-
Rheoliadau Cyffredinol
G1
Y marc Pasio ar gyfer modiwlau fydd 40%. Caiff credydau eu dyfarnu i ymgeiswyr sy'n pasio pob cydran o fodiwl ac sy'n cwrdd â'r gofynion isod yn unig. Mewn rhai achosion, gall y Gyfadran/Ysgol osod marc llwyddo uwch ar gyfer modiwlau neu gydrannau modiwlau. Caiff y wybodaeth hon i gyd ei hargraffu yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
G2
Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau proffesiynol, gall pob modiwl mewn rhaglenni sy'n arwain at ddyfarniad academaidd a chofrestriad proffesiynol fod â chydrannau asesu lluosog. Rhaid llwyddo ym mhob cydran. Cyfrifir y marc cyfartalog ar gyfer y modiwl drwy ddefnyddio fformiwla y cytunwyd arni'n genedlaethol. Os yw myfyriwr yn methu unrhyw gydran asesu, ystyrir bod y modiwl wedi'i fethu er gwaethaf y marc cyfartalog cyffredinol ac ni ddyfernir unrhyw gredydau.
G3
Er mwyn symud ymlaen o un lefel i'r llall, rhaid i ymgeisydd gasglu 120 o gredydau drwy basio modiwlau â marc o 40% neu'n well ym mhob modiwl.
G4
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion ymgysylltu ac asesu'r holl fodiwlau ac ennill cyfanswm o 120 o bwyntiau credyd fan leiaf.
G5
I gydymffurfio â rheoliadau Cyrff Proffesiynol a chanllawiau cenedlaethol, ni chaniateir gwneud yn iawn am fethiannau mewn modiwlau rhaglenni proffesiynol a gynigir gan Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd.
G6
Mae'r Gyfadran/Ysgol yn ystyried pob cydran o fodiwl(au) yn 'graidd" (h.y. rhaid ei basio cyn y gall ymgeisydd symud ymlaen o un Lefel i'r llall).
G7
Bydd rhaid i fyfyriwr llawn-amser gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o ddwy sesiwn academaidd, yn amodol ar gyfyngiadau amser y radd.
Fel arfer bydd yn rhaid i fyfyriwr rhan-amser gwblhau lefel astudio o fewn uchafswm o dair sesiwn academaidd, yn amodol ar gyfyngiadau amser y radd.
G8
Caiff myfyrwyr sy'n dewis peidio â cheisio gwneud iawn am fodiwl a fethwyd farc o 0%, ac fel arfer ni chynigir cyfle arall iddynt.
G9
Bydd rhaid i fyfyrwyr sy'n methu â phasio un gydran neu ragor o fodiwl wneud yn iawn am y methiant/methiannau. Caiff marciau ymgeiswyr yn Lefelau 5 a 6 sy'n bodloni'r aseswyr mewn cydrannau asesu unigol wrth ailsefyll eu capio i 40% o'r gydran asesu benodol. Ni chaiff marciau ymgeiswyr eu capio ar Lefel 3 a 4.
Fodd bynnag, wrth ailsefyll y gyfran/cydrannau asesu, bydd y marc cyfartalog cyffredinol a ddefnyddiwyd at ddibenion pennu dosbarth gradd yn ddibynnol ar y pwyntiau canlynol:
- Os yw'r marc cyfartalog cyffredinol yn cael ei gyfrifo ar y marciau a gafwyd yn y cais cyntaf ar gyfer pob cydran asesu yn uwch na 40%, defnyddiwr y marc hwnnw at ddibenion pennu dosbarth gradd. Hynny yw, bydd ailsefyll y gydran/cydrannau asesu a fethwyd yn caniatáu i'r myfyriwr gael credyd am y modiwl hwnnw'n unig ac ni fydd yn effeithio ar y marc cyfartalog cyffredinol gwreiddiol.
- Os yw'r marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y modiwl yn is na 40% yn dilyn y cais cyntaf o'r gydran asesu unigol, caiff y cyfartaledd cyffredinol a addaswyd, a fydd wedi'i godi o ganlyniad i lwyddo yn y cydrannau a fethwyd, yn cael eu capio ar 40%.
G10
Ni fydd hawl gan ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un Lefel Astudio i’r nesaf ddewis ailadrodd unrhyw fodiwl a basiwyd eisoes er mwyn gwella eu perfformiad.
G11
Cydnabyddir na fydd modd i rai ymgeiswyr fynychu arholiadau neu gyflwyno gwaith cwrs ar y dyddiad a gytunir e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Caiff pob cais o'r fath ei ystyried yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu. Yn achos ymgeiswyr na allant fynychu arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohirio gael eu hystyried a'u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Caiff ceisiadau i ystyried amgylchiadau esgusodol sy'n effeithio ar waith cwrs eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig sy'n weithredol yn y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywydg. Bydd y gweithdrefnau hyn ar gael i fyfyrwyr yn flynyddol.
Cynghorir myfyrwyr a staff i ddarllen Polisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol.
G12
Gellir gwneud penderfyniadau dilyniant i ymgeiswyr rhan-amser gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol cyn gwybod canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau.
G13
Ni fyddai disgwyl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ganiatáu i ymgeisydd fynd ymlaen i’r Lefel Astudio nesaf oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf sylfaenol.
G14
Cyflwynir penderfyniad academaidd o Dynnu'n ôl o'r Brifysgol yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n methu â chwblhau lefel astudio.
Ni roddir unrhyw geisiadau pellach i wneud iawn am fethiannau i fyfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, os yw ymgeisydd yn cael penderfyniad "gofynnir i chi adael y Brifysgol" ni chaiff ei aildderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd, gall y myfyrwyr hynny fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael (gweler G23). Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol fydd yn gyfrifol am ystyried nifer y credydau a enillwyd ac, os yw’n briodol, am ddyfarnu’r cymhwyster ymadael perthnasol.