Mae mwy i fywyd myfyrwyr na'ch astudiaethau academaidd. Byddwch yn rhagweithiol, a defnyddiwch y dudalen hon fel man cychwyn yn eich taith i wneud y gorau o'ch amser fel myfyriwr Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 

Cam 1: Dilynwch y diwedd

Mae cymaint yn digwydd, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau. Rydym yn argymell: 

  • Dilyn ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf
  • Cadw llygad ar eich Hyb Cymunedol Canvas am grynodebau wythnosol o'r hyn sy'n digwydd yr wythnos honno.
  • Edrych ar dudalen 'Digwyddiadau' Undeb y Myfyrwyr.
  • Rhoi llyfrnod ar gyfer y dudalen Newyddion Myfyrwyr ar MyUniHub.
  • Darllen eich e-byst!
Myfyrwyr

Cam 2: Dod o hyd i'ch Cymuneda

Mae llawer o ffyrdd o gymryd rhan mewn cymunedau ar draws y Brifysgol. 

Mae gan y rhan fwyaf o raglenni gymdeithas academaidd, ac maent yn ffordd wych o ymgysylltu ag eraill yn eich adran. Darganfyddwch fwy ar dudalennau gwe Undeb y Myfyrwyr

Students on bench, roadmap with symbol of three people together.

Cam 3: Achub ar y cyfle i uwch

Manteisiwch i'r eithaf ar y profiad a'r sgiliau ychwanegol y gallwch eu hennill wrth i chi astudio. Edrychwch ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi. 

Students Outside

Cam 4: Defnyddio eich llais

Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu eich taith gyda chi, felly mae'n bwysig eich bod yn dweud wrthym eich barn, eich syniadau a'ch profiadau wrth i chi symud ymlaen. Mae llawer o ffyrdd o rannu eich adborth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'ch llais. 

Students outside coffeeopolis