Croeso neges Cyfarwyddwr Rhaglen y Biowyddorau
"Hoffwn estyn croeso cynnes iawn i chi i gyd i Abertawe ac Adran y Biowyddorau. Rydym yn edrych ymlaen at ddod i'ch adnabod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, a gobeithio eich bod yn falch iawn o fod yma a dechrau'r cam pwysig nesaf yn eich bywydau.
Bydd llawer o weithgareddau yn yr adran a'r brifysgol yn ystod eich Wythnos Sefydlu, ond mae eich sgyrsiau sefydlu’n rhai o'r ffynonellau pwysicaf o wybodaeth am eich cwrs felly gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i'r rhain. Yn ystod y sgyrsiau, cewch gyfle hefyd i gwrdd â rhai o'ch darlithwyr ac aelodau allweddol eraill o'r staff, ond yn bwysicaf oll, byddwch yn cwrdd â'ch gilydd. Rydym wedi trefnu cinio a gweithgareddau i roi cyfleoedd ychwanegol i chi ymgartrefu a chwrdd â'ch gilydd. Yng nghanol hyn oll, cofiwch ymaelodi ag ambell gymdeithas - mae Abertawe'n cynnig rhywbeth at ddant pawb!
Rydym yn gwybod y gall dysgu yn y brifysgol fod yn heriol, felly byddwn yn cyfeirio at rai lleoedd allweddol i gael cymorth drwy gydol yr Wythnos Sefydlu, ond cofiwch ein bod yma i helpu unrhyw bryd. Mae tîm Derbynfa Adeilad Wallace, eich mentor academaidd, eich darlithydd neu ein swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl ar gael bob amser i gynnig cymorth ac arweiniad i chi.
Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi yn eich sgyrsiau sefydlu, a hoffwn estyn fy nymuniadau gorau oll i chi am eich amser yn Abertawe."
Dr Ed Pope
Cyfarwyddwr Rhaglen y Biowyddorau