29 Medi 2023
11:00 - 12:00 Sgwrs Groeso gan eich Adran – 101, Yr Ysgol Reolaeth (Gorfodol)
Bydd staff academaidd allweddol, gan gynnwys cydlynwyr eich MSc, Dr Rubén Sevilla, yn rhoi i chi wybodaeth ac arweiniad a fydd yn bwysig drwy gydol eich astudiaethau. Dylai'r holl fyfyrwyr ar y rhaglenni isod fynd i'r sgwrs hon.
12:00 - 13:30 - Cinio Croeso a Rhwydweithio - Atriwm, Adeilad Gogleddol Peirianneg (Gorfodol)
Yn dilyn eich Sgwrs Groeso, ymunwch â staff yr adran a'ch cyd-fyfyrwyr newydd am ginio croeso.
Bydd bwyd a lluniaeth am ddim ar gael, gan gynnwys opsiynau llysieuol, feganaidd, dim glwten a Halal.
13:30 - 14:30 - Gwybodaeth i Fyfyrwyr, Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeilad Canolog Peirianneg (Gorfodol)
Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn ein prifysgol.
14:30 - 15:00 - Sgwrs am Iechyd a Diogelwch i'r holl Fyfyrwyr Peirianneg Ôl-raddedig a Addysgir - B004, Adeilad Canolog Peirianneg (Gorfodol)
Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch ar gyfer yr holl Fyfyrwyr Peirianneg Ôl-raddedig a Addysgir.
15:00 - 15:30 - Sgwrs am Gyflogadwyedd i Fyfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir (Pob Rhaglen Peirianneg) - B004, Adeilad Canolog Peirianneg (Gorfodol)
Cyflwyniad i Dîm Cyflogadwyedd y Gyfadran a'r cymorth y gall ei ddarparu drwy gydol eich astudiaethau.
15:30 - 16:00 MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - Sesiwn Gyflwyno (myfyrwyr sy’n gwneud MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn unig) - B004, Adeilad Canolog Peirianneg (Gorfodol)
Yn dilyn Sgwrs am Gyflogadwyedd y Gyfadran, bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar MSc gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn cael croeso a chyflwyniad i'r cynllun hwn gan Dr Vaselios Samaras.