Cyfeiriwch at y dogfennau polisi priodol, y Cwestiynau Cyffredin a'r enghreifftiau o gamymddygiad academaidd ar dudalennau gwe canlynol y Brifysgol:
Uniondeb Academaidd
Mae uniondeb academaidd yn cyfeirio at gasgliad cyffredin o egwyddorion sy'n cynnwys gonestrwydd, ymddiriedaeth, diwydrwydd, tegwch a pharch a'i nod yw cynnal uniondeb eich gwaith a'ch dyfarniad. Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar yr ethos bod y ffordd rydych chi'n dysgu yr un mor bwysig â'r hyn rydych chi'n ei ddysgu.
Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar nifer o egwyddorion craidd. Golyga hyn:
- Cymryd cyfrifoldeb dros eich gwaith a'ch astudiaethau eich hun.
- Parchu barn pobl eraill hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno â hwy.
- Parchu hawl pobl eraill i weithio ac astudio yn y ‘gymuned ddysgu’.
- Cydnabod gwaith pobl eraill, lle mae hyn wedi cyfrannu at eich astudiaethau, eich ymchwil neu eich cyhoeddiadau eich hun.
- Sicrhau bod eich cyfraniad at waith grŵp wedi cael ei gynrychioli'n onest.
- Cefnogi pobl eraill i ymddwyn gydag uniondeb academaidd.
- Dilyn y gofynion moesegol a'r safonau proffesiynol sy'n briodol i'r ddisgyblaeth.
- Osgoi gweithredoedd a fyddai'n rhoi mantais annheg i chi dros bobl eraill.
- Sicrhau bod canlyniadau ymchwil neu ddata arbrofol yn cael eu cynrychioli'n onest.
- Cydymffurfio â gofynion yr asesiad.
Uniondeb academaidd yw'r egwyddor arweiniol ar gyfer pob agwedd ar asesu myfyrwyr, gan gynnwys sefyll arholiadau, rhoi cyflwyniadau llafar neu ysgrifennu aseiniadau, traethodau hir neu draethodau ymchwil i'w hasesu.
Mae'r Coleg a'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr o ran sgiliau astudio, i leihau nifer yr achosion o lên-ladrad damweiniol ac fe'ch cynghorir i geisio rhagor o gyngor gan eich Tiwtor Personol os oes gennych amheuon ynghylch yr hyn sy'n angenrheidiol.
Camymddygiad Academaidd
Ceir camymddygiad academaidd pan fydd myfyriwr yn ymddwyn mewn ffordd sy'n rhoi mantais nas caniateir iddo ef neu i fyfyriwr arall. Mae hyn yn berthnasol os yw’n gweithredu ar ei ben ei hun neu gydag eraill i wneud hyn. Gall hyn ddigwydd mewn unrhyw asesiad y mae myfyriwr yn ymwneud ag ef fel rhan o'i astudiaethau ar gyfer ei gymhwyster ym Mhrifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr gyflawni camymddygiad academaidd yn fwriadol neu'n anfwriadol; felly, mae'n bwysig i chi fod yn ymwybodol o'r hyn y mae'r Brifysgol yn ei ystyried yn dramgwydd.