Rhoi gwybod am ddiffyg
Gallwch chi roi gwybod am broblem neu atgyweiriad Cynnal a Chadw yn eich llety drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
- Rwy'n byw ar Gampws Parc Singleton
- Rwy'n byw ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan
- Rwy'n byw yn Nhŷ Beck
- Dylai preswylwyr Campws y Bae ddefnyddio Home at Halls i gofnodi ceisiadau cynnal a chadw
Os yw'r atgyweiriad yn waith brys, ffoniwch: +44 (0) 1792 295101 neu ewch i Dderbynfa eich Safle rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ar ôl rhoi gwybod bod angen atgyweirio:
- Rydych chi’n caniatáu mynediad i staff i ddelio â'r broblem.
- Does dim rhaid i chi fod yn bresennol i'r staff gael mynediad.
- Os nad ydych chi am i staff gael mynediad yn eich absenoldeb, bydd rhaid i chi nodi hyn ar adeg cyflwyno'r cais.