Y Golchdy a Gwasanaethau Eraill
Golchdy
Campws y Bae
Mae'r golchdy ar Gampws y Bae gyferbyn â'r Neuadd Chwaraeon, rhwng adeiladau Llansteffan ac Aberteifi. Ceir mynediad i'r ystafell drwy ddefnyddio eich cerdyn allwedd.
Oriau Agor: 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Cychwyn
- Lawrlwythwch yr ar Washstation o'r App Store, Google Play Store neu Huawei AppGallery.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau i greu cyfrif/
- Dewiswch olchwr neu sychwr a dewiswch yr opsiynau perthnasol sy'n arddangos
- Gallwch chi gadw peiriant golchi am 10 munud o unrhyw le
- Symud ymlaen i Dalu
Golchi eitemau |
£2.60 |
Sychu eitemau |
£1.20 |
Defnyddio'r peiriannau
1. Rhowch y dillad yn y peiriant – 3/4 llawn yw'r capasiti mwyaf
2. Os ydych chi’n golchi, ychwanegwch eich glanedydd at y drwm a chau'r drws
3. Dewiswch gylch golchi neu raglen sychu ar y peiriant i ddechrau
4. Byddwch chi’n derbyn e-bost i roi gwybod i chi bod y cylch yn dod i ben
Gallwch chi ddarllen rhagor a dod o hyd i awgrymiadau da yn y Canllaw Golchi Dillad (mynediad drwy'r adrannau 'Dogfennau' yn Home at Halls).
Os oes gennych chi ymholiadau neu broblemau gyda'r peiriannau, ffoniwch y llinell gymorth i fyfyrwyr ar 0800 141 2331.
Campws Parc Singleton
Mae'r golchdy ar Gampws Parc Singleton ar y llawr gwaelod y tu ôl i adeilad Cilfái.
Oriau Agor: 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Dylech chi lawrlwytho'r ap Circuit i greu cyfrif, defnyddio a thalu am y golchdy.
Golchi eitemau |
£2.50 |
Sychu eitemau |
£1.50 |
- Sut i ddefnyddio'r ap symudol Circui
- Sut i Olchi eich Dillad
- Sut i Sychu eich Dillad
- Rhoi gwybod am ddiffyg
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â Circuit drwy ddechrau Sgwrs Fyw, ffoniwch 01422 820 026 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein.
Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan
Mae'r golchdy yn Fflat 138 (llawr gwaelod adeilad 136-144).
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am-9pm. Bydd y golch olaf yn 8pm.
Dylech chi lawrlwytho'r ap Circuit i greu cyfrif, defnyddio a thalu am y golchdy
- Sut i ddefnyddio'r ap symudol Circuit
- Sut i Olchi eich Dillad
- Sut i Sychu eich Dillad
- Rhoi gwybod am ddiffyg
Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â Circuit drwy ddechrau Sgwrs Fyw, ffoniwch 01422 820 026 neu defnyddiwch y ffurflen ymholiadau ar-lein.
Tŷ Beck
Ceir golchdai mewn preswylfeydd cymunedol. Siaradwch â staff y Dderbynfa am gymorth.
Ystafelloedd Cyffredin MyfyrwyrYstafelloedd Cyffredin Myfyrwyr
Campws Parc Singleton
Mae'r Ystafell Gyffredin a adnewyddwyd yn ddiweddar ar lawr gwaelod adeilad Cefn Bryn.
Mae'r Ystafell Gyffredin yn fan amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer: cymdeithasu, astudio, nosweithiau ffilm, cystadlaethau pŵl/pêl-droed bwrdd/tenis bwrdd neu ymlacio gyda chyd-breswylwyr.
Gall preswylwyr ddefnyddio'r gwasanaethau Wi-Fi llawn yn yr Ystafell Gyffredin.
I gael mynediad i'r lle hwn, dylech chi gadw lle ymlaen llaw gan ddefnyddio'r Ffurflen Archebu ar-lein.
- Caiff un cerdyn allwedd ei roi i drefnydd y grŵp pan gaiff y cais ei gymeradwyo. Rhaid casglu hwn o Dderbynfa Preseli a'i ddychwelyd i'r un lle.
