MAES LLAFUR
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys y sesiynau dwy awr canlynol:
SESIWN UN: Cyflwyniad
Beth yw rhethreg? Ble ydym yn dod o hyd iddi, a pham mae hynny o bwys? Bydd y dosbarth hwn yn amlinellu’r cysyniad o rethreg drwy grynhoi’n fyr wreiddiau ei hastudiaeth, a darparu fframweithiau ar gyfer dadansoddi rhethregol. Bydd yn defnyddio enghreifftiau presennol o rethreg ar waith, ac yn hybu dadl.
SESIWN DAU: Y 5 canon rhethregol
Mae’r dosbarth hwn yn amlinellu’r pum canon rhethreg, hynny yw dyfeisio, trefnu, arddull, cofio a chyflwyno.Wedyn mae’r sesiwn yn rhoi’r cyfle i adnabod elfennau’r canonau hyn mewn enghreifftiau o’r byd go-iawn.
SESIWN TRI: Rhethreg yn ystod oes gwybodaeth
Bydd y dosbarth hwn yn canolbwyntio ar adnabod dyfeisiau rhethregol a ddefnyddir yn ystod yr oes ddigidol.Yn gyntaf, mae’n cyflwyno ychydig o’r trosiadau cyffredin a ddefnyddir wrth hysbysebu ac wrth gyfathrebu ar-lein, cyn rhoi enghreifftiau ac ymarferion er mwyn i fyfyrwyr ymarfer adnabod y rhain mewn enghreifftiau o’r byd go-iawn.
SESIWN PEDWAR: Dyfeisio a threfnu
Unwaith bod rhethregwr wedi penderfynu ar y dull argyhoeddi mwyaf effeithiol, mae trefnu ei waith yn hanfodol wrth wneud y gorau o’i ddadleuon cryf a symud yn naturiol i ddiwedd-glo.Bydd y dosbarth hwn yn rhoi enghreifftiau er mwyn dadansoddi gwaith trefnu. O ran llefaru, amlinellir y rhannau hyn fel rhagymadrodd, adrodd, rhannu, profi, gwrthbrofi a pherorasiynu – strwythur sy’n debyg i sut yr ysgrifennir traethodau effeithiol yn aml.
SESIWN PUMP: Dod â phopeth at ei gilydd
Bydd y dosbarth hwn yn dod ag elfennau rhethreg at ei gilydd wrth eu hadnabod mewn enghreifftiau bob dydd.Bydd yn rhoi i’r myfyriwr sgiliau ymarferol i ddadadeiladu gwybodaeth a dadleuon sy’n hyrwyddo dadansoddiad gwrthrychol. Bydd myfyrwyr yn adeiladu dadleuon cymhellol drwy ddefnyddio’r sgiliau sydd wedi’u hamlinellu a’u hymarfer yn ystod yr wythnosau blaenorol.