Diploma Addysg Uwch
Rheoliadau Penodol
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff Diploma Addysg Uwch ei dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion sefydledig eu maes neu feysydd astudio, a'r modd y mae'r egwyddorion hyn wedi datblygu;
- y gallu i gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol y tu hwnt i'r cyd-destun lle y'u hastudiwyd i ddechrau, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, rhoi'r egwyddorion hynny ar waith mewn cyd-destun cyflogaeth;
- gwybodaeth o'r prif ddulliau ymchwilio yn y pwnc neu'r pynciau sy'n berthnasol i'r cymhwyster a enwir, a'r gallu i werthuso'n feirniadol addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn y maes astudio;
- dealltwriaeth o derfynau eu gwybodaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddadansoddiadau a dehongliadau sy'n seiliedig ar yr wybodaeth honno.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- defnyddio amrywiaeth o dechnegau sefydledig i gychwyn a chynnal dadansoddiad beirniadol o wybodaeth, ac i gynnig atebion i broblemau sy'n codi o'r dadansoddiad hwnnw;
- cyfleu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad yn effeithiol mewn amrywiaeth o ddulliau i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg, a rhoi technegau allweddol y ddisgyblaeth ar waith yn effeithiol;
- ymgymryd â rhagor o hyfforddiant, datblygu sgiliau cyfredol, a dysgu cymwyseddau newydd a fydd yn eu galluogi i dderbyn cyfrifoldeb sylweddol mewn sefydliadau.
A bydd gan y deiliaid:
- y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae angen ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Cynigir rhaglenni Diploma Israddedig ar sail cyfnod astudio dwy flynedd amser llawn (neu’r hyn sy’n cyfateb yn rhan-amser).
2.2
Disgwylir fel rheol i ymgeiswyr ddilyn yr hyn sy’n cyfateb i 120 credyd yn ystod pob blwyddyn academaidd.
2.3
Adeiledir strwythur y rhaglen ar 120 credyd ar Lefel 4 a 120 credyd ar Lefel 5 mewn modiwlau a ddynodwyd fel cydrannau’r rhaglen a enwyd neu fodiwlau mewn disgyblaethau perthynol ar y naill lefel a’r llall.
3. Trosglwyddo Credyd
3.1
Tynnir sylw myfyrwyr at y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Israddedigion - Trosglwyddo Credydau (Rheoliad 29).
3.2
Uchafswm nifer y credydau a dderbynnir i gyfrif tuag at Ddiploma Israddedig fydd 120 credyd.
3.3
Lle derbyniwyd uchafswm y credydau trosglwyddadwy, bydd y credydau sydd yn weddill i’w dilyn yn Abertawe fel rheol ar Lefel 4 neu yn uwch.
4. Terfynau Amser
4.1
Dyma fydd uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth ymgeiswyr sydd yn dilyn Diploma Israddedig:
- Amser llawn: dim mwy na thair blynedd o gychwyn y rhaglen;
- Rhan-amser: dim llai na thair blynedd a dim mwy na chwe blynedd o gychwyn y rhaglen.
4.2
O fewn y terfynau amser cyffredinol hyn, gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu terfynau amser is ar gyfer rhaglenni astudio unigol.
4.3
Gellir ymestyn y terfyn amser cyffredinol yn unol â’r rheoliadau a amlinellir yn rheoliad 27 y Rheoliadau Cyffredinol.
4.4
Gellir gostwng y terfyn amser uchod pro rata ar gychwyn yr ymgeisyddiaeth gan y Gyfadran/Ysgol dan sylw lle derbyniwyd ymgeisydd i astudio gyda chredydau trosglwyddadwy, fel y’i disgrifir ym mharagraff 3.
5. Rheoliadau Asesu
5.1
Caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu fel rheol naill ai yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth wedi ei gwblhau.
5.2
Bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio tystysgrif israddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd fel y’u hamlinellir yn Rheoliadau Asesu Israddedigion.
5.3
40% fydd marc pasio modiwl.
6. Cymwysterau Ymadael
6.1
Os derbynnir ymgeisydd i raglen diploma israddedig ond ni all, neu ni chaniateir iddo, wedi hynny fwrw ymlaen i'w chwblhau, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gafwyd ar y lefelau priodol adeg gadael, gall dderbyn cymhwyster ymadael. Ceir manylion am gymwysterau ymadael yn y Rheoliadau Asesu Israddedigion.
7. Dyfarnu Cymhwyster
7.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am ddiploma israddedig Prifysgol Abertawe, rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
- dilyn rhaglen astudio gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol;
- dilyn isafswm o 120 credyd ar Lefel 4 a 120 credyd ar Lefel 5, oni ddarperir fel arall yn Adran 3;
- bodloni unrhyw amod(au) pellach a fynnir gan y Gyfadran/Ysgol neu’r Brifysgol.
7.2
Bydd ymgeisydd sydd yn cwblhau Diploma Addysg Uwch israddedig yn llwyddiannus yn gymwys am ddyfarniad Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc cyffredinol o 70% neu’n uwch (neu’r pwynt graddfa cyfatebol) am y cymhwyster dan sylw.
8. Derbyn i’r Cymhwyster
8.1
Dyfernir Diploma Addysg Uwch i ymgeiswyr yn seremoni wobrwyo Prifysgol Abertawe.
9. Dyfarniad Aegrotat
9.1
Gellir rhoi dyfarniad Aegrotat i ymgeisydd nad yw'n gallu parhau i astudio ar y dybiaeth y byddai wedi bodloni'r safon angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad, pe gallasai wedi parhau i astudio.
Gwneir dyfarniad Diploma Addysg Uwch Aegrotat yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu, a Thystysgrifau Aegrotat.
9.2
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn rhaglenni proffesiynol mewn gofal iechyd ac sy'n derbyn gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn gymwys i gofrestru â chyrff gofal iechyd proffesiynol.
10. Cymhwyster wedi Marwolaeth
10.1
Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad. Gwneir dyfarniad Diploma Addysg Uwch ar ôl marwolaeth yn unol â'r Rheoliadau ar gyfer Dyfarniadau Ar Ôl Marwolaeth.