Cofrestru gyda meddyg teulu
Mae cofrestru gyda phractis meddyg teulu yn golygu y bydd modd i chi gael cymorth i’ch helpu i deimlo'n well os ydych chi’n teimlo'n sâl neu'n profi unrhyw broblemau iechyd meddwl, corfforol neu rywiol tra byddwch chi’n fyfyriwr. Gall meddyg teulu hefyd ddarparu dogfennau meddygol i chi sy'n esbonio eich salwch neu eich cyflwr, os bydd angen tystiolaeth ategol arnoch ar gyfer cais am amgylchiadau esgusodol, gohirio arholiadau, neu absenoldeb yn ystod eich astudiaethau.
Yn unol â’ch Rheoliadau Preswylio, dylech chi gofrestru gyda Meddygfa Gyffredinol y Brifysgol neu gyda meddyg teulu lleol ymhen pythefnos ar ôl cyrraedd Abertawe.
Mae Canolfan Iechyd y Brifysgol yn darparu gwasanaethau meddygol cyfeillgar a chynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar anghenion myfyrwyr. Mae hi ar lawr gwaelod adeilad Penmaen ar Gampws Parc Singleton.
Y ganolfan feddygol agosaf at Gampws y Bae yw:
Canolfan Feddygol SA1, Canolfan Iechyd y Beacon, Abertawe, SA1 8QY, +44 (0) 1792481444.
Gofal Deintyddol
Mae deintydd, wedi'i leoli yn adeilad Horton ar Gampws Parc Singleton. Mae gan bob claf o dan 25 oed sy'n byw yng Nghymru hawl i gael archwiliadau deintyddol am ddim.
Fel arall, gallwch chi ddod o hyd i feddyg neu bractis deintyddol drwy fynd i wefan 111 y GIG.