Os ydych chi'n cael trafferth gwneud ffrindiau yn y Brifysgol, cofiwch y gall y broses o wneud ffrindiau fod yn rhywbeth y mae mwyafrif y bobl yn ei chael yn anodd. Rydyn ni i gyd yn gweithio'n gyson i wella ein sgiliau cymdeithasol. Po fwyaf o brofiad a gawn, yr haws y daw.
Anawsterau wrth geisio gwneud ffrindiau
Beth yw’r gyfrinach?
Nid yw gwneud ffrindiau yn y Brifysgol yn dasg sy’n hawdd i bawb. Rydym bob amser yn ceisio gwella ein sgiliau cymdeithasol mewn sefyllfaoedd newydd, a pho fwyaf o brofiad a gawn, yr haws y daw.
Os ydych yn ymuno â’r Brifysgol yn syth ar ôl gorffen eich arholiadau Safon Uwch, yna mae’n bosibl y byddwch yn ei chael hi’n fwy anodd gwneud ffrindiau na rhai o’ch cyfoedion. Yn syml, gall hyn fod oherwydd eich bod wedi cael llai o ymarfer na myfyriwr aeddfed neu fyfyriwr sydd wedi cymryd blwyddyn allan.
Mae’n bwysig cofio nad chi fydd yr unig un sy’n teimlo’n nerfus ynglŷn â chwrdd â phobl newydd, ac mae’n naturiol teimlo’n swil ac yn hunan-ymwybodol. Mae’r wythnosau cyntaf yn ystod y tymor yn gyfle delfrydol i wneud ffrindiau newydd gan fod pawb yn yr un sefyllfa ac felly’n fwy cyfeillgar.
Cyngor ymarferol ac argymhellion
Dyma ychydig o argymhellion i wella eich hunan-hyder a gwneud ffrindiau newydd.
- Cofiwch mai proses yw dod yn fwy hyderus a bydd yn gwella dros amser wrth i chi wynebu sefyllfaoedd, amgylcheddau a phobl newydd.
- Ceisiwch wneud ffrindiau sydd â diddordebau tebyg. Bydd dechrau sgwrs gyda phobl yn eich neuadd breswyl am yr hyn rydych yn ei fwynhau, neu ymuno â chymdeithasau/clybiau penodol yn eich helpu i ddod o hyd i bobl sydd â diddordebau tebyg.
- Ceisiwch wneud ffrindiau gyda phobl yn eich fflat drwy dreulio amser yn y mannau cymunedol, cynnig gwneud paned o de i bobl neu adael drws eich ystafell ar agor pan rydych ynddi.
- Gwnewch ffrindiau gyda’u ffrindiau nhw! Os yw rhywun rydych yn rhannu fflat ag ef yn eich cyflwyno i rywun o’r un ddarlith neu glwb ag ef, cyflwynwch eich hunain!
- Siaradwch â’r person sy’n eistedd wrth eich ochr yn y dosbarth. Mae’n siŵr y bydd gennych bethau mewn cyffredin gan eich bod yn astudio’r un pwnc!
- Cofiwch fod pobl yn gwneud ffrindiau ar adegau gwahanol yn ystod y Brifysgol. Felly peidiwch â phoeni os ydych yn teimlo nad ydych wedi gwneud ffrindiau gyda’r bobl sy’n rhannu’r un fflat â chi yn ystod yr wythnos gyntaf. Byddwch yn cael digon o gyfleoedd i gyfarfod â phobl yn eich darlithoedd ac mewn sefyllfaoedd cymdeithasol eraill.
Dyma ychydig o bethau i feddwl amdanynt wrth gwrdd â phobl newydd:
- Cymerwch anadl ddofn, gwenwch a byddwch yn hyderus! Maen nhw’n dweud yn aml mai esgus bod yn hyderus y mae pobl, a byddwch yn ymddangos eich bod yn hyderus yn naturiol wrth wneud hyn, felly rhowch gynnig arni, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo’n hyderus. Bydd pobl yn ymateb yn gadarnhaol i hyn.
- Canolbwyntiwch arnyn nhw, nid eich hunain. Drwy wneud hyn byddwch yn lleihau’r nerfau sydd gennych, a byddwch yn ymddangos eich bod â diddordeb go iawn ynddyn nhw fel unigolyn. Cofiwch gael ychydig o gwestiynau wrth gefn os yw’r sgwrs yn dechrau pylu.
- Gofynnwch iddyn nhw wneud rhywbeth! Unwaith y byddwch wedi gwneud cysylltiad â rhywun, dylech gael syniad go dda o’u hoffterau a’u casbethau, felly ceisiwch ddilyn hynny drwy wneud cynlluniau cadarn!
Os nad yw’r pethau hyn yn gweithio y tro cyntaf, gallwch bob amser siarad â rhywun yn eich Gyfadran a fydd yn gallu trafod y materion hyn ymhellach gyda chi.
Cadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol (@CampusLifeSU) i gael rhagor o gyngor a chanllawiau, yn ogystal â’n gwefan docynnau ar gyfer y digwyddiadau a’r mentrau lle gallwch gwrdd â phobl newydd.
Ble i fynd i gael cymorth pellach
Cefnogaeth o fewn y Brifysgol
Gwasanaeth Gwrando
Mae gwasanaeth gwrando Ffydd@BywydCampws yn cynnig clust i bawb – beth bynnag yw’ch crefydd, neu ddim crefydd. Cynhelir y sgyrsiau hyn dros y ffôn neu drwy alwad fideo, beth bynnag sy’n well gennych chi. Os hoffech chi siarad ag aelod penodol o’r tîm, nodwch yr enw wrth gysylltu. I gyrchu’r gwasanaeth hwn, e-bostiwch Listeningservice.campuslife@abertawe.ac.uk
Tîm Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr y Gyfadran
Gallwch gysylltu â'r staff Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr yn eich cyfadran sy'n gallu cynnig cyngor ymarferol ac arweiniad a'ch cyfeirio i'r gwasanaethau priodol.
Hefyd gall y tîm drafod y broses amgylchiadau esgusodol â chi os bydd angen ichi ei defnyddio.
Gallwch ddod o hyd i restr ar ein gwefan o'r holl fanylion cyswllt ar gyfer staff Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr y Gyfadran.
Gallwch ddarllen rhagor am y broses amgylchiadau esgusodol yma.
Lles
Mae gwasanaeth Lles Prifysgol Abertawe yn cynnig arweiniad a chymorth iechyd meddwl a Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) i fyfyrwyr: mae hyn yn cynnwys cymorth un i un gydag ymarferwyr iechyd meddwl ac awtistiaeth, mentoriaid a chynghorwyr, addasiadau academaidd ac adnoddau a chyrsiau hunan-gymorth. Gallwch chi weld yr ystod o gymorth sydd ar gael yma. Gallwch chi hefyd ofyn am gymorth drwy lenwi’r Ffurflen Cais am Gymorth Lles. Gallwch chi gysylltu â’r Gwasanaeth Lles drwy e-bostio wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Togetherall
Mae Togetherall yn wasanaeth iechyd meddwl digidol sydd ar gael yn togetherall.com. Gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol, gallwch chi gyrchu cymorth ar-lein yn ddienw gan glinigwyr hyfforddedig 24/7 yn ogystal ag ystod o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae’n rhywle diogel ar-lein lle y gallwch chi rannu eich problemau, cael sgwrs, mynegi eich hun yn greadigol, a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl. Gallwch chi gyrchu’r gwasanaeth yma: https://www.swansea.ac.uk/wellbeing/togetherall/