Gall bywyd yn y Brifysgol fod yn gyfnod cyffrous a chymysglyd i nifer o fyfyrwyr. Gall fod yn enwedig o heriol ar gyfer y rhai sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (ASC).

Mae'r Gwasanaeth ASC yn gallu dy gefnogi i:

  • Bontio o fod gartref i fod yn y brifysgol, drwy raglen lywio am 2 ddiwrnod ar gyfer myfyrwyr newydd
  • Dysgu i lywio amgylchedd y Brifysgol
  • Dod yn rhan o fywyd cymdeithasol y brifysgol
  • Ymdopi ag arholiadau ac asesiadau

Hefyd, mae'r Gwasanaeth yn:

  • Cynorthwyo wrth sefydlu Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA). Gall DSA sicrhau bod cymorth tymor hir ar waith drwy gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe
  • Trefnu Grŵp Cymdeithasol Eureka ar gyfer myfyrwyr ag awtistiaeth/ASC
  • Darparu sesiynau cymorth unigol
  • Helpu wrth ddeall diagnosis Awtistiaeth/ASC
  • Cysylltu ag adrannau academaidd i drefnu Addasiadau Rhesymol pan fo angen e.e. amser ychwanegol mewn arholiadau neu ddarpariaethau asesu amgen

LLWYDDIANT NODEDIG JESSICA YN DANGOS NAD YW CYFLWR AR Y SBECTRWM AWTISTIG YN RHWYSTR IDDI

Cael mynediad at gymorth tymor hir

Er bod y Gwasanaeth Lles ac Anabledd yn ymdrechu i ddarparu cymorth drwy gydol adegau anodd, efallai bydd angen cymorth ychwanegol ar fyfyrwyr sydd ag anawsterau tymor hir. Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ar gael os oes gennyt ti anabledd, cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol.

Gall DSA sicrhau cymorth cyson drwy gydol eich astudiaethau. Yn dilyn asesiad, efallai y bydd rhywun i gymryd nodiadau, gweithwyr cefnogi a sesiynau sgiliau astudio un i un ar gael os cytunwyd bod eu hangen arnoch chi.