Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso
Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 22 a 26 Medi, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.
Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!
Neges groeso gan eich cydlynydd MSc
Croeso i dy gwrs MSc Peirianneg Gyfrifiadol. Does dim ots pa lwybr y gwnest ti ei ddilyn i gyrraedd yma, rwyt ti bellach yn wynebu heriau a chyfleoedd cyffrous dros yr ychydig flynyddoedd nesaf! Gwna'n fawr o weithgareddau'r Wythnos Groeso i ddeall dy gwrs, polisïau'r Brifysgol a dulliau cefnogi.
Gwna'n siŵr dy fod yn cymryd rhan yn y digwyddiadau cymdeithasol a fydd yn dy helpu i ddod i adnabod dy gyd-fyfyrwyr newydd - byddi di'n gweithio'n agos iawn gyda nhw'n fuan iawn. Fel cydlynydd dy MSc, byddaf yn delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod dy gyfnod astudio yn Abertawe, gan gynnig cymorth a bod yn bwynt cyswllt ar gyfer dy adborth. Gelli di gysylltu â mi drwy e-bostio r.sevilla@abertawe.ac.uk
Bydd yr wythnosau nesaf yn heriol, felly mae pob croeso i ti ofyn am gymorth gan academyddion, y dderbynfa, y llyfrgell, swyddogion cymorth i fyfyrwyr, a thimau technegol.Rydym yn hynod falch o'r gwahanol fecanweithiau cymorth sydd ar gael a byddwn yn dy hysbysu amdanynt mewn pryd.Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy gefnogi ar dy daith i fod yn Beiriannydd Cyfrifiadol.
Yr Athro Rubén Sevilla – Cydlynydd MSc Peirianneg Gyfrifiadol a Mecaneg Gyfrifiadol.