Nod Bywyd Preswyl yw gwneud eich profiad fel myfyriwr, wrth fyw mewn preswylfeydd, y gorau y gall fod. Rydyn ni yma i wrando ar eich pryderon a darparu mynediad at wasanaethau cymorth perthnasol. Nid meddygon proffesiynol, cymdeithasegwyr na chwnselwyr hyfforddedig ydyn ni, ond rydyn ni'n gwybod sut i'ch rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw weithwyr proffesiynol a all eich cefnogi.
Mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn trefnu gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol, a gallan nhw eich helpu i deimlo'n fwy gartrefol ac yn rhan o gymuned y myfyrwyr. Mae gan y tîm gysylltiadau cryf ag Undeb y Myfyrwyr, Bod yn ACTIF, prosiectau Yr Hafan a'r Goleudy a chyda'n gilydd rydyn ni wedi llunio calendr o ddigwyddiadau a fydd yn eich helpu i ymsefydlu ar y campws.
Mae'r Tîm Bywyd Preswyl hefyd wedi llunio cwricwlwm llety a fydd yn eich helpu chi drwy gydol eich taith academaidd, o'ch helpu i feithrin sgiliau bywyd ymarferol i drafod contractau gyda landlordiaid yn y dyfodol, i gyfrannu at ein nodau byw cynaliadwy, nod y tîm yw eich helpu i ddysgu sut i fod y gorau y gallwch chi a magu'r hyder y bydd ei angen arnoch ar gyfer eich dyfodol.
Fel rhan o'r cwricwlwm llety hwn, mae'r Tîm Bywyd Preswyl yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda chynllunio, trefnu a chynnal digwyddiadau a gweithgareddau. Cadwch lygad am y cyfleoedd hyn, byddan nhw'n werthfawr ac yn dod â chymhellion gwych gan eich Undeb Myfyrwyr.