Dyma fersiwn astudio annibynnol o gwrs Meddwl yn Feirniadol y Ganolfan Llwyddiant Academaidd. Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â'r un cynnwys â'r fersiynau o'r cwrs Meddwl yn Feirniadol a gyflwynir drwy Zoom ac yn yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, does dim sesiynau wyneb yn wyneb ac mae'r cynnwys yn cael ei gyflwyno drwy fideos, erthyglau a chwisiau Canvas. Mae hyn yn golygu y gallwch gwblhau'r cwrs yn eich amser eich hun. Y cwrs cyflwynir drwy’r sesiynau canlynol:
GWERS UN: Cyflwyniad a Diffinio Meddwl Beirniadol
Bydd y gwers hon yn ystyried beth yw meddwl beirniadol a pham mae’n bwysig.Hefyd bydd yn cynnwys y rhwystrau cyffredin i feddwl beirniadol rydym i gyd yn eu hwynebu.
GWERS DAU: Diffinio, Adnabod a Dadansoddi Dadleuon
Bydd y gwers hon yn ystyried beth yw dadleuon a sut gallwn eu hadnabod a’u dadansoddi.Cyflwynir technegau gwahanol ar gyfer dadansoddi dadleuon, sy’n ddefnyddiol wrth gynllunio aseiniadau.
GWERS TRI: Gwerthuso Dadleuon ac Adnabod Camsyniadau
Bydd y gwers hon yn ystyried sut gallwn fynd i’r afael â gwerthuso dadleuon.Hefyd bydd yn ystyried yr hyn sy’n gwneud dadl dda a dadl wael, ac yn cynnwys rhai o’r problemau cyffredin mae pobl yn eu creu wrth ymresymu.
GWERS PEDWAR: Dwyn Perswâd a Sgyrsiau Effeithiol
Bydd y gwers hon yn ystyried sut mae siaradwyr ac awduron yn gwneud eu dadleuon yn fwy argyhoeddiadol.Hefyd bydd yn ystyried sut gallwn ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol er mwyn cyfathrebu’n fwy effeithiol wrth drafod a dadlau pynciau anodd.
GWERS PUMP: Sgiliau gwerthuso a meddwl yn feirniadol
Crynodeb o’r cwrs fydd y gwers hon, a bydd yn ystyried sut gellir defnyddio deunydd y cwrs er mwyn eich helpu i gael canlyniadau gwell mewn aseiniadau.