- Os na chaiff y cerdyn allwedd ei ddychwelyd, codir £10.00 i dalu am un newydd.
Mae nifer o weithgareddau wedi'u trefnu hefyd yn cael eu cynnal yn yr Ystafell Gyffredin. Gweld yr holl Ddigwyddiadau sydd ar ddod.
Byddem ni wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar gyfer gwella'r cyfleuster hwn. Cysylltwch â ni gyda’ch syniadau.
Campws y Bae
Mae'r Ystafelloedd Cyffredin yn adeiladau Gruffydd, Bere a Dulais.
Mae'r Ystafelloedd Cyffredin yn fan amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer: cymdeithasu, astudio, nosweithiau ffilm, cystadlaethau pŵl/pêl-droed bwrdd/tenis bwrdd neu ymlacio gyda chyd-breswylwyr. Mae batiau a pheli tenis bwrdd a chiwiau pŵl ar gael o Dderbynfa Campws y Bae. Fe welwch chi seddi cyfforddus, teledu a byrddau gemau. Gall preswylwyr ddefnyddio'r gwasanaethau Wi-Fi llawn yn yr Ystafell Gyffredin.
Oriau Agor
Mae'r Ystafelloedd Cyffredin ar agor tan 5pm yn ystod yr wythnos; does dim angen cadw lle. Ar ôl yr amser hwn, rhaid i chi archebu ymlaen llaw i ddefnyddio'r fan, yn Nerbynfa Campws y Bae.
Manwerthu
Manwerthu
- Siopau, bariau, archfarchnadoedd, siopau bwyd, clwb nos hyd yn oed . Mae lleoliadau Undeb y Myfyrwyr ar agor bob dydd ar y ddau gampws. Gallwch chi ddysgu rhagor yn
- Mae ein ffefrynnau'n cynnwys Greggs, Tortilla a Subway. Gallwch chi weld yr opsiynau bwyd a diod: Arlwyo ar y Campws
- Gallwch chi osgoi'r ciwiau! Gallwch chi archebu eich ffefrynnau a chlicio a chasglu heddiw drwy ddefnyddio ap Uni Food Hub.
Preswylwyr ar sail arlwyo rhannol
- Mae preswylwyr Cilfái a Rhosili yn cael eu credydu â £28.00 yr wythnos o'u ffioedd Llety.
- Gellir defnyddio'r arian i brynu bwyd a diodydd di-alcohol ym mannau arlwyo canlynol y Brifysgol:
Campws Parc Singleton | Campws y Bae |
---|
Clicio a Chasglu | Ffreutur Tŷ Fulton | Clicio a Chasglu | The Core |
---|---|---|---|
Caffi Glas (Starbucks) | Adeilad 1 yr Athrofa Gwyddor Bywyd | Costa | Y Coleg |
Hoffi Coffi (Costa) | Y Llyfrgell | Coffeeopolis | Adeilad Canolog Peirianneg |
Tortilla | Tŷ Fulton | ||
Callaghans | Adeilad James Callaghan |
- Nid oes oriau bwyta penodol – gallwch chi wario eich lwfans fel a phryd y mynnoch chi
- Ar ddiwrnod cyntaf pob tymor ar ôl hynny, caiff eich cerdyn ei gredydu â'r swm arlwyo llawn ar gyfer y tymor hwnnw (am y cyfnod y byddwch chi’n byw mewn preswylfa yn unol â'r hyn a nodir ar eich cytundeb tenantiaeth)
- Bydd credyd heb ei wario'n cael ei drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd nesaf
Lawrlwythwch’ yr ap 'Uni Food Hub' a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost '@abertawe.ac.uk' i ddechrau arni.
Gallwch chi gael yr holl fanylion diweddaraf a manylion am frandiau bwyd newydd drwy ddilyn Bwyd Prifysgol Abertawe yn y cyfryngau cymdeithasol:
Instagram: @SwanseaUniFood
Twitter: @Swansea_UniFood