Graddau Cychwynnol Uwch
1. Cyflwyniad
1.1
Dyfernir Graddau Meistr i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith ar flaen y gad;
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu i ysgolheictod uwch;
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth;
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- I werthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol yn y ddisgyblaeth
- I werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt, a lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol; gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn; a chyfleu eu casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg;
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chwblhau tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol;
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan y deiliaid:
- Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Defnyddio menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Bydd gofyn i ymgeiswyr amser llawn fel rheol ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 120 credyd mewn un flwyddyn.
2.2
Seilir strwythur y rhaglen ar y canllawiau canlynol:
Anrhydedd Sengl
O leiaf 100 credyd mewn modiwlau a ddynodwyd fel cydrannau’r rhaglen gradd a enwyd neu fodiwlau mewn disgyblaethau cysylltiol ar bob lefel.
3. Arfer Diwydiannol/Lleoliad Gwaith/Lleoliadau Rhyngosodol /Cyfnod Astudio Dramor
3.1
Os bydd rhaglen gradd yn cynnwys arfer diwydiannol annatod a gorfodol a/neu leoliad rhyngosodol, rhaid i’r lleoliad fod â phwysiad credyd.
3.2
Cynyddir isafswm y credydau sy'n ofynnol i ennill cymhwyster os bydd y lleoliad yn estyn hyd y rhaglen gradd. Pennir pwysiad y credydau a lefel y lleoliad yn yr un modd ag ar gyfer modiwl a addysgir. Rhaid i faes llafur unrhyw raglen gradd sy'n cynnwys lleoliad, boed yn llwyr neu yn rhannol, osod nodau, deilliannau dysgu a dull asesu’r lleoliad.
3.3
Pennir dosbarth ymgeiswyr sy'n dilyn rhaglen sy’n cynnwys Arfer Diwydiannol, Lleoliad Rhyngosodol neu Gyfnod Astudio Dramor yn unol â’r confensiynau a amlinellir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion. Dynodir marciau i ymgeiswyr ar Lefel S, ond ni ddynodir marciau ar gyfer Lefel E.
3.4
Rhaid i ymgeiswyr fodloni gofynion y Brifysgol o ran symud ymlaen i, ac o, Lefel S a Lefel E, fel yr amlinellir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
3.5
Rhaid cwblhau'r lleoliad diwydiannol (Lefel E) neu’r flwyddyn ryngosodol (Lefel S) cyn y flwyddyn astudio olaf, a bydd hyn yn digwydd fel rheol yn ystod blwyddyn astudio olaf ond un y myfyriwr.
4. Trosglwyddo Credydau
4.1
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29).
4.2
Ni ddylai uchafswm y credydau y gellir eu derbyn i gyfrif tuag at radd gychwynnol uwch fod yn fwy na 240 (h.y. rhaid i ymgeiswyr fel rheol ddilyn o leiaf 240 credyd yn Abertawe am radd). Lle derbyniwyd uchafswm y credydau trosglwyddadwy, rhaid i’r 240 credyd sy'n weddill, a ddilynir yn Abertawe, gynnwys 120 credyd ar Lefel 6 a 120 credyd ar Lefel 7.
4.3
Bydd dosbarth y radd a ddyfernir i ymgeiswyr sy'n cael eu derbyn yn uniongyrchol i ddwy flynedd olaf astudio am Radd Gychwynnol Uwch yn seiliedig ar gyfartaledd y modiwlau a ddilynwyd yn Abertawe.
5. Trosglwyddo Rhwng Rhaglenni (Trosglwyddo rhwng y Radd Gychwynnol Uwch a’r Radd Gychwynnol Gytras)
5.1
Yn ôl doethineb y Gyfadran/Ysgol dan sylw, gall ymgeisydd sydd wedi cyflawni safon ddigonol yn y rhaglen astudio gytras am radd Faglor israddedig drosglwyddo ei gofrestriad i’r radd gychwynnol uwch ar y pwyntiau canlynol:
- Naill ai: wedi cwblhau 120 credyd ar Lefel 4;
- Neu: wedi cwblhau 120 credyd pellach ar Lefel 5.
5.2
Rhaid i’r cyfryw ymgeiswyr fodloni’r rheoliadau academaidd ac ariannol a rhaid i unrhyw ymgeisydd sy'n trosglwyddo felly fodloni ei hun parthed unrhyw oblygiadau ariannol.
5.3
Bydd ymgeisydd o’r fath yn ymuno â rhaglen y radd gychwynnol uwch ar y pwynt priodol a, fan hwyraf, ar ddechrau Lefel 6.
5.4
Caniateir i’r Cyfadrannau/Ysgolion ychwanegu rheoliadau llymach ar gyfer trosglwyddo rhwng rhaglenni gradd faglor israddedig a chynlluniau gradd gychwynnol uwch, a bydd y manylion ar gael yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol dan sylw.
5.5
Yn ôl doethineb y Gyfadran/Ysgol dan sylw, gall ymgeisydd am radd gychwynnol uwch drosglwyddo, neu gall fod yn ofynnol iddo drosglwyddo, ei gofrestriad i raglen gradd faglor gytras ar y pwyntiau canlynol:
- Naill ai: wedi cwblhau 120 credyd ar Lefel 4;
- Neu: wedi cwblhau 120 credyd pellach ar Lefel 5.
