Mae nifer o gymdeithasau eraill i chi gael bod yn rhan ohonynt yn ogystal â’n cymdeithasau Peirianneg. Dysgu mwy ar ein tudalen cymdeithasau.
Ystyriwch fod yn rhan o’r Gymdeithas Peirianneg Awyrofod eleni. Mae’n ffordd wych o gyfoethogi eich gradd drwy gyfarfod â chyfoedion gyda’r un diddordebau â chi, datblygu cyfeillgarwch newydd a chael amser gwych yn ein digwyddiadau a’n nosweithiau cymdeithasol! Mae’r digwyddiadau yn cynnwys Sesiynau Efelychu Hedfan (am hwyl neu i ymarfer) ac ystod eang o ddigwyddiadau megis ein cynhadledd diwedd y flwyddyn a sgyrsiau gan Gyn-fyfyrwyr!
I ymuno, mewngofnodwch i’r wefan gan ddefnyddio’ch rhif myfyriwr newydd, yna dewiswch “prynu aelodaeth” ar waelod ochr chwith y sgrin.
Mae’r aelodaeth £3 yn rhoi mynediad i chi i’n digwyddiadau, prisiau gostyngol, a gwell gwybodaeth ynghylch ein holl weithgareddau yn ystod y flwyddyn!
Mae'r ‘CEES’ yn cynnig cyfle i chi wneud ffrindiau ar eich cwrs, cael cyngor gan fyfyrwyr mewn blynyddoedd uwch, ac rydym hefyd yn eich helpu i rwydweithio â graddedigion Prifysgol Abertawe a myfyrwyr Blwyddyn-Mewn-Diwydiant sy'n dychwelyd.
Rydym yn cynnal tripiau i Barc Trampolîn ‘Limitless’, cwisiau tafarn, nosweithiau bowlio a phethau fel sesiynau chwaraeon trwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnal nosweithiau allan yn Abertawe. Yn olaf, rydym yn helpu i gydlynu'r daith ar gyfer digwyddiad Frank Morton IChemE bob blwyddyn (https://ichemeblog.org/2018/02/14/a-fourth-win-in-a-row-for-birmingham-at-frank-morton-2018/)
E-bostiwch os oes gennych gwestiynau neu os hoffech ddod yn aelod: chemicalengineering@swansea-societies.co.uk
Mae ein ‘CIVSocialites’ yn mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd rhwydweithio megis sgyrsiau ac ymweliadau safle a gynhelir mewn partneriaeth ag ‘ICE’ a ‘SEA’ yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol anhygoel. Mae cymdeithasau yn amrywio o nosweithiau thema o gwmpas y dref i ddigwyddiadau cymdeithasol sych mewn lleoliadau megis Parc Trampolîn ‘Limitless’, Bowlio TenPin a llawer mwy. Hoffwch ein tudalen Facebook, Swansea University Civil Engineering Society. Bydd mwy o fanylion ynghylch sut i ymuno ar y dudalen hon ym mis Medi!
Facebook SUSU Email
Efallai bod gennych gwrs mewn golwg i’w wneud ar ôl y flwyddyn Sylfaen, ac os felly, nid yw’n rhy gynnar (nac yn rhy hwyr) i ymuno â Chymdeithas y pwnc yr ydych yn bwriadu arbenigo ynddo. Mae ein holl gymdeithasau Peirianneg yn agored i fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen.
Mae'r Gymdeithas Peirianneg Deunyddiau yn ymwneud â dod ac addysg a diwydiant ynghyd. Trwy gydol bob tymor, rydym yn cynnal ymweliadau diwydiant, darlithoedd Cymdeithas Deunyddiau De Cymru, ac wrth gwrs, digwyddiadau cymdeithasol i roi cyfle i bobl ddod i adnabod myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.
Rydym hefyd yn helpu i ddarparu cyfleoedd y tu allan i brifysgol trwy helpu i redeg teithiau, megis teithiau i'r Labordy Niwclear Ffiseg yn Geneva a hefyd lleoliadau haf a gweithgareddau ‘STEM’.
Facebook E-bost
Mae'r Gymdeithas Peirianneg Feddygol yn cynnal amrywiaeth o sesiynau academaidd a digwyddiadau cymdeithasol, ac mae'n darparu lle i fyfyrwyr ysbrydoli, cydweithio a datblygu fel cymuned o beirianwyr ifanc. Mae'r gymdeithas hefyd yn lle i gymdeithasu a rhwydweithio gyda'r cyfle i roi a derbyn cymorth a chyngor.
Mae Cymdeithas Merched mewn Peirianneg Abertawe yn gymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr sy’n rhan o’r Undeb Myfyrwyr yn ogystal â Chymdeithas ryngwladol Merched mewn Peirianneg. Mae gennym lawer o weithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau, gan mai un o’n prif nodau yw annog rhwydweithio a chysylltu rhwng peirianwyr wrth gymdeithasu a mwynhau bod yn fyfyriwr yn Abertawe. Mae croeso i holl fyfyrwyr Peirianneg ymuno, dynion a merched. Rydym yn gweithio’n agos gyda chynllun Mentora Cymheiriaid Coleg er mwyn cefnogi peirianwyr benywaidd. Felly gwnewch y mwyaf o’ch amser yn Abertawe ac ymunwch â ni!
Mae bod yn rhan o dîm Rasio Peirianneg Prifysgol Abertawe yn darparu cyfle unigryw i fyfyrwyr o bob cwrs gymryd rhan mewn cylch bywyd cyfan prosiect peirianneg: o’r cysyniadau dylunio gwreiddiol, yr adeiladu a’r profi, i’r eiliad allweddol - rasio’r car. Ymunwch â ni i wneud ffrindiau oes yn ogystal ag ennill profiadau ymarferol amhrisiadwy a chysylltiadau ar gyfer dyfodol disglair ar ôl y brifysgol.
Galluogi aelodau i ddysgu, i rwydweithio ac i greu pethau!
Cewch yr holl offer a chefnogaeth y mae eu hangen arnoch chi er mwyn gweithio ar brosiectau dylunio a phrototeipiau, rhagor o ymarfer ymarferol a datblygu eich sail wybodaeth trwy ddylunio a chynhyrchu eich syniadau chi. Galwch heibio er mwyn gweithio ar eich prosiect eich hun, neu ymunwch a grŵp.
Offer gan gynnwys torwyr laser, argraffwyr 3D, sganwyr 3D a mwy. Opsiynau i gynnwys codio ac electroneg yn rhan o ddyluniadau.
Dydd Mercher 2-6pm, Peirianneg Ganolog, B005
Nid oes gan Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff gymdeithas benodol ar hyn o bryd; fodd bynnag mae bob amser lle ar gyfer un arall!
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dechrau cymdeithas, cewch wybodaeth am sut i wneud hynny yma.