AMSERLENNI ASESIADAU ATODOL MIS AWST

Gallwch weld eich amserlen a chrynodebau ar gyfer cyfnod asesiadau atodol mis Mawrth (20 - 31 Mawrth 2023) drwy fewngofnodi i https://myuni.swansea.ac.uk/ a mynd i'r fewnrwyd lle byddwch yn gweld Amserlenni Arholiad fel opsiwn ar ochr chwith y dudalen.

Sylwer, rhestrir pob amser yn unol ag Amser Safonol Prydain. A wnewch chi gynllunio i fod ar gael ar gyfer y cyfnod asesu yn ei gyfanrwydd, gan na fydd hi'n bosib newid dyddiadau asesu ar gyfer myfyrwyr unigol.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cyflwyno asesiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, ewch i dudalen Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Asesiadau Atodol i ddarllen am yr opsiynau a gynigir, a chysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr os oes gennych gwestiynau. Sylwer, bydd eich opsiynau yn fwy cyfyngedig ar ôl i'r dyddiad cau fynd heibio, felly cysylltwch â'r tîm ar unwaith a chyn y dyddiad cau lle bo'n bosibl.

Cofiwch fod pob asesiad atodol sy’n cael ei ohirio (y tro cyntaf) yn ymddangos yn safonol ar yr amserlenni. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â'ch asesiadau wedi'u gohirio, cysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth i Fyfyrwyr am arweiniad.

NODYN AR WAITH CWRS ATODOL

Sylwer, gall rhai asesiadau gwaith cwrs atodol gael eu rhyddhau i fyfyrwyr yn gynnar, ac efallai bydd ganddynt ddyddiadau cau y tu allan i'r prif gyfnod asesu atodol. Bydd cydlynwyr modiwlau yn rhoi gwybod i fyfyrwyr yn yr achosion hyn. Cysylltwch â chydlynydd eich modiwl os oes gennych gwestiynau.