27 Medi 2024
09:00 - 10:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.
10:00 - 12:00 - Sgwrs Groeso, MSc Cyfrifiadureg (Anarbenigol) - 002, Y Ffowndri Gyfrifiadol Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl ar yr MSc Cyfrifiadureg.
12:00 – 14:00 – Cofrestru Iechyd a Diogelwch – C101, Engineering Central Mae'n ofynnol i bob myfyriwr Ôl-raddedig a Addysgir gofrestru a chwblhau modiwl Iechyd a Diogelwch trwy Canvas, y platfform dysgu ar-lein. Wrth i chi aros am eich sgwrs rhaglen social, dewch i C101 os hoffech ddefnyddio'r amser i gwblhau hyn. Sylwch y bydd angen i chi fod wedi cwblhau eich cofrestriad i'ch rhaglen i fewngofnodi i gyfrifiadur personol.
12:00 - 14:00 - Sgwrs Groeso, MSc Cyfrifiadureg (Arbenigol) - 003, Y Ffowndri Gyfrifiadol Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich MSc. Dewch i'r sesiwn hon os ydych wedi cofrestru ar MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, Technoleg Meddalwedd Uwch, Seiberddiogelwch neu Wyddor Data.
14:00 - 17:30 - Digwyddiad Cymdeithasol yr MSc Cyfrifiadureg - 002, Y Twyni Ymunwch â'ch cyd-fyfyrwyr am ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu'r holl fyfyrwyr MSc newydd i'r Adran Gyfrifiadureg. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.
|