1.1
Diffinnir ymchwilydd cyswllt fel unigolyn sydd wedi gwneud cais i dreulio cyfnod penodedig yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe heb fod yn fwy na blwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr fel arfer, ac sydd heb gofrestru ar raglen gradd ymchwil mewn unrhyw brifysgol arall neu sefydliad addysg uwch arall ar hyn o bryd.
1.2
Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd perthnasol a bennir gan y Brifysgol wrth gofrestru. Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt gyd-fynd â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt fonitro’r cyfrif e-bost y mae’r Brifysgol yn ei ddyrannu iddynt drwy gydol y cyfnod cofrestru oherwydd bydd yr holl ohebiaeth electronig a ddaw o’r Brifysgol dim ond yn cael ei hanfon at gyfrif e-bost Prifysgol yr ymchwilydd cyswllt. Argymhellir pob myfyriwr ymchwil yn gryf i ddefnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol penodedig wrth gyfathrebu gyda’r Brifysgol.