5.6
Rhaid i’r cyfryw ymgeiswyr fodloni’r rheoliadau academaidd ac ariannol a rhaid i unrhyw ymgeisydd sy'n trosglwyddo felly fodloni ei hun parthed unrhyw oblygiadau ariannol.
5.7
Bydd ymgeisydd o’r fath yn ymuno â rhaglen y radd faglor gytras ar y pwynt priodol a, fan hwyraf, ar ddechrau Lefel 6.
5.8
Anfonir pob cais i drosglwyddo i raglen arall at Wasanaethau Addysg am gymeradwyaeth derfynol.
5.9
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae caniatâd i newid rhaglen yn amodol ar feddu ar deitheb ddilys Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo.
Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI).
Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
6. Rheoliadau Asesu
6.1
Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel rheol naill ai yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
6.2
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau rhaglen astudio’r Radd Gychwynnol Uwch yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd a amlinellir yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
6.3
40% fydd y marc pasio am fodiwl ar bob lefel ac eithrio Lefel 7, lle bydd y marc pasio yn 50%.
7. Cymwysterau Ymadael
7.1
Os derbynnir ymgeisydd i raglen gradd gychwynnol uwch fodiwlaidd ond na all, neu na chaniateir iddo, wedi hynny symud ymlaen i'w chwblhau, gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, gall fod yn gymwys am gymhwyster ymadael. Ceir manylion am gymwysterau ymadael yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
8. Terfynau Amser
8.1
Amser llawn | Rhan-amser | Modd Mynychu Cymysg | |
---|---|---|---|
Byrraf |
4 blynedd am raglen 4 blynedd | 7 blynedd | 5 mlynedd am raglen 4 blynedd |
5 mlynedd am raglen 5 mlynedd | 8 mlynedd | 6 blynedd am raglen 5 mlynedd | |
Hwyaf | 6 blynedd am raglen 4 blynedd | 10 mlynedd | 7 mlynedd am raglen 4 blynedd |
7 mlynedd am raglen 5 mlynedd | 10 mlynedd | 8 mlynedd am raglen 5 mlynedd |
8.2
Bydd y cyfnodau cofrestru hwyaf a byrraf a ganiateir fel rheol yn fyrrach i fyfyrwyr a dderbynnir gyda throsglwyddiad credyd am astudio a/neu brofiad blaenorol.
8.3
Amser llawn | Rhan-amser | |
---|---|---|
Byrraf | 2 flynedd |
4 blynedd
|
Hwyaf | 4 blynedd | 8 mlynedd |
9. Cymhwysedd am Ddyfarniad
9.1
I fod yn gymwys i’w hystyried ar gyfer gradd gychwynnol uwch gan Brifysgol Abertawe, rhaid i ymgeiswyr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru hwyaf, ac ennill credydau, fel a ganlyn. Caniateir addasiadau ar gyfer ymgeiswyr y caniateir iddynt ddilyn modiwlau dewisol ar lefel is.
Rhaglen Gradd Anrhydedd Amser Llawn
|
Credydau i'w dilyn
|
---|---|
Gradd Gychwynnol Uwch 4 blynedd
|
480 credyd, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, isafswm o 120 credyd ar Lefel 6, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 7.
|
Gradd Gychwynnol Uwch 5 mlynedd
|
480 credyd, gydag isafswm o 120 credyd ar Lefel 4, isafswm o 120 credyd ar Lefel 5, isafswm o 120 credyd ar Lefel 6, ac isafswm o 120 credyd ar Lefel 7.
Yn ychwanegol, 120 o gredydau ychwanegol ar y flwyddyn ryngosodol (Lefel S) neu leoliad gwaith (Lefel E).
|
10. Derbyn i Radd
10.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am radd gychwynnol uwch o dan y Rheoliadau hyn, dylai ymgeiswyr fod:
- Wedi dilyn rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol, ac eithrio dan yr amgylchiadau a nodir yn Adran 4;
- Wedi ennill isafswm y credydau a bennir gan y Brifysgol mewn rhaglen a gymeradwyir gan y Brifysgol;
- Wedi bodloni unrhyw amod(au) pellach a fynnir gan y Brifysgol.
10.2
Cyhoeddir enwau’r ymgeiswyr am radd Anrhydedd sydd wedi bodloni gofynion asesu’r rhaglen a’r Brifysgol yn y dosbarthau Anrhydedd canlynol:
- Cyntaf;
- Ail Ddosbarth Rhan Un;
- Ail Ddosbarth Rhan Dau;
- Trydydd Dosbarth;
- Gradd Basio.
11. Graddau Aegrotat
11.1
Gellir rhoi dyfarniad Aegrotat i ymgeisydd nad yw'n gallu parhau i astudio, ar y dybiaeth y byddai wedi bodloni'r safon angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad pe byddai modd iddo barhau i astudio.
11.2
Gwneir dyfarniad Gradd Aegrotat yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu, a Thystysgrifau Aegrotat.
11.3
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn rhaglenni proffesiynol mewn gofal iechyd ac sy'n derbyn gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn gymwys i gofrestru gyda chyrff gofal iechyd proffesiynol.
12. Graddau ar ôl Marwolaeth
12.1
Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad. Gwneir dyfarniad gradd ar ôl marwolaeth yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth.