Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio

Dylid trin pawb ag urddas a pharch wrth weithio ac astudio.  Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu a fydd yn galluogi staff a myfyrwyr i wireddu eu potensial personol.  Mae'r Brifysgol yn derbyn na ellir creu na chynnal amgylchedd o’r fath os yw unigolion neu grwpiau o staff a myfyrwyr yn dioddef aflonyddu o unrhyw fath.

Mae Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio (Gwrthsefyll Aflonyddu) y Brifysgol yn nodi’r hyn y dylech ei wneud os ydych yn teimlo bod rhywun yn aflonyddu arnoch, yn ogystal â’r gweithdrefnau ffurfiol ac anffurfiol.

Mae Ymgynghorwyr Aflonyddu wedi’u hyfforddi (add link to Appendix 1) yn y Brifysgol, a gallwch gysylltu â nhw i drafod eich pryderon, a gallant roi cyngor i chi a’ch cynorthwyo i geisio datrys eich cwyn.

Mae Canolfan Gyngor Undeb y Myfyrwyr ar gael i roi cymorth a chyngor cyfrinachol i fyfyrwyr ynghylch cwynion ac mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Gyngor drwy ffonio: (01792) 295821 neu drwy e-bostio

Gallwch gysylltu â MyUniHub os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio (Gwrthsefyll Aflonyddu).