Timau Derbynfeydd a'ch Cyfeiriad

Croeso i Abertawe. Gallwch chi edrych ymlaen at gwrdd â ffrindiau gorau newydd, tywydd anrhagweladwy, a thraethau gorau'r byd. Byddwch chi wrth eich bodd yma, ac rydym ni'n llawn cyffro i’ch croesawu i’ch cartref newydd oddi gartref.
Ymholiadau Cyffredinol
Mae gennym dîm o staff ymroddedig i’ch helpu chi i ymgartrefu a delio â’ch ymholiadau tra byddwch chi’n byw yma.
Gweld Manylion Cyswllt ac Oriau Agor [dolen]
Mae timau'r Derbynfeydd ar bob safle yn gyfrifol am reoli eich preswylfeydd o ddydd i ddydd, felly galwch heibio i'w gweld nhw os oes gennych gwestiynau, gan gynnwys:
• Gwaith trwsio a chynnal a chadw
• Glanhau a Gofalu
• Parseli/post
• Dosbarthu allweddi newydd
• Cymdogion sy'n rhy swnllyd
• Ymholiadau cyffredinol ynghylch eich ystafell neu’ch preswylfeydd