Mae'r cwrs hwn yn cynnwys pum sesiwn dwy awr. Mae yna hefyd rai tasgau i'w cwblhau yn eich amser eich hun a pheth darllen a argymhellir.
SESIWN UN: Cyflwyniad a Diffinio Meddwl Beirniadol
Bydd y sesiwn hon yn ystyried beth yw meddwl beirniadol a pham mae’n bwysig.Hefyd bydd yn cynnwys y rhwystrau cyffredin i feddwl beirniadol rydym i gyd yn eu hwynebu.
SESIWN DAU: Diffinio, Adnabod a Dadansoddi Dadleuon
Bydd y sesiwn hon yn ystyried beth yw dadleuon a sut gallwn eu hadnabod a’u dadansoddi.Cyflwynir technegau gwahanol ar gyfer dadansoddi dadleuon, sy’n ddefnyddiol wrth gynllunio aseiniadau.
SESIWN TRI: Gwerthuso Dadleuon ac Adnabod Camsyniadau
Bydd y sesiwn hon yn ystyried sut gallwn fynd i’r afael â gwerthuso dadleuon.Hefyd bydd yn ystyried yr hyn sy’n gwneud dadl dda a dadl wael, ac yn cynnwys rhai o’r problemau cyffredin mae pobl yn eu creu wrth ymresymu.
SESIWN PEDWAR: Dwyn Perswâd a Sgyrsiau Effeithiol
Bydd y sesiwn hon yn ystyried sut mae siaradwyr ac awduron yn gwneud eu dadleuon yn fwy argyhoeddiadol.Hefyd bydd yn ystyried sut gallwn ddefnyddio sgiliau meddwl beirniadol er mwyn cyfathrebu’n fwy effeithiol wrth drafod a dadlau pynciau anodd.
SESIWN PUMP: Sgiliau gwerthuso a meddwl yn feirniadol
Crynodeb o’r cwrs fydd y sesiwn hon, a bydd yn ystyried sut gellir defnyddio deunydd y cwrs er mwyn eich helpu i gael canlyniadau gwell mewn aseiniadau.