Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Peirianneg Gyffredinol Blwyddyn 1.
23 Medi 202410:30 - 16:00 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 1 - 018, Y Neuadd Fawr Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol Blwyddyn 1 Peirianneg Gyffredinol. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon. 13:30 - 16:00 - Cwrdd â'ch Ffrindiau - Sesiwn Sefydlu ar gyfer y Labordy a Gweithgaredd Meithrin Tîm - B107, Adeliad Dwyreiniol Peirianneg |
24 Medi 202411:00 - 12:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg |
25 Medi 2024Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae. Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. |
26 Medi 202411:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 13:00 - 16:00 - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim. |
Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!