Gall bywyd yn y Brifysgol fod yn gyfnod cyffrous a dryslyd i lawer o fyfyrwyr. Gall fod yn arbennig o heriol i'r rhai hynny sy'n awtistig.
Mae gan ein Gwasanaeth Lles ac Anabledd dîm dynodedig o ymarferwyr awtistiaeth sy'n gyfrifol am gydlynu cymorth i fyfyrwyr awtistig. P'un a ydych wedi cael diagnosis ai peidio, mae cymorth ar gael i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau.
“Rwyf wedi cael diagnosis o awtistiaeth. Sut gallwch chi fy nghefnogi?”
Os ydych yn fyfyriwr sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth, gallwn wneud y canlynol:
- Eich helpu i bontio i fywyd yn y brifysgol.
- Rhoi cyfleoedd i chi gymdeithasu a chwrdd â myfyrwyr awtistig eraill.
- Eich helpu i ymdopi ag amgylchedd y brifysgol.
- Gweithio gydag adrannau academaidd i drefnu addasiadau rhesymol (er enghraifft, amser ychwanegol mewn arholiadau).
- Eich helpu i ddeall eich diagnosis o awtistiaeth.
- Eich cefnogi i ddatblygu strategaethau ar gyfer rheoli anawsterau sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth.
- Trefnu i chi dderbyn cymorth gan gyd-fyfyrwyr os yw'n briodol. Er enghraifft, gyda Bydis Ymgartrefu Discovery.
- Eich cynghori a'ch arwain drwy broses y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
“Rwy'n meddwl y gallwn i fod yn awtistig ond dwi heb gael diagnosis. Allwch chi helpu?”
Os ydych yn fyfyriwr sy'n ystyried ceisio diagnosis o awtistiaeth, mae cyngor a chymorth ar gael. Gallwn wneud y canlynol:
- Rhoi sesiynau cymorth unigol i drafod awtistiaeth a meithrin eich dealltwriaeth ohoni.
- Trafod buddion posib cael diagnosis â chi.
- Archwilio pa fathau o gymorth a all fod ar gael i chi eisoes.
- Eich gwahodd i weithdai a grwpiau cymorth lle gallwch ddysgu am opsiynau atgyfeirio a chwrdd â myfyrwyr eraill sydd wedi cael profiadau tebyg.
- Cynnig sgrinio a'ch atgyfeirio am asesiad lle y bo'n briodol.
“Rwy'n ddarpar fyfyriwr. Pa gymorth sydd ar gael i mi?”
Bydd ein tîm o ymarferwyr awtistiaeth yn gweithio'n agos gydag unigolion sy'n bwriadu pontio i fywyd yn y Brifysgol, a'u teuluoedd. Ceir rhagor o wybodaeth drwy fynd i'n tudalennau gwe dynodedig i ddarpar fyfyrwyr.