Byddwn yn defnyddio'r holl fodiwlau a gwblhawyd gennych cyn 14 Mawrth 2020 yn y flwyddyn academaidd hon.
Os yw hyn gyfwerth â 60 credyd neu fwy, byddwn yn cyfrifo'r marc cyfartalog ar sail y modiwlau hyn.
Os yw'n llai na 60 credyd, byddwn yn ei gynyddu i 60 credyd gan ddefnyddio eich cyfartaledd o'r flwyddyn flaenorol i wneud iawn am y diffyg credydau.
Wrth i chi ddod i ddiwedd eich rhaglen (ym mis Mehefin 2021 neu 2022), cofnodir y marc cyfartalog hwn ar gyfer yr holl fodiwlau yr effeithiwyd arnynt nas cwblhawyd eto eleni. Cofnodir yr holl farciau eraill, gan gynnwys rhai ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn y ffordd arferol. Defnyddir y rheolau cyfrifo dosbarthiad gradd arferol gyda'r rhain i roi "dosbarthiad gradd gwarchodedig".
Yna byddwn yn cofnodi'r marciau rydych yn eu cyflawni ar fodiwlau a gwblhawyd eleni a chyfrifir eich dosbarthiad gradd fel arfer. Os yw'r dosbarthiad hwn yn is na'r dosbarthiad gwarchodedig, defnyddir y dosbarthiad gwarchodedig uwch.
Bydd eich trawsgrifiad yn cynnwys eich marciau a ddyfarnwyd am gredydau a gwblhawyd, ynghyd ag eglurhad o'r broses rhwyd ddiogelwch.
Rhoddir enghreifftiau o gyfrifo dosbarthiad gwarchodedig isod.
Myfyriwr 1 - Blwyddyn 2 ar raglen 3 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 1: 72.6%
- Modiwlau Blwyddyn 2 a gwblhawyd: #1 15 credyd 73%, #2 15 credyd 56%, #3 15 credyd 65% a #4 15 credyd 73%.
- Cyfrifir y cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 60 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 2 felly 66.75% yw'r marc.
- Bydd y marc hwn a'r 60 credyd o fodiwlau yr effeithiwyd arnynt yn cael eu cadw ar y cofnod tan fis Mehefin 2021, pan gyfrifir dosbarthiad gradd. Bryd hynny, cofnodir marc o 67% ar gyfer yr holl fodiwlau Blwyddyn 2 yr effeithiwyd arnynt a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer (gan gynnwys marciau Blwyddyn 3 o 2020/21) i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig. Caiff hwn ei gymharu â'r dosbarthiad gradd ar sail marciau a ddyfarnwyd am gredydau a gwblhawyd a defnyddir y dosbarthiad uwch os oes gwahaniaeth.
Myfyriwr 2 - Blwyddyn 2 ar raglen 4 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 1: 81.3%
- Modiwlau Blwyddyn 2 a gwblhawyd: #1 10 credyd 77%, #2 20 credyd 66%, #3 10 credyd 83% a #4 10 credyd 53%.
- Cyfrifir y cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 50 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 2 a 10 credyd cyfwerth â chyfartaledd Blwyddyn 1: (77*10+66*20+83*10+53*10+81.3*10) = 71.05%.
- Cedwir y marc hwn a'r 70 credyd o fodiwlau yr effeithiwyd arnynt ar y cofnod tan fis Mehefin 2022 pan gyfrifir dosbarthiad gradd. Bryd hynny, cofnodir marc o 71% ar gyfer yr holl fodiwlau blwyddyn 2 yr effeithiwyd arnynt a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer (gan gynnwys marciau Blwyddyn 3 o 2020/21 a marciau Blwyddyn 4 o 2021/22) i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig. Caiff hwn ei gymharu â'r dosbarthiad gradd ar sail marciau a ddyfarnwyd am gredydau a gwblhawyd a defnyddir y dosbarthiad uwch os oes gwahaniaeth.
Myfyriwr 3 - Blwyddyn 2 ar raglen 3 blynedd
55 credyd wedi'u cwblhau yn Semester 1.
Cyfartaledd Blwyddyn 1: 74%
Modiwlau Blwyddyn 2 a gwblhawyd:
- #1 10 credyd 70%
- #2 10 credyd 68%
- #3 10 credyd 87%
- #4 10 credyd 61%
- #5 10 credyd 68%
- #6 5 credyd 82%
- Ynghyd â 5 credyd a gyfrifwyd ar sail cyfartaledd Blwyddyn 1 y myfyriwr (74%), # 7 5 credyd 74%
Cyfrifir cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 55 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 2 a 5 credyd o gyfartaledd Blwyddyn 1 y myfyriwr felly 72% yw'r marc. Cedwir y marc hwn a'r 60 credyd o fodiwlau yr effeithiwyd arnynt ar y cofnod tan fis Mehefin 2021 pan gyfrifir dosbarthiad gradd. Bryd hynny, cofnodir marc o 72% ar gyfer yr holl fodiwlau o Flwyddyn 2 yr effeithiwyd arnynt a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer (gan gynnwys marciau Blwyddyn 3 o 2020/21) i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig. Caiff hwn ei gymharu â'r dosbarthiad gradd ar sail marciau a ddyfarnwyd am gredydau a gwblhawyd a defnyddir y dosbarthiad uwch os oes gwahaniaeth.
