Rydym ni'n ymdrechu i gefnogi myfyrwyr drwy gydol dy amser yn byw yn ein preswylfeydd. Mae nifer o rwydweithiau cymorth ar gael er mwyn i ti gysylltu â nhw.

Edrycha ar yr wybodaeth isod am arweiniad ymarferol ynghylch newid ystafelloedd a ResNet. Dysga ragor am yr wybodaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn preswylfeydd.

Arweiniad ynghylch Llety

Beth yw Bywyd Preswyl?

Oes gennyt ti gwestiynau am dy lety? Oes angen cymorth arnat gyda dy gyd-letywyr? Neu wyt ti'n cael trafferth wrth gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnat ti?

Mae Tîm Bywyd Preswyl yma i helpu cymuned y preswylfeydd. Maen nhw’n awyddus i wrando arnat a'th gefnogi di, a gallan nhw gynnig cyngor a gwybodaeth am fynediad at holl wasanaethau cymorth y Brifysgol. Mae'r tîm yn cynnwys Cynorthwywyr Bywyd Preswyl sy'n sicrhau y gall pob myfyriwr sy'n byw yn y preswylfeydd elwa o'r profiad gorau posib i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.