Neges groeso gan eich Cyfarwyddwr Rhaglen Gyfrifiadureg

Hoffwn i gynnig croeso gwresog i chi ar gyfer blwyddyn academaiddd 23/24. 

O’ch blaenau, mae dechrau cyffrous i’ch taith ym maes cyfrifiadureg a pheirianneg meddalwedd ym Mhrifysgol Abertawe ond yn fwy na hynny, mae profiad ehangach addysg uwch ar ddod. Gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol, prosiectau bach, cystadlaethau a mwy, rwy’n gobeithio y bydd rhywbeth i bawb ac y gallwch chi fanteisio ar yr holl brofiadau sydd ar gael. Dymunaf deithiau diogel i chi, ac edrychaf ymlaen at eich croesawu’n bersonol yn ystod sesiynau sefydlu.  

Liam O'Reilly 

Cyfarwyddwr Rhaglen (UG)