Blwyddyn 3 BEng a Blwyddyn 4 MEng
Byddwn yn defnyddio holl fodiwlau'r flwyddyn olaf rydych chi wedi'u cwblhau cyn 14 Mawrth 2020.
Os yw hyn gyfwerth â 60 credyd neu fwy, byddwn yn cyfrifo'r marc cyfartalog ar sail y modiwlau hyn.
Os yw'n llai na 60 credyd, byddwn yn ei gynyddu i 60 credyd gan ddefnyddio eich cyfartaledd o'r flwyddyn flaenorol i wneud iawn am y diffyg credydau.
Cofnodir y marc cyfartalog hwn ar gyfer yr holl fodiwlau o'r flwyddyn olaf nas cwblhawyd eto.
Defnyddir y rheolau cyfrifo dosbarthiad arferol gyda'r rhain i roi "dosbarthiad gradd gwarchodedig". Pan fyddwch wedi cwblhau eich holl asesiadau am y flwyddyn, cofnodir yr holl farciau a chyfrifir dosbarthiad eich gradd fel arfer.
Os yw'r dosbarthiad hwn yn is na'r dosbarthiad gwarchodedig, yna defnyddir y dosbarthiad gwarchodedig uwch.
Bydd eich trawsgrifiad yn cynnwys eich marciau a ddyfarnwyd am gredydau a gwblhawyd, ynghyd ag eglurhad o'r broses rhwyd ddiogelwch.
Rhoddir enghreifftiau o gyfrifo dosbarthiad gwarchodedig isod.
Myfyriwr 1 - Blwyddyn 3 ar raglen 3 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 2: 62.7%
- Modiwlau Blwyddyn 3 a gwblhawyd:#1 20 credyd 71%, #2 20 credyd 64% a #3 20 credyd 66%.
- Cyfrifir cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 60 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 3, felly 67.0% yw'r marc.
- Cofnodir marc o 67% ar gyfer yr holl fodiwlau blwyddyn 3 nas cwblhawyd eto a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig.
Myfyriwr 2 - Blwyddyn 3 ar raglen 3 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 2: 71.6%
- Modiwlau Blwyddyn 3 a gwblhawyd: #1 10 credyd 74%, #2 10 credyd 68%, #3 10 credyd 76% a #4 10 credyd 66%.
- Cyfrifir cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 40 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 3, ac 20 credyd cyfwerth â chyfartaledd Blwyddyn 2, felly y marc yw (74*10+68*10+76*10+66*10+71.6*20)/60 = 71.2%
- Cofnodir marc o 71% ar gyfer yr holl fodiwlau Blwyddyn 3 nas cwblhawyd eto a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig.
Myfyriwr 3 - Blwyddyn 3 ar raglen 3 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 2 52.4%
- Modiwlau Blwyddyn 3 a gwblhawyd: #1 15 credyd 61%, #2 15 credyd 52%, #3 15 credyd 63% a #4 15 credyd 33%.
- Cyfrifir cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 60 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 3 (gan gynnwys y methiant), felly 52.25% yw'r marc.
- Cofnodir marc o 52% am yr holl fodiwlau ym Mlwyddyn 3 nas cwblhawyd eto a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig.
Myfyriwr 4 - Blwyddyn 4 ar raglen 4 blynedd.
- Cyfartaledd Blwyddyn 3: 71.3%
- Modiwlau Blwyddyn 4 a gwblhawyd: #1 10 credyd 65%, #2 10 credyd 74%, #3 10 credyd 66%, #4 10 credyd 78% a #5 10 credyd wedi'u gohirio.
- Cyfrifir cyfartaledd rhwyd ddiogelwch ar sail y 40 credyd a gwblhawyd ym Mlwyddyn 4 (ac eithrio'r modiwl a ohiriwyd) ac 20 credyd cyfwerth â chyfartaledd Blwyddyn 3, felly y marc yw: (65*10+74*10+66*10+78*10+71.3*20)/60 = 70.9%.
- Cofnodir marc o 71% am yr holl fodiwlau o Flwyddyn 4 nas cwblhawyd eto a defnyddir y rheolau dosbarthiad fel arfer i gyfrifo dosbarthiad gradd gwarchodedig.