Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu arian at bob prifysgol yng Nghymru drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) er mwyn cefnogi myfyrwyr sydd wedi profi caledi ariannol o ganlyniad uniongyrchol i bandemig Covid-19.

Mae’r cyllid yn canolbwyntio'n benodol ar fyfyrwyr sy'n fwy tebygol o wynebu effeithiau andwyol yn sgîl y pandemig, ond bydd pob myfyriwr cymwys sy’n wynebu’r effeithiau hyn yn gallu cyflwyno cais. Ewch i’r ddolen i’n Cwestiynau Cyffredin am ragor o wybodaeth am gymhwystra.

Mae ceisiadau gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe bellach ar agor a gallwch chi gyflwyno cais yma.

Y DIWEDDARAF

Diolch am eich amynedd! Rydyn ni’n derbyn nifer fawr o geisiadau ac mae gennym ni dîm ymroddedig i’w prosesu ar eich cyfer chi. Cofiwch y gallai gymryd hyd at 6 wythnos i’w cwblhau. I osgoi oedi wrth brosesu’ch cais, dylech chi sicrhau eich bod wedi cyflawni’r canlynol:
• Cynnwys eich manylion banc. Ni allwn ni brosesu taliadau heb y manylion hyn a gall gofyn am ragor o wybodaeth achosi oedi.
• Defnyddio cyfrif banc yn y Deyrnas Unedig os yw’n bosib. Gallwn ni anfon taliadau i gyfrifon banc rhyngwladol ond mae hyn yn debygol o gymryd yn hirach na 6 wythnos yr amser prosesu.
• Peidiwch â chyflwyno nifer o geisiadau i Gronfa Cymorth Myfyrwyr Pandemig Covid-19. Bydd angen gwirio’r ceisiadau a’u tynnu oddi ar y system gan achosi oedi. Sylwer, gallwch chi gyflwyno ceisiadau i’n cronfeydd caledi eraill.

Peidiwch ag anfon neges e-bost at y tîm i dderbyn diweddariadau o ran statws eich cais oherwydd efallai na chewch chi ymateb. Mae pob cais yn cael ei asesu a’i brosesu o fewn 6 wythnos y cyfnod prosesu. 

Gwybodaeth bwysig
- Gallai hi gymryd hyd at 6 wythnos i asesu a phrosesu’r ceisiadau. Gall yr amseroedd hyn newid.
-Rydych chi’n dal i fod yn gymwys i gyflwyno cais i gronfeydd caledi Prifysgol Abertawe ochr yn ochr â chais i gronfa Cronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr os ydych chi’n dal i wynebu caledi ac yn dal i fod yn gymwys. Ewch i’n tudalen cronfeydd caledi am yr holl wybodaeth.
- Os ydych chi eisoes wedi derbyn cyllid gan un o’n Cronfeydd Caledi ni, gallwch chi gyflwyno cais o hyd i Gronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr
- Gweler ein Cwestiynau Cyffredin am yr holl wybodaeth am Cronfa Cymorth Covid-19 i Fyfyrwyr. Os na allwch chi ddod o hyd i'r ateb ar gyfer eich ymholiad yma yna e-bostiwch ein tîm prosesu dynodedig ar Covid19supportfund@abertawe.ac.uk 

Rydym ni’n deall y gallai’r pandemig fod wedi effeithio’n andwyol ar eich lles. Cofiwch fod Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod o wasanaethau i’ch cefnogi:
Mae’r Gwasanaeth Lles yn cynnig ystod o wasanaethau hunangyfeiriedig a gwasanaethau a gefnogir i’ch arfogi â’r sgiliau i wella eich iechyd meddyliol a’ch lles.
Mae’r Gwasanaeth Gwrando yn wasanaeth cyfrinachol sy’n gwrando ar unrhyw un y mae ei angen arno.
Nid oes angen cael problem neu fater penodol – weithiau mae’n dda siarad.
Mae Rhyngwladol@BywydCampws yn parhau i gysylltu myfyrwyr drwy ddigwyddiadau ar-lein ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr sy’n hanu o’r DU.