Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Biowyddorau. 

25 Medi 2024  

11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - Glaniadau, Adeliad Wallace  
Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. 

13:00 - 16:00  - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Create, Taliesin  
Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.   

26 Medi 2024  

Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae. 

Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. 

27 Medi 2024  

09:00 - 10:30 - Sgwrs Groeso, Ôl-raddedig a Addysgir (MSc ac MRes) - 218, Adeliad Wallace 
Bydd staff academaidd allweddol yn arwain y sesiwn ragarweiniol hon ar gyfer eich rhaglen ac yn rhoi gwybodaeth allweddol y mae angen i chi ei gwybod am eich astudiaethau. 

  • MSc Bioamrywiaeth a Chadwraeth Fyd-eang
  • MRes Systemau Morol a Dwr Croyw
  • MRes Ecoleg ac Esblygiad Ymddygiadol
  • MRes Bioamrywiaeth ac Ecosystemau
  • MRes Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol

10:30 - 11:30 - Sesiwn Cofrestru a Dewis Modiwlau, MSc ac MRes - 218, Adeliad Wallace 
Cyfle i ofyn cwestiynau a dewis eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. 

11:30 - 12:30 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - Darlithfa, Adeliad Wallace  
Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.  

14:30 - 16:30 - Y Biowyddorau a Daearyddiaeth - Derbyniad Croeso i Ôl-raddedigion - Cyntedd, Adeliad Wallace 
Ymunwch â staff o'ch adran a'ch cyd-fyfyrwyr am dderbyniad i groesawu pob myfyriwr ôl-raddedig newydd. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon. 

Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!