TASS – trosglwyddo rhwng cynlluniau astudio

Bydd y dudalen hon yn manylu ar y goblygiadau ar gyfer cyllid sy'n gysylltiedig â throsglwyddo o gynllun amser llawn i gynllun rhan-amser.  Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r newidiadau i'w gyllid.  Y myfyriwr hefyd sy'n gyfrifol am gysylltu â'i fentor TASS a/neu ei Goleg i drafod y goblygiadau academaidd a'r prosesau sydd ynghlwm wrth drosglwyddo. 

Trosglwyddo o gynllun amser llawn i gynllun rhan-amser.

  • Rhaid bod ceisiadau i drosglwyddo wedi'u cwblhau yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfnod addysgu.
  • Er y byddwch yn trosglwyddo'n academaidd, at ddibenion eich cyllid, bydd darparwr eich cyllid yn tynnu eich cyllid amser llawn yn ôl ac yn ei ganslo'n ôl weithredol o ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bydd rhaid i chi gyflwyno cais, fel myfyriwr rhan-amser newydd, am gyllid rhan-amser. Gall gymryd hyd at chwe wythnos i brosesu ceisiadau newydd.
  • Mae'r cyllid sydd ar gael ar gyfer astudio'n rhan-amser yn sylweddol lai na'r hyn sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr amser llawn. Edrychwch ar y tudalennau gwe canlynol am y ffigurau cyfredol:

Cyllid Myfyrwyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-rhan-amser/myfyriwr-cymreig/ 

Student Finance Englandhttps://www.gov.uk/student-finance/parttime-students 

  • Ystyrir eich bod wedi tynnu'n ôl o addysg amser llawn, felly bydd unrhyw gyllid cynhaliaeth rydych wedi'i dderbyn yn cael ei ystyried yn ordaliad a bydd rhaid ei ad-dalu ar unwaith. Er enghraifft, os ydych eisoes wedi derbyn eich cyllid cynhaliaeth am y tymor cyntaf ym mis Medi, bydd hyn yn ordaliad y bydd angen ei ad-dalu.  Os ydych yn rhan o raglen Aur TASS ac yn trosglwyddo'n ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'n bosib y byddwch wedi derbyn mwy nag un rhandaliad o'ch cyllid cynhaliaeth.  Ystyrir bod yr holl gyllid cynhaliaeth rydych wedi'i dderbyn yn ordaliad a bydd rhaid i chi ei ad-dalu ar unwaith. 
  • Os na allwch ad-dalu'r cyfanswm, gallwch gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu cynllun talu. Mae eu manylion cyswllt ar y dudalen we ganlynol: https://www.gov.uk/guidance/contact-slc-repayment-enquiries
  • Ar hyn o bryd, darperir cyllid rhan-amser ar gyfer ffioedd dysgu cynlluniau rhan-amser, ond gall hyn newid. Darllenwch y tudalennau gwe canlynol am ragor o wybodaeth:
  • Cyllid Myfyrwyr Cymru: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-rhan-amser/myfyrwyr-newydd-201920.aspx 
  • Student Finance England: https://www.gov.uk/student-finance/parttime-students 
  • Os dewiswch drosglwyddo o astudio'n amser llawn i astudio'n rhan-amser, sylwch y bydd rhaid i chi gwblhau lefel lawn cyn y cewch drosglwyddo'n ôl. Mae lefel lawn ar sail ran-amser yn cymryd dwy flynedd.

 

Newid o astudio'n rhan-amser i amser llawn

  • I drosglwyddo'n ôl i astudio'n amser llawn, rhaid eich bod wedi cwblhau'r lefel berthnasol. Ar sail ran-amser, bydd hyn yn cymryd dwy flynedd.
  • Rhaid bod ceisiadau i drosglwyddo wedi'u cwblhau yn ystod pedair wythnos gyntaf y cyfnod addysgu.
  • Er y byddwch yn trosglwyddo'n academaidd, at ddibenion eich cyllid, bydd darparwr eich cyllid yn tynnu eich cyllid rhan-amser yn ôl ac yn ei ganslo'n ôl weithredol o ddechrau’r flwyddyn academaidd. Bydd angen i chi gyflwyno cais, fel myfyriwr amser llawn newydd, am gyllid amser llawn. Gall gymryd hyd at chwe wythnos i brosesu ceisiadau newydd.
  • Darperir cyllid ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau amser llawn am hyd eich cwrs ynghyd ag un flwyddyn ychwanegol. Caiff unrhyw gyfnod o astudio blaenorol (amser llawn yn unig) ei ddidynnu.

Er enghraifft, cwrs 3 blynedd + 1 flwyddyn ychwanegol = 4 blynedd o hawl - 2 flynedd o astudio blaenorol = 2 flynedd o hawl i gyllid yn weddill. 

Gwnewch yn siŵr bod gennych hawl i gyllid digonol i ddychwelyd i astudio'n amser llawn cyn i chi drosglwyddo.  Gall Arian@BywydCampws gynghori ar hyn.  Ein manylion cyswllt yw money.campuslife@abertawe.ac.uk 01792 606699

  • Ystyrir bod unrhyw gyllid cynhaliaeth rydych wedi'i dderbyn yn ordaliad a bydd rhaid i chi ei ad-dalu ar unwaith. Fodd bynnag, byddwch yn derbyn mwy o gyllid cynhaliaeth pan fydd eich cais newydd wedi'i brosesu.  *Sylwer, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr newydd, felly mae'n bosib y bydd eich cyllid yn wahanol i'r swm a gawsoch y tro cyntaf i chi wneud cais am gyllid amser llawn.