesiad(au) y myfyriwr ei farcio/eu marcio, ac ni ddyfernir marciau i'r myfyriwr am yr asesiad(au).

Os yw myfyrwyr rhyngwladol ar y Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion MBBCh y mae angen fisa Haen 4 arnynt i astudio yn y Brifysgol yn apelio yn erbyn penderfyniad a dynnwyd yn ôl yn cyflwyno cais am ail ymgais mewn asesiad(au), mae'n debygol na fydd ganddynt y dewis i sefyll asesiad(au) atodol cyn i'r apêl gael ei phrosesu oherwydd cyfyngiadau Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Cynghorir myfyrwyr o'r fath felly i gysylltu â'r Ysgol Feddygaeth ac Cyngor ar fisâu (a elwid gynt yn Rhyngwladol@BywydCampws) cyn cyflwyno apêl.

* Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr Cydymaith Meddygol (blynyddoedd 1 a 2) yn unig:

Er bod gennych 3 mis i gyflwyno apêl academaidd, mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o'r cyfle asesu nesaf sydd ar gael ar gyfer yr asesiad yr effeithir arno. Er enghraifft, os byddwch yn cyflwyno apêl academaidd am drydydd ymgais eithriadol yn y prawf cynnydd (sydd i fod i gael ei gynnal ym mis Rhagfyr 2025), mae'r cyfrifoldeb arnoch chi i gyflwyno eich apêl academaidd mewn modd amserol i sicrhau y gellir ystyried eich apêl a bod penderfyniad yn cael ei gyfleu i chi o leiaf 4 wythnos cyn dyddiad yr asesiad.