Mae dechrau yn y Brifysgol yn newid mawr i bawb. Mae'n gwbl arferol i deimlo'n hiraethus wrth ddod i'r Brifysgol. Efallai eich bod wedi dod o ochr arall y byd neu hanner awr lawr y lôn. Gall y rheiny nad oeddent wedi disgwyl teimlo'n hiraethus weld eisiau eu cartref rywbryd yn ystod eu profiad y Brifysgol. Mae dwy dasg bwysig ynghlwm â dechrau yn y Brifysgol; gadael pethau cyfarwydd ac addasu i amgylchedd newydd. Mae pawb yn yr un cwch wrth symud oddi cartref; mae bob amser yn deimlad da i wybod nad chi yw'r unig un.
Beth yw hyn?
Sut byddwch chi'n teimlo pan fyddwch yn teimlo'n hiraethus | Symptomau Hiraeth |
---|---|
Unig |
Llefain |
Trist | Chwydu |
Dryslyd | Anhawster yn cysgu |
Ofnus | Tonau o emosiynau nad oes modd eu rhagweld |
Llawn amheuaeth | Anodd canolbwyntio |
Penysgafn | |
Pen tost gwael iawn |
Pryd fydd hi'n debygol o ddigwydd?
Gall hiraeth ddigwydd ar adegau gwahanol yn ystod eich profiad y myfyriwr
- Pan fo rhywbeth yn digwydd gartref ac rydych chi'n teimlo eich bod wedi'ch allgau
- Realiti'r sefyllfa yn gwawrio ar ôl Gŵyl y Glas
- Pan fyddwch chi'n teimlo'n dost
- Os bydd pawb yn eich llety wedi'i rannu/eich grŵp o ffrindiau yn mynd adref
- Pan fydd cyllidebu yn anodd ac mae'n rhaid i chi ymdopi gyda thalu'r biliau sef rhywbeth y mae eich rhieni'n ei wneud fel arfer
Ble i fynd am gymorth ychwanegol
Tîm Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr y Gyfadran
Gallwch gysylltu â'r staff Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr yn eich cyfadran sy'n gallu cynnig cyngor ymarferol ac arweiniad a'ch cyfeirio i'r gwasanaethau priodol.
Hefyd gall y tîm drafod y broses amgylchiadau esgusodol â chi os bydd angen ichi ei defnyddio.
Gallwch ddod o hyd i restr ar ein gwefan o'r holl fanylion cyswllt ar gyfer staff Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr y Gyfadran.
Gallwch ddarllen rhagor am y broses amgylchiadau esgusodol yma.
Gwasanaeth Gwrando
Mae gwasanaeth gwrando Ffydd@BywydCampws yn cynnig clust i bawb – beth bynnag yw’ch crefydd, neu ddim crefydd. Cynhelir y sgyrsiau hyn dros y ffôn neu drwy alwad fideo, beth bynnag sy’n well gennych chi. Os hoffech chi siarad ag aelod penodol o’r tîm, nodwch yr enw wrth gysylltu. I gyrchu’r gwasanaeth hwn, e-bostiwch Listeningservice.campuslife@abertawe.ac.uk
Lles
Mae gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe yn cynnig arweiniad a chymorth iechyd meddwl a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) i fyfyrwyr: mae hyn yn cynnwys cymorth un i un gydag ymarferwyr iechyd meddwl ac awtistiaeth, mentoriaid a chynghorwyr, addasiadau academaidd ac adnoddau a chyrsiau hunan-gymorth. Gallwch chi weld yr ystod o gymorth sydd ar gael [yma]. Gallwch chi hefyd ofyn am gymorth drwy lenwi’r Ffurflen Cais am Gymorth Lles. Gallwch chi gysylltu â’r Gwasanaeth Lles drwy e-bostio wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Togetherall
Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol sydd ar gael yn togetherall.com. Gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol, gallwch chi gyrchu cymorth ar-lein yn ddienw gan glinigwyr hyfforddedig 24/7 yn ogystal ag ystod o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae’n rhywle diogel ar-lein lle y gallwch chi rannu eich problemau, cael sgwrs, mynegi eich hun yn greadigol, a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl. Gallwch chi gyrchu’r gwasanaeth yma: https://www.swansea.ac.uk/wellbeing/togetherall/
Cyngor Ymarferol
Sut i leihau'r teimlad o hiraeth |
---|
Gallwch bersonoli eich ystafell |
Cymerwch ran! Cadwch eich hun yn brysur trwy ymuno â chymdeithas. Edrychwch mewn lleoedd eraill yn y ddinas a dewch yn rhan o weithgareddau rydych chi'n eu mwynhau. |
Byddwch yn realistig, peidiwch â rhoi gormod o bwysau ar eich hun. |
Cadwch mewn cysylltiad â phobl gartref ond hefyd rhowch amser i chi gymryd rhan mewn pethau yn y Brifysgol. Peidiwch â bod ofn codi'r ffôn a dweud wrthynt sut rydych chi'n teimlo. |
Os ydych chi'n cael eich cwrs yn anodd cysylltwch â'ch tiwtor personol i dderbyn cyngor. |
Ceisiwch gadw at amserlen. Pan fydd eich diwrnodau'n brysur bydd llai o amser gennych i feddwl am deimlo'n hiraethus. |
Dylech atgoffa eich hun ei bod yn normal i deimlo'n hiraethus. Bydd y mwyafrif o'r bobl o'ch amgylch yn teimlo'r un peth. Rhannwch sut rydych chi'n teimlo gyda'ch cyd-letywyr - efallai y bydd ganddynt eiriau o gyngor ar sut i helpu! |
Sicrhewch eich bod yn gwneud ymarfer corff - mae'n ffordd wych o roi hwb i'ch ysbryd. Mae nifer o ddosbarthiadau ymarfer corff y gallwch eu mynychu yn ogystal â chlybiau chwaraeon. |
Archwiliwch ac ymgartrefwch yn eich amgylchedd. |