Rheoliadau ar gyfer Ymchwilwyr Cyswllt
1. Cyflwyniad
1.1
Diffinnir ymchwilydd cyswllt fel unigolyn sydd wedi gwneud cais i dreulio cyfnod penodedig yn gwneud gwaith ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe heb fod yn fwy na blwyddyn academaidd neu flwyddyn galendr fel arfer, ac sydd heb gofrestru ar raglen gradd ymchwil mewn unrhyw brifysgol arall neu sefydliad addysg uwch arall ar hyn o bryd.
1.2
Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd perthnasol a bennir gan y Brifysgol wrth gofrestru. Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt gyd-fynd â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Rhaid i bob ymchwilydd cyswllt fonitro’r cyfrif e-bost y mae’r Brifysgol yn ei ddyrannu iddynt drwy gydol y cyfnod cofrestru oherwydd bydd yr holl ohebiaeth electronig a ddaw o’r Brifysgol dim ond yn cael ei hanfon at gyfrif e-bost Prifysgol yr ymchwilydd cyswllt. Argymhellir pob myfyriwr ymchwil yn gryf i ddefnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol penodedig wrth gyfathrebu gyda’r Brifysgol.
2. Gofynion Mynediad
2.1
Bydd y Deon Gweithredol perthnasol, neu enwebai yn gyfrifol am benderfynu p’un ai y dylid derbyn ymgeisydd fel ymchwilydd cyswllt neu beidio. Dylid gwneud penderfyniadau ar sail y ffactorau canlynol:
- A yw’r Gyfadran/Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd o’r safon academaidd angenrheidiol i ymgymryd ag ymchwil yn y Brifysgol;
- A oes aelod o staff yn ddigon cymwys i weithredu fel cynghorydd yn unol â pharagraff 3;
- A oes digon o adnoddau a chyfleusterau addas yn eu lle i gefnogi’r ymchwilydd cyswllt.
3. Cynghorydd
3.1
Bydd gan bob ymchwilydd cyswllt gynghorydd a benodwyd gan y Deon Gweithredol perthnasol neu enwebai a fydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer yr ymchwilydd cyswllt. Bydd yr ymchwilydd cyswllt a’r cynghorydd yn cytuno ar gytundeb cofrestru yn manylu ar fynediad i adnoddau a chyfleusterau am hyd y cyfnod cofrestru yn ystod pwynt cychwynnol y broses gofrestru.
4. Mynediad i Adnoddau a Chyfleusterau
4.1
Bydd gan bob ymchwilydd cyswllt fynediad at adnoddau a chyfleusterau yn unol â’r cytundeb a wneir yn ystod pwynt cofrestru cychwynnol y cytundeb cofrestru.
5. Cymwysterau Gadael
5.1
Nid oes cymwysterau gadael ar gael i ymchwilwyr cyswllt.
6. Arfer Annheg
6.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Arfer Annheg Prifysgol Abertawe.
7. Addasrwydd i Ymarfer
7.1
Caiff honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.