Croeso neges o'ch rhaglen - Dr Jude Clancy
Croeso i Flwyddyn Gyntaf dy radd Peirianneg Sifil. Does dim ots pa lwybr y gwnest ti ei ddilyn i gyrraedd yma, rwyt ti bellach yn wynebu heriau a chyfleoedd cyffrous dros yr ychydig flynyddoedd nesaf!
Gwna'n fawr o weithgareddau'r Wythnos Groeso i ddeall dy gwrs, polisïau'r Brifysgol a dulliau cefnogi. Gwna'n siŵr dy fod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau cymdeithasol a fydd yn dy helpu i ddod i adnabod dy gyd-fyfyrwyr newydd - byddi di'n gweithio'n agos iawn gyda nhw'n fuan iawn.
Fel cydlynydd dy flwyddyn, byddaf yn delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y flwyddyn gyntaf, gan gynnig cymorth a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer dy adborth. Gelli di gysylltu â mi drwy e-bostio j.clancy@abertawe.ac.uk.
Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly cofia ofyn am gymorth gan y timau academaidd, y dderbynfa, y llyfrgell, cymorth i fyfyrwyr a'r rhai technegol. Rydym yn ymfalchïo yn y cymorth amrywiol sydd ar gael a byddwn yn rhoi gwybod iti am y rhain.
Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a'th gefnogi ar dy daith i fod yn beiriannydd sifil.
Dr Jude Clancy – Cydlynydd Peirianneg Sifil Blwyddyn 1.