Cyrraedd a Chofrestru'n Hwyr

Mae tymor y Brifysgol bellach wedi dechrau, ond rydym yn cydnabod bod rhai myfyrwyr heb gyrraedd Abertawe eto.

Os ydych yn bwriadu cyrraedd ar ôl i'r addysgu ddechrau ddydd Llun 30 Medi, dylech fod yn ymwybodol y byddwch yn colli darlithoedd a dosbarthiadau ymarferol pwysig sy'n hanfodol i'ch cwrs ac ni fyddant yn cael eu hail-gynnal.

Mae'n bosib y bydd aseiniadau eisoes wedi'u pennu ar gyfer rhai modiwlau ac nid yw cofrestru'n hwyr yn cael ei dderbyn fel Amgylchiadau Esgusodol fel arfer. Mae hyn yn golygu y gallech golli marciau os ydych yn cyrraedd yn hwyr, oherwydd na fydd modd estyn dyddiadau cau ar gyfer myfyrwyr sy'n cofrestru’n hwyr. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cwblhau'r holl waith rydych wedi'i golli. Ewch i weld eich darlithwyr yn ystod eu horiau swyddfa i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a chyflwynwch eich hun i bob darlithydd ar ddechrau neu ddiwedd y sesiwn gyntaf rydych yn mynd iddi ar gyfer pob modiwl.

Mae Prifysgol Abertawe'n caniatáu i fyfyrwyr gofrestru'n hwyr hyd at 14 Hydref 2019 fel y bydd ein timau derbyn a chofrestru eisoes wedi dweud wrthych. Does dim sicrwydd y bydd y Coleg yn caniatáu cofrestru ar ôl y dyddiad hwn.

Os na allwch gyrraedd cyn 14 Hydref 2019, efallai y bydd angen i chi ohirio'ch astudiaethau tan y flwyddyn academaidd nesaf. Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio yn engineering@abertawe.ac.uk os ydych yn y sefyllfa hon a hoffech ohirio'ch cynnig tan gyfnod derbyn mis Medi 2020.

Cysylltwch â MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws am gyngor ar eich fisa a'r camau gweithredu efallai y bydd angen eu cymryd. E-bostiwch international.campuslife@abertawe.ac.uk  neu ffoniwch +44 (0)1792 602000.

Ar ôl cyrraedd, ewch i Dderbynfa'r Coleg Peirianneg er mwyn cwrdd ag aelod o'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr. I gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr cyn cyrraedd, e-bostiwch engoffice@abertawe.ac.uk neu ffoniwch +44 (0)1792 295514.

Mae'n rhaid i chi ddechrau mynychu darlithoedd ar unwaith ar ôl i chi gyrraedd Abertawe. Mae'r holl amserlenni ar gael ar-lein yn https://collegeintranet.swan.ac.uk/timetables/

I gael rhagor o fanylion am y broses i'w dilyn ar gyfer cofrestru'n hwyr, ewch i - https://myuni.swansea.ac.uk/enrolment/

Ffynonellau gwybodaeth

Mewnrwyd Coleg

Yma gallwch chi ddod o hyd i amserlenni addysgu, Llawlyfrau Rhan Un a Rhan Dau a’r calendr asesiadau. Hefyd, mae’r ffurflen ar-lein Amgylchiadau Esgusodol ar gael ac efallai y bydd angen i chi ei chwblhau os byddwch chi’n profi unrhyw anawsterau wrth gyflwyno gwaith cwrs mewn pryd o ganlyniad i sefyllfaoedd annisgwyl.

Cliciwch yma ar gyfer Rhyngrwyd y Coleg

Ganllaw Academaidd (Rheolau Prifysgol) Cyrchu 'MyUni' Blackboard