Neges groeso gan eich Cyfarwyddwr Rhaglen Ffiseg

Annwyl bawb, 

Llongyfarchiadau ar eich canlyniadau diweddar a dechrau ar y rhaglen ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â chi a gweithio gyda chi dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae'r Wythnos Groeso yn dechrau gyda Darlith Croeso ac Ymsefydlu, lle byddwn yn rhoi trosolwg o'r flwyddyn gyntaf o astudiaethau ar eich gradd ffiseg. Ar ôl y ddarlith bydd cinio anffurfiol, sy'n gyfle braf i gwrdd â'r darlithwyr ar eich rhaglen a sgwrsio â myfyrwyr eraill. 

Yn ystod yr wythnos, bydd sawl cyfle i ymgysylltu â'r rhai hynny a fydd yn eich cefnogi drwy gydol eich gradd, gan gynnwys y Timau Cymorth Myfyrwyr a Chyflogadwyedd. Yn olaf, ar ddiwedd yr Wythnos Groeso mae digwyddiad cymdeithasol a gynhelir gan ein cymdeithas myfyrwyr israddedig, Physoc. 

Efallai eich bod yn awyddus i ddechrau meddwl mwy am agweddau academaidd eich cwrs, a sut brofiad fydd bod yn fyfyriwr ffiseg. Os felly, edrychwch ar rai o’r fideos hyn o'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn mynd i'r afael â phroblemau ffiseg, o ddadfeiliad alffa a'r sbectrwm corff du, i sêr dwbl ac ecsoblanedau. 

Efallai y byddwch yn chwilfrydig i gael blas ar y pynciau diddorol y byddwch yn eu hastudio yn y blynyddoedd i ddod, a sut mae'r rhain yn berthnasol i ddiddordebau ymchwil eich darlithwyr. Bydd eich astudiaethau'n ymdrin â'r ystod lawn o bynciau ffiseg, o gyfansoddion sylfaenol mater (ffiseg gronynnau) i darddiad ac esblygiad y bydysawd (cosmoleg). Mae diddordebau ymchwil ein staff yn rhychwantu ystod eang debyg, gan gynnwys astudiaethau arbrofol o wrthfater a nanodechnoleg, ac ymchwil ddamcaniaethol i blasma cwarc-glwon a ffiseg gronynnau y tu hwnt i'r model safonol. Dyma drosolwg i’ch ysbrydoli o'r syniadau mawr mewn ffiseg gan y Sefydliad Ffiseg. 

Mae'r brifysgol yn fwy nag astudio academaidd, wrth gwrs - mae hefyd yn gyfle i ymuno â chymdeithasau newydd, gwneud ffrindiau newydd a meithrin hobïau, chwaraeon a diddordebau newydd yn ogystal â rhai presennol. Mae gan Abertawe lawer i'w gynnig o ran diwylliant, treftadaeth, parciau a thraethau, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich amser yma yn fawr. 

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi'n fuan! 

Dr Tim Burns (Cyfarwyddwr y Rhaglen) 

Croeso Ac Amserlenni