Glanhau
Bydd staff cadw tŷ yn glanhau ceginau cymunedol, mynedfeydd cymunedol, cynteddau, grisiau, lifftiau a mannau cymdeithasol bob wythnos. Byddwch chi’n cael gwybod am ddiwrnod glanhau eich fflat pan fyddwch chi’n symud i mewn.
Bydd staff cadw tŷ yn glanhau ceginau cymunedol, mynedfeydd cymunedol, cynteddau, grisiau, lifftiau a mannau cymdeithasol bob wythnos. Byddwch chi’n cael gwybod am ddiwrnod glanhau eich fflat pan fyddwch chi’n symud i mewn.
Ein cyfrifoldebau ni:
Eich cyfrifoldebau glanhau:
Mae'n hynod bwysig, yn enwedig ar eich diwrnod glanhau dynodedig, fod y canlynol wedi'u cwblhau erbyn 9.00am:
Peidiwch â symud dodrefn o ardaloedd dynodedig a chadwch y grisiau a'r coridorau'n ddirwystr.
Os na fyddwch chi’n cadw eich ystafell wely neu eich cegin mewn cyflwr derbyniol, rhoir gwybod i chi a byddwch chi’n cael cyfle i wneud iawn am y pryderon. Os na fyddwch chi’n ei glanhau i safon foddhaol, gellid codi tâl arnoch chi. Gallai hyn arwain at oedi cyn i'r tîm gofalu a glanhau gyflawni ei ddyletswyddau glanhau nes iddo gael ei gywiro. Gallai tâl i lanhau'r gegin dan gontract gostio mwy na £145.00.
Preswylwyr Campws y Bae
Mae padell lwch a brwsh, mop a bwced a sugnwr llwch ar gael i'w defnyddio ym mhob cegin gymunedol.
Peidiwch â defnyddio sugnwyr llwch i lanhau ar ôl gollyngiadau.
Preswylwyr pob safle arall
Gellir benthyg sugnwyr llwch gan dderbynfa eich safle. Bydd staff y dderbynfa yn gofyn am eich cerdyn adnabod myfyriwr, a gaiff ei ddychwelyd atoch ar ôl i'r sugnwr llwch ddod yn ôl.
Peidiwch â defnyddio sugnwyr llwch i lanhau ar ôl gollyngiadau.
Dylai'r broses hon gael ei chwblhau gan breswylwyr bob tymor h.y. cyn gadael ar gyfer y Nadolig, gwyliau'r Pasg a chyn gadael eich preswylfeydd ar ddiwedd cyfnod eich tenantiaeth. Dylech chi wneud hyn hefyd pan fydd rhew wedi cronni nes ei bod yn amhosib cau’r droriau a/neu'r drws yn gyfan gwbl. Gallwch chi ddysgu Sut i Ddadrewi eich Rhewgell.
Dylid cyfyngu posteri, ffotograffau, addurniadau etc i'r byrddau a ddarperir mewn ceginau. Mae hyn yn berthnasol i addurniadau tymhorol hefyd. Peidiwch â gosod eitemau ar waliau, nenfydau neu ddrysau gan fod hyn yn berygl tân a gall niweidio arwynebau'r wal. Mae'r staff yn cael cyfarwyddyd i gael gwared arnynt. Mae hyn yn berthnasol i ystafelloedd gwely ac ardaloedd cyffredin. Bydd peidio â chydymffurfio yn arwain at ffioedd glanhau ac ailaddurno yn cael eu codi ar eich cyfrif myfyriwr.
Ni chaniateir addasiadau nac ychwanegiadau i addurniadau na gosodiadau'r ystafell.
Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn ein hisadeiledd gwastraff ac ailgylchu i sicrhau bod gan ein safleoedd rwydwaith helaeth o finiau ailgylchu. Mae'r buddsoddiad hwn wedi sicrhau ein bod yn gallu cynyddu i’r uchaf ein gallu i ddidoli deunydd ailgylchu wrth ei darddiad, gan sicrhau ailgylchu o ansawdd da ar gyfer ailbrosesu, a lefelau ailgylchu sy'n cynyddu drwy'r amser.
