Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Cynhelir yr Wythnos Groeso rhwng 23 a 27 Medi, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau bob dydd. Dylet ti wneud ymdrech i fynd i'r holl ddigwyddiadau a restrir yn yr amserlen isod.

Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Eich Amserlen Groeso

Gweler isod am restr o ddigwyddiadau a drefnir gan eich Cyfadran a'ch Adran newydd. Ar gyfer rhai sesiynau, mae nifer o gyfleoedd i ymuno â nhw. Os nad ydych chi'n credu y gallwch chi gyrraedd y sesiwn rydyn ni wedi'i hargymell ar gyfer eich rhaglen, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio a oes cyfle arall yn ystod yr wythnos.

Oes angen help arnoch i ffeindio eich ffordd o gwmpas? Gweler y mapiau o Gampws SingletonChampws y Bae i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, Technoleg Meddalwedd Uwch, Seiberddiogelwch neu Wyddor Data.

25 Medi 2024

Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae.

Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.

26 Medi 2024

11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg
Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

13:00 - 16:00 - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd
Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.

27 Medi 2024

09:00 - 10:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg
Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol. 

10:00 – 12:00 – PC Lab - Cofrestru Iechyd a Diogelwch – C101, Engineering Central
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr Ôl-raddedig a Addysgir gofrestru a chwblhau modiwl Iechyd a Diogelwch trwy Canvas, y platfform dysgu ar-lein. Wrth i chi aros am eich sgwrs rhaglen / Social, dewch i C101 os hoffech ddefnyddio'r amser i gwblhau hyn. Sylwch y bydd angen i chi fod wedi cwblhau eich cofrestriad i'ch rhaglen i fewngofnodi i gyfrifiadur personol.

12:00 - 14:00 - Sgwrs Groeso, MSc Cyfrifiadureg (Arbenigol) - 003, Y Ffowndri Gyfrifiadol

Bydd staff academaidd allweddol o'ch Adran yn rhoi trosolwg i chi o'r hyn i'w ddisgwyl drwy gydol eich MSc. Dewch i'r sesiwn hon os ydych wedi cofrestru ar MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch, Technoleg Meddalwedd Uwch, Seiberddiogelwch neu Wyddor Data.

14:00 - 17:30 - Digwyddiad Cymdeithasol yr MSc Cyfrifiadureg - 002, Y Twyni
Ymunwch â'ch cyd-fyfyrwyr am ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu'r holl fyfyrwyr MSc newydd i'r Adran Gyfrifiadureg. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.

Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!