Ar ôl ichi fewngofnodi, byddwch yn cael eich cludo i’ch cofnod myfyriwr lle bydd y tab Ymgysylltu yn ymddangos. Mae’r tab yn dangos crynodeb o’ch data ymgysylltu a bydd yn dangos y 4 wythnos diwethaf heb ichi wneud dim.
Ar frig y dudalen mae pennyn sy’n cynnwys gwybodaeth megis eich enw a’ch cwrs. Ceir nifer o ddangosyddion hefyd sy’n caniatáu ichi weld gwybodaeth allweddol mewn amrantiad.
Mae’r dangosydd ar ffurf swigen ‘Ymgysylltu’ yn dangos eich categori ymgysylltu yn ystod y 24 awr ddiwethaf (cofiwch y gallai fod oedi o hyd at 24 awr i hyn gael ei ddiweddaru tra bod y system yn prosesu’r data):
Mae’r dangosydd ar ffurf swigen ‘Cyfartaledd’ yn dangos eich categori ymgysylltu yn ystod y 30 diwrnod diwethaf:
Y categorïau ymgysylltu yw:
Mae sgoriau ymgysylltu sy'n rhan o'r categorïau Rhannol (P), Da (G) ac Uchel (H) yn adlewyrchu ymgysylltu â'ch cwrs ar lefelau arferol a chyson.
Mae sgoriau ymgysylltu sy'n rhan o'r categorïau Isel (L), Isel Iawn (V) a Dim (N) yn adlewyrchu ymgysylltu anghyson a gallai olygu y bydd eich Cyfadran/Ysgol neu Wasanaethau Cydymffurfio Myfyrwyr yn cysylltu â chi i drafod eich lefelau ymgysylltu yn unol â'r Polisi Monitro Ymgysylltu er mwyn sicrhau eich lles a chynnig cymorth.
Mae’r dangosydd ar ffurf swigen ‘Tuedd’ yn dangos i ba gyfeiriad y mae eich categori ymgysylltu yn mynd. Mae saeth lorweddol yn golygu bod y categori ymgysylltu yn gyson ac, yn yr achos hwn, mae’n esgyn:
Yn gyffredinol, bydd yn cymryd tua wythnos i symud i lawr neu i fyny pob un o’r categorïau ymgysylltu ond os nad ydych chi’n defnyddio un o’r adnoddau o gwbl am nifer o ddyddiau, yna hwyrach bydd eich categori ymgysylltu yn cwympo’n gyflymach.
Trosolwg rhyngweithiol o’ch ymwneud â systemau’r Brifysgol yw’r graff ymgysylltu. Mae’n diweddaru ei hun i adlewyrchu ystod y dyddiadau a ddewisir ar frig y dudalen ar y chwith. Mae modd newid y graff fesul ymgysylltu dyddiol neu gyffredinol drwy glicio ar y botymau uwchben y graff:
Gallwch chi ddefnyddio’r graff i ddewis opsiynau gwahanol fel a ganlyn:
1. Dewis ystod y dyddiadau a ddangosir ar y graff rhwng dau ddyddiad ar frig y dudalen ar y chwith
2. Dewis y cyfnodau o amser (Yr wythnos diwethaf, y 4 wythnos diwethaf a’r 10 wythnos diwethaf)
3. Dewis a dad-ddewis:
a) Digwyddiadau rhyngweithio (h.y. cyfarfodydd rydych wedi’u cael gyda’ch Tîm Profiadau’r Myfyriwr yn eich Cyfadran/Ysgol neu gyda Gwasanaethau Cydymffurfio’r Myfyrwyr o ran y math o ymgysylltu rydych yn ei wneud)
b) Digwyddiadau drwy Rybudd (h.y. os ydych chi wedi gosod rhybudd ar gyfer ymgysylltu isel parhaus fel a nodir yn y Polisi Monitro Ymgysylltu)
c) Digwyddiadau newid cwrs
ch) Llinell ymgysylltu’r garfan ar gyfartaledd
d) Y llinell ymgysylltu yn yr 25% uchaf
dd) Digwyddiadau eithrio (h.y. os oeddech chi wedi gofyn am seibiant dros dro o’ch astudiaethau yr oedd eich Cyfadran/Ysgol wedi’i gymeradwyo)
Ar waelod y Tab Ymgysylltu ar y dde mae calendr treiglol sy’n dangos pob un o’r categorïau ymgysylltu dros gyfnod o fis. Wrth y calendr, byddwch chi’n gweld y siart bar ‘Engagement Breakdown’. Amcan y bar yw dangos ichi ar sail ganrannol faint o amser rydych chi wedi’i dreulio ym mhob categori ymgysylltu ac mae’r data yn cael ei gyfyngu yn unol ag ystod y dyddiadau rydych chi’n ei ddewis ar frig y dudalen: