Beth yw'r Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch?
Mae'r cyllid wedi cael ei ddarparu gan Gronfa Wrth Gefn Covid-19 Llywodraeth Cymru i gefnogi'r ymateb cenedlaethol i'r pandemig, ac mae wedi cael ei ddosbarthu i brifysgolion gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC).

Pwy sy'n gallu cyflwyno cais i'r gronfa?
Gall pob myfyriwr cofrestredig ym Mhrifysgol Abertawe sy'n wynebu trafferthion wrth dalu costau hanfodol o ganlyniad uniongyrchol i bandemig y coronafeirws (COVID-19) gyflwyno cais i'r gronfa newydd - Cronfa Cymorth COVID-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch.
Mae'r cyllid hwn ar gael i chi os ydych wedi'ch cofrestru ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020/2021 ac rydych yn:
• Fyfyriwr Israddedig neu Ôl-raddedig
• Myfyriwr Cartref amser llawn (y DU)/Cartref rhan-amser (y DU) (o leiaf 60 credyd)
• Myfyriwr Rhyngwladol
• Myfyriwr o'r UE
• Myfyriwr sydd wedi gohirio eich astudiaethau (myfyrwyr mewn cyfnod gohirio sy'n ymwneud yn benodol â 2020/21)
Sylwer - rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr y mae'r pandemig presennol yn fwy tebygol o gael effaith niweidiol arnynt.

Sut a phryd gallaf gyflwyno cais?
Gall myfyrwyr gyflwyno cais i'r Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch drwy ein ffurflen gais ar-lein. 

https://intranet.swan.ac.uk/StudentHardship/HEFCW/Index/17090 

Faint o arian byddaf yn ei dderbyn?
Bydd myfyrwyr yr asesir eu bod yn gymwys i dderbyn cymorth gan y Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch yn derbyn £350.

Beth mae angen ei ddarparu yn fy nghais?
Gofynnir i chi ddarparu manylion sylfaenol mewn perthynas â'ch statws, er enghraifft, a ydych chi'n astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, eich rhif myfyriwr, eich cyfeiriad etc. Efallai y gofynnir i chi hefyd roi rhywfaint o wybodaeth i ganiatáu i ni benderfynu a ydych yn perthyn i un o'r categorïau blaenoriaeth am gymorth.

Pa gategorïau blaenoriaeth sydd wedi cael eu cydnabod?
Mae myfyrwyr yn flaenoriaeth os ydynt wedi datgelu eisoes bod un o'r categorïau isod yn berthnasol iddynt ac mae hyn wedi'i gofnodi ar eu cofnod yn y Brifysgol.
Rhestrir y grwpiau blaenoriaeth isod:
• Myfyrwyr y cydnabyddir bod anabledd ganddynt
• Ymadawyr Gofal
• Myfyrwyr sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd
• Gofalwyr

Gaf i gyflwyno mwy nag un cais?
Na chewch.
Nid yw myfyrwyr yn gallu cyflwyno mwy nag un cais i'r gronfa. Bydd ceisiadau dilynol yn cael eu gwrthod yn awtomatig.

Fydd angen ad-dalu’r arian?
Na fydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu'r cyllid i gefnogi myfyrwyr sydd wedi wynebu colled ariannol oherwydd y pandemig, ac ni fydd angen ad-dalu'r arian hwn.

Faint o amser bydd yn ei gymryd i dalu'r arian i mi?
Mae gennym dîm bach ond ymroddedig sy'n gweithio'n galed i asesu cynifer o geisiadau â phosib cyn gynted ag y gallwn. Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau y byddwch yn derbyn eich dyfarniad cyn gynted â phosib ar ôl cyflwyno eich cais. Yn ddelfrydol, ein nod yw asesu ceisiadau o fewn chwe wythnos ar ôl dyddiad eu cyflwyno; gall gymryd 14 diwrnod gwaith arall i dalu'r dyfarniad.
Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy'n perthyn i'r Categorïau Blaenoriaeth a amlinellwyd uchod.
Cadwch lygad ar ein gwefan am y diweddaraf ynghylch amserau prosesu.
Peidiwch ag e-bostio i holi ynghylch hynt eich cais, oni bai fod y cyfnodau amser a nodwyd wedi mynd heibio. Os nad ydych chi wedi derbyn eich dyfarniad o fewn y cyfnod a nodwyd, cysylltwch â ni yn Covid19supportfund@abertawe.ac.uk

Ga i ymgeisio am y Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch a Chronfa Galedi'r Brifysgol?
Cewch.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais i un o Gronfeydd Caledi'r Brifysgol o'r blaen, gallwch gyflwyno cais am y Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch hefyd - ar yr amod eich bod yn bodloni'r meini prawf cymhwyso.
Yn yr un modd, os hoffech chi gyflwyno cais i'r Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr Addysg Uwch a’ch bod chi'n teimlo eich bod yn dal i gael anawsterau ariannol, gallwch gyflwyno cais am Gronfeydd Caledi'r Brifysgol hefyd. Am wybodaeth lawn, ewch i dudalen we ein Cronfeydd Caledi.