Gwybodaeth am y Sesiynau Cymorth
Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn cynnal sesiynau pwrpasol ar y pynciau presennol sy’n effeithio arnoch chi. Sgroliwch i lawr i weld yr hyn a gynllunnir a chadw eich lle chi i ymuno!
Drwy gydol y flwyddyn, mae’r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn cynnal sesiynau pwrpasol ar y pynciau presennol sy’n effeithio arnoch chi. Sgroliwch i lawr i weld yr hyn a gynllunnir a chadw eich lle chi i ymuno!
Ymunwch â ni am gyfle i ymlacio yn ystod cyfnod asesu prysur mis Ionawr. Byddwn yn cynnal sesiynau Caffi Astudio unwaith yr wythnos ar bob campws (i ategu Cymorth Astudio Undeb y Myfyrwyr). Gallwch ddod i adolygu gyda'ch gilydd, cael diod boeth am ddim a bydd hefyd aelodau o'r tîm cymorth i fyfyrwyr yn galw heibio i ddweud helô. Bydd hefyd gemau bwrdd ar gael os hoffech chi ymlacio a dadflino. Yn ein trydedd sesiwn Caffi Astudio gallwch hefyd gael ychydig o hwyl a chwarae mario kart!]
Sesiynau Caffi Astudio
Gampws y Bae | Gampws Singleton |
---|---|
Ileoliad: Ystafell B014, Adeilad Canolog Peirianneg Amser: 10am - 3pm Dyddiad: 8, 15 a 22 Ionawr 2025 |
Ileoliad: Pen grisiau Adeilad Wallace Amser: 10am - 3pm Dyddiad: 9, 16 a 23 Ionawr 2025 |
Osgoi tarfiadau i'r 'cerrynt' drwy gymryd cyfrifoldeb am eich astudiaethau. Mae ein hawgrymiadau allweddol i gymryd rheolaeth ar eich Profiad Academaidd isod.
Sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Instagram am uchafbwyntiau o'n digwyddiadau.