Gweler isod wybodaeth allweddol ynghylch rheoliadau asesu Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn ystod 2019-20 gan ystyried sefyllfa pandemig COVID-19. Os oes gennych gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr.

Hefyd, cofiwch lawrlwytho a darllen y llythyr penderfyniad a geir yn eich proffil ar y fewnrwyd nesaf at eich penderfyniad dilyniant/dyfarniad.

BETH MAE'N RHAID I MI EI WNEUD I BASIO'R FLWYDDYN/RADDIO?

Bydd angen i chi barhau i astudio ar gyfer gweddill eich modiwlau a chyflwyno'r aseiniadau gofynnol. Bydd hyn yn bwysig ar gyfer eich blynyddoedd o astudiaethau pellach a/neu eich gyrfa ar ôl graddio. Cofiwch y bydd marciau pob modiwl yn cael eu cofnodi ar eich trawsgrifiadau.

Ym mhob blwyddyn, caniateir methiant a oddefir mewn hyd at 40 credyd a chewch symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf neu raddio o hyd; gall y marc am y methiannau a oddefir hyn fod mor isel â 0%.

Nid yw rhaglenni Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn cynnwys modiwlau craidd

SUT BYDD Y POLISI RHWYD DDIOGELWCH YN BERTHNASOL I'M BLWYDDYN I?

SUT CAIFF FY NGRADD EI CHYFRIFO?