Cysylltwch â ni os oes gennych chi gwestiynau.
Bydd deunydd na ellir ei ailgylchu sy'n cael ei roi yn y biniau ailgylchu’n anghywir yn halogi'r cynnwys, gan achosi i'r gwastraff gael ei ail-gyfeirio i safleoedd tirlenwi yn y pen draw. Gellir codi tâl ar geginau sydd â bagiau halogedig yn rheolaidd er mwyn talu’r gost ychwanegol am anfon gwastraff i safleoedd tirlenwi.
Mae lleihau gwastraff, a chynyddu cyfraddau ailddefnyddio a didoli gwastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi'r economi gylchol. Felly, mae lleihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau yn un o brif ffocysau gweithredol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd y Brifysgol.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ofalu am ein hamgylchedd. Mae perthynas uniongyrchol rhwng swm yr ynni rydych yn ei ddefnyddio a'r rhent y gallech chi ei dalu.
Mae sawl ffordd y gall myfyrwyr sy'n byw mewn llety gyfrannu at hyn:
Ar bob cam o'r datblygiad, rydym yn sicrhau bod ein gwaith yn llwyddo i wella'r amgylchedd naturiol ac adeiledig gan adael etifeddiaeth gadarnhaol y gall cymunedau ei mwynhau am flynyddoedd i ddod. Ein nod yw cyflawni hyn heb effeithio ar lefelau cysur preswylwyr drwy osod a defnyddio cyfarpar a systemau arbed ynni ac, yn bwysicaf oll, drwy gyfranogiad pawb sy'n byw ac yn gweithio yn ein preswylfeydd.
Gallwch chi helpu eich fflat i arbed ynni a lleihau allyriadau carbon drwy ddefnyddio'r awgrymiadau canlynol ar gyfer arbed ynni, sy'n syml ond yn effeithiol:
Mae'r arfordir yn lle gwych i fyw ac ymlacio, ac rydym yn ffodus iawn ym Mhrifysgol Abertawe bod gennym leoliad unigryw ger y traeth a'r môr ar stepen ein drws. Mae hwn yn adnodd gwych i bawb ei fwynhau, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr awgrymiadau isod am sut i gadw ein traethau’n lân a chadw'n ddiogel yn y môr.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch yn y dŵr, ewch i i: Respect the Water –
Ymgyrch Genedlaethol Atal Boddi (rnli.org). Ceir rhestr o draethau dan oruchwyliaeth achubwyr bywyd yn
I'r dwyrain i Gampws y Bae mae ardal o bwysigrwydd o ran cadwraeth natur sydd wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Yn yr ardal hon mae sawl cynefin pwysig gan gynnwys twyni tywod, morfa heli a fflatiau llaid. Mae'r llystyfiant yn cynnwys planhigion prin fel wermod y maes a murwyll tewbannog. Mae madfallod cyffredin, pryfed a llawer o rywogaethau adar, gan gynnwys pioden y môr, pibydd y tywod, a’r cwtiad torchog.
Prifysgol Abertawe sy’n berchen ar SoDdGA Twyni Crymlyn, ac mae’n gyfrifol am ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'r tîm Bioamrywiaeth yn rheoli'r ardal, ac mae sawl peth y gallwch chi ei wneud i sicrhau bod yr ardal hon yn cael ei diogelu:
Mae difrod i'r ardal SoDdGA yn drosedd. Os gwelwch chi unrhyw beth a allai fod yn niweidiol neu darfu ar y safle, ffoniwch +44 (0) 1792 205678 a gofynnwch am y Swyddog Bioamrywiaeth neu aelod o dîm Diogelwch y Brifysgol.
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn gwybod bod bywyd yn y brifysgol yn fwy nag astudio'n unig. Dyna pam mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn gweithio'n galed i gynnig llawer o wahanol gyfleoedd i chi gymryd rhan yn ein mentrau cynaliadwyedd.