Croeso i Brifysgol Abertawe.
Rydym wrth ein boddau eich bod wedi dewis dilyn MSc mewn Seicoleg Chwaraeon yn yr Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau o'r radd flaenaf, a thîm addysgu sy'n arbenigwyr blaenllaw yn eu maes. Ar ben hynny, byddwch yn cael cymorth rhagorol gan y tîm academaidd a phroffesiynol, drwy gydol eich taith ôl-raddedig. Edrychaf ymlaen at rannu'r daith honno â chi
Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych gwestiynau.
Dymuniadau gorau
Dr Denise Hill (CPsychol, AFBPsS, FBASES, SFHEA)
Athro Cysylltiol Seicoleg Chwaraeon Gymhwysol
Ymarferydd Seicoleg wedi'i gofrestru gyda'r HCPC (PL040350)
Amserlen
Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar
25 Medi 2024
Neilltuwyd y diwrnod hwn i roi cyfle i ti fynd i Ffair y Glas, Undeb y Myfyrwyr. Sylwer, cynhelir y ffair hon ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe ar Lôn Sgeti ac nid ar Gampws y Bae.
Cadwa dy le drwy dudalennau Digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr.
|
26 Medi 2024
11:30 - 13:30 - Amrywio Lleisiau - B001, Adeliad Canolog Peirianneg Ymunwch â thîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gyfadran ar gyfer pizza a gweithgareddau wrth i chi gael cyflwyniad i'r gymuned amrywiol rydych chi'n ymuno â hi yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
12:00 - 13:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.
13:00 - 16:00 - Ffair Groeso'r Holl Gyfadrannau - Atriwm, Peirianneg Gogledd Byddwch yn clywed rhagor am ffyrdd o gymryd rhan, sut i ddod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi a sicrhau bod popeth yn barod gennych ar gyfer eich wythnos addysgu gyntaf. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau a chael pethau am ddim.
|
27 Medi 2024
12:00 - 13:00 - Canllaw Hanfodol i'ch Astudiaethau - B004, Adeliad Canolog Peirianneg Dewch i gwrdd â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran sydd yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r sesiwn hon yn gyfle i archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych ynghylch astudio yn y brifysgol.
13:00 - 16:00 - Croeso a Sefydlu, MSc Seicoleg Chwaraeon - A108, Adeliad Dwyreiniol Peirianneg Bydd staff academaidd allweddol yn rhoi croeso i'ch MSc. Fel rhan o'r sesiwn hon, byddwn yn darparu cinio gan gynnwys amrywiaeth o opsiynau i'r rhai sydd â gofynion dietegol gan gynnwys llysieuol, feganaidd a halal. Os oes gennych alergedd (e.e. cnau, glwten), rhowch wybod i ni erbyn 12pm ar 18 Medi fan bellaf drwy lenwi'r Ffurflen Microsoft fer hon.
|